Gydag Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, mae’r Athro David Woods yn ystyried buddion ehangach arweinyddiaeth systemau ar gyfer pob ysgol yng Nghymru…

 

O’i mynegi’n syml, mae arweinyddiaeth systemau’n cyfeirio at y math o arweinyddiaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r ysgol unigol i ddylanwadu’n fwy eang ar addysg, cyflawniad a lles plant a phobl ifanc.

Mewn ardal neu ranbarth, bydd yr ysgolion a’r arweinwyr gorau’n ymestyn eu hymchwil ar draws ysgolion eraill er mwyn i’r holl ysgolion wella.

Drwy’r system mae ffocws ar bartneriaethau cydweithredol, rhannu arbenigedd ac adnabod a lledaenu arfer gorau a fydd yn cael effaith fawr.

Mae arweinwyr systemau’n sylweddoli bod yr ystafell ddosbarth, ysgolion a’r system yn effeithio ar ei gilydd ac maen nhw eisiau mynd i’r afael â hyn mewn modd ystyrlon.  Felly, a derbyn bod y model iawn o ran gwella ysgolion ar gael yn yr ardal neu’r rhanbarth, beth mae arweinyddiaeth systemau’n ei wneud?

Mae’n gallu:

  • Grymuso’r arweinwyr go iawn sy’n gallu achosi i newid ddigwydd;
  • Dod o hyd i amser a chreu lle ar gyfer arloesi;
  • Cadw’r gwaith lle mae angen iddo fod – yn agos at flaen y gad;
  • Cynnal ymdeimlad o ymdrech ar y cyd a hinsawdd ar gyfer gwella;
  • Dylanwadu ar system addysg ar lefel ochrol a lefel fertigol.

Ar ei ffurf fwyaf aeddfed, bydd arweinyddiaeth systemau’n mynd y tu hwnt i benaethiaid ysgol ac uwch arweinwyr ac yn cynnwys arweinwyr eraill ac athrawon mewn ysgolion – gan dreiddio’n ddyfnach ac yn ehangach.

Weithiau byddwn ni’n cyfeirio at hyn fel ‘arweinyddiaeth systemig’, lle bydd ystod o arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion ar wahanol lefelau’n rhannu cymhelliad proffesiynol cryf i gydweithio.

Drwy roi cymorth a her i ysgolion eraill maen nhw’n chwilio am fuddion i’r ddwy ochr sy’n arwain at hunan-welliant drwy arsylwi, gwerthuso, adfyfyrio a datblygu arfer ar y cyd, yn ogystal â lledaenu’r arfer mwyaf effeithiol.

Bydd arweinwyr systemig yn cymryd cyfrifoldeb proffesiynol am arwain, cydlynu a chyflwyno gwelliannau cynaliadwy mewn ysgolion.

Fodd bynnag, mae nifer o broblemau ynghlwm â chael arweinyddiaeth systemau i weithio’n effeithiol.  Mae’r mater cyntaf yn ymwneud â’r modd y mae system addysg yn dynodi arweinwyr systemau ac yn rhoi’r awdurdod a’r dilysrwydd iddyn nhw i weithio gydag ysgolion eraill.

Y modd arferol o wneud hyn yw bod awdurdod ardal yn cydnabod safonau uchel ysgol o’r fath a fydd hefyd wedi derbyn y radd uchaf mewn arolygiad ac yn meddu ar hanes o gefnogi ysgolion eraill.

Wrth gwrs, mae’n bosibl y bydd arweinwyr ysgol mewn ysgolion sy’n ceisio gwella yn adnabod buddion partneriaeth ag ysgol gryfach ac yn ceisio trefnu hyn eu hunain, ond ni fydd hyn yn gweithio’n gyson ar draws ardal.

Ail fater yw parodrwydd neu amharodrwydd  ysgolion sy’n perfformio’n dda iawn i arfer arweinyddiaeth systemau.

Mewn unrhyw system o atebolrwydd lle mae llawer iawn yn y fantol, y temtasiwn i arweinwyr ysgol yw rhoi’u holl egni i mewn i redeg eu hysgol eu hunain, heb boeni am lwyddiant plant a phobl ifanc mewn ysgolion eraill.

Dan rai amgylchiadau, lle mae ysgolion yn cystadlu â’i gilydd yn uniongyrchol, mae’n anodd iddyn nhw weithio gyda’i gilydd er lles pawb.

Hyd yn oed os ymdrinnir â’r materion blaenorol yn llwyddiannus, sut dylai ardaloedd ac ysgolion fynd ati i sefydlu systemau trefniadol i weithio gyda’i gilydd a rhannu gwybodaeth â’r rheini sydd angen dysgu drwy gymorth oddi wrth un ysgol i’r llall?

Yn y sefyllfa hon mae angen rhywfaint o hyfforddi, yn enwedig yng nghyswllt meithrin perthynas, hyfforddiant a mentora.  Yn olaf, pwy sy’n gosod ysgolion gyda’i gilydd, a derbyn na fydd y rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud hynny drostyn nhw’u hunain?

Ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd ysgol sy’n llwyddo mewn un cyd-destun yn llwyddo wrth weithio gydag ysgolion sydd angen gwella mewn cyd-destun gwahanol.

Mae angen i hyn gael ei wneud gyda gofal gan awdurdod trefniadol sydd yn denu hyder yr ysgolion dan sylw, gan gymryd yr holl ffactorau cyd-destunol i ystyriaeth.

Mae gwerthusiadau o systemau datblygedig yn adrodd bod arweinyddiaeth systemau’n gweithio orau pan fydd wedi’i seilio ar bwrpas moesol nerthol a chynhwysol y mae arweinwyr ysgol yn ei rannu ac yn ei weithredu, gan gredu bod yr holl blant a phobl ifanc mewn ardal neu ranbarth lleol yn haeddu’r addysg orau bosibl.

Fe allen ni alw hyn yn gyfalaf moesol. O’r man cychwyn hwn, mae modd cynyddu cyfalaf gwybodaeth, sef dynodi’r ysgolion a’r unigolion hynny sydd â’r arfer gorau o ran gwella ysgolion a dal gafael ar hyn yn effeithiol.

Weithiau, wrth gwrs, mae’r arfer gorau mewn agwedd benodol ar addysg i’w ganfod mewn ysgolion llai llwyddiannus ac mae angen cydnabod hyn.

Mae’n bwysig hefyd ddatblygu cyfalaf cymdeithasol, gan helpu ysgolion a staff i ddatblygu sgiliau sy’n sicrhau perthnasau gweithio da – a hefyd cyfalaf trefniadol, gan sefydlu systemau trefniadol i rannu gwybodaeth ac arfer, a galluogi’r rheini sydd angen dysgu i wneud hyn yn effeithlon.

Mae gwerthusiadau hefyd yn pwyntio at fonws lle mae’r ddwy ochr ar eu hennill, gan fod yr ysgolion sy’n darparu’r cymorth yn rhoi min ar eu harweinyddiaeth hwythau a’u methodoleg gwella ysgolion, yn ogystal â’r ysgolion sy’n derbyn y cymorth.

Gall hyn arwain at ‘gynnydd dwbl’ o ran deilliannau perfformiad, ac felly gall wella addysg yn yr ardal gyfan.

Er mwyn gwneud i arweinyddiaeth systemau weithio’n dda iawn, mae angen i bob arweinydd ysgol fod â’r bwriad o greu ysgolion sy’n edrych tuag allan, gan weithio gyda’i gilydd mewn hinsawdd o gymorth a her rhwng y naill a’r llall.

Dylen nhw ddatblygu perthnasau effeithiol â’u cydweithwyr proffesiynol wedi’u seilio ar ymddiriedaeth a gonestrwydd, gan hyrwyddo arfer gorau ac ymdrechu i gael tegwch a gwell canlyniadau i’r holl blant a phobl ifanc.

Dylai arweinwyr systemau fodelu dulliau arloesol o ran gwella, arwain a llywodraethu ysgolion sydd wedi’u seilio ar arfer rhagorol ac ymchwil ar sail tystiolaeth.  Dylen nhw geisio ysbrydoli a dylanwadu ar eraill, o fewn a thu hwnt i’w hysgolion eu hunain, er mwyn i’r system addysg gyfan allu gael ei thrawsnewid.

  • Mae’r Athro David Woods yn Gadeirydd Strategaeth Arweinyddiaeth Llundain ac yn aelod o Gomisiwn Addysg Cymru