Wrth i Gymru ddatblygu ei chwricwlwm cenedlaethol newydd, mae Gareth Evans yn ein rhybuddio bod angen lle ar athrawon i arloesi, ac ni ddylem geisio i orlwytho’r sawl sy’n gyfrifol am addysgu cenedlaethau’r dyfodol…

 

Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.

Ac nid yw hyn yn syndod, o ystyried yr effaith barhaol, arwyddocaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.

Athrawon yw asiantau newid a, hebddynt, nid oes fawr o bosibilrwydd y bydd Cymru’n cyrraedd yr uchelfannau y mae pob un ohonom yn anelu atynt.

Felly, braf oedd clywed yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn defnyddio’i phrif araith yn y Gynhadledd Addysg Genedlaethol ddiweddar i gadarnhau ei hedmygedd o’r proffesiwn addysg.

Ni allai ei datganiad mai “addysgu yw’r swydd bwysicaf yn y byd” fod wedi bod yn gliriach ac rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth ar gyfer y rôl gymdeithasol hynod arwyddocaol sy’n cael ei chyflawni gan athrawon.

Roedd cyflwyno’r Arolwg Cenedlaethol o’r Gweithlu Addysg am y tro cyntaf – dan law Cyngor y Gweithlu Addysg – yn ychwanegiad cadarnhaol at dirlun addysgol Cymru ac mae’n arwydd o’r diwylliant o gydweithredu y mae Ms Williams wedi mynd i drafferth fawr i’w feithrin ers ei phenodi fis Mai diwethaf.

Diddorol fydd gweld beth a ddaw o ganlyniadau’r arolwg.

Yn sicr, bydd elfennau o’r arolwg yn anodd eu darllen; nid yw pethau’n hawdd i athrawon ac mae cyllid yn brin.

Ond, gellir dadlau na fu erioed amser gwell i fod yn gweithio yn system addysg Cymru.

Mae gweinidogion wedi disgrifio cynlluniau’r Athro Graham Donaldson i ryddhau’r proffesiwn a rhoi mwy o ryddid i ysgolion ateb anghenion unigol eu disgyblion eu hunain fel “cam hanesyddol ymlaen yn hanes addysg Cymru”.

Bydd yr hyn y mae plant yn ei ddysgu yn ystafelloedd dosbarth Cymru, a sut, yn newid yn ddramatig dros y blynyddoedd nesaf ac mae ysgolion, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chonsortia rhanbarthol, wedi cael penrhyddid i’n harwain drwy’r trawsnewid hwnnw.

Nid yw diwygio fel hyn yn digwydd yn aml iawn; mae ehangder enfawr iddo a’i gwmpas yn bellgyrhaeddol.

Ond mae trawsnewid cwricwlwm cenedlaethol Cymru yn gyffrous a brawychus fel ei gilydd.

Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle gwych i ddylunio, datblygu a gweithredu ein maes llafur pwrpasol ein hun er budd ein dysgwyr ein hunain yng Nghymru.

Mae llawer wedi newid ers cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol presennol mewn ysgolion gwladol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym 1988.

Cysyniad oedd y we fyd-eang bryd hynny ac nid oedd llawer o athrawon heddiw wedi’u geni hyd yn oed.

Rydym yn byw mewn oes wahanol iawn; mae globaleiddio yn nodwedd amlwg, mae datblygiadau technolegol wedi symud pyst y gôl ac mae cyflogwyr yn mynnu sgiliau lefel uwch, newydd.

Ond mae’r Athro Donaldson ei hun wedi rhybuddio “nad cwestiwn o bwyso botwm” yw diwygio cwricwlwm cenedlaethol Cymru ac y gallai sawl blwyddyn fynd heibio cyn i’r trefniadau newydd wreiddio’n iawn.

Gyda hynny mewn golwg, rhaid i ni barchu’r broses embryonig sy’n mynd rhagddi a gochel rhag cyfyngu’n hunain i derfynau amser caeth.

Er mwyn i’n cwricwlwm newydd wir gael ei adeiladu ar y cyd, rhaid i ni roi’r gallu iddo wneud hynny’n organig a bod yn rhydd rhag ymyrraeth wleidyddol (mae’r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer diwygio’r cwricwlwm hyd yn hyn wedi bod yn galonogol).

Ni fydd troi gweledigaeth yr Athro Donaldson yn gwricwlwm diriaethol yn hawdd a bydd sawl tro trwstan ar y daith, ond rydym ran o’r ffordd yn unig drwy’r broses ddiwygio ac mae llawer mwy o waith i’w wneud.

Efallai ei bod hi’n gyfle da yn awr i fyfyrio ar ein taith hyd yma a faint yn rhagor sydd i fynd.

Wrth symud ymlaen, rhaid i ni ochel rhag llethu’r bobl sydd â’r gwaith o addysgu’r genhedlaeth nesaf.

Ni ddylai trawsnewid radical ac arloesol yr Athro Donaldson gael ei ystyried yn ddrws agored ar gyfer asiantaethau allanol sy’n crochlefain am gwricwlwm wedi’i greu’n bwrpasol i’w dymuniadau a’u hanghenion nhw.

Yn ôl cronfa ddata hollgynhwysol Cymwysterau yng Nghymru, mae cymaint ag 8,723 o gymwysterau nad ydynt yn gymwysterau gradd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’n hynny’n ymddangos yn nifer chwithig i genedl sy’n awyddus i leihau a symleiddio’r hyn y mae’n ei gynnig i blant.

Siaradodd y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews, am “y paradocs dewis” yn ei araith yn 2011 o dan y teitl craff ‘Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth’.

Gan ddyfynnu’r seicolegydd o America, Barry Schwartz, meddai: “Pan nad oes dewis gan bobl, mae bywyd yn annioddefol bron. Wrth i nifer y dewisiadau gynyddu… mae’r annibyniaeth, y rheolaeth a’r rhyddid a ddaw yn sgil yr amrywiaeth hwn yn rymus a chadarnhaol.

“Ond wrth i nifer y dewisiadau barhau i dyfu, mae’r agweddau negyddol ar gael lliaws o opsiynau yn dechrau ymddangos… Ar yr adeg hon, nid yw dewis yn rhyddhau mwyach, mae’n llesgáu.”

Ychwanegodd Mr Andrews: “Os ydym am fod yn onest â ni’n hunain, mae’n rhaid i ni gydnabod bod rhaid i ni gyfyngu ar ddewis er mwyn i ni sicrhau bod pynciau strategol yn cael eu haddysgu a bod sgiliau allweddol yn cael eu dysgu.”

Rydym ni’n wynebu’r un cyfyng-gyngor yn awr.

Mae tuedd gan gymdeithas i ychwanegu mwy a mwy at y cwricwlwm a disgwyl i athrawon ysgwyddo’r baich.

Canlyniad hyn yw pair o elfennau sy’n gorlifo – yn ddi-reolaeth yn aml – yn debyg i’r hyn a bortreadir yn nrama Shakespeare, Macbeth.

Y galw yn ddiweddar am wersi gorfodol ar berthnasoedd oedd y diweddaraf mewn rhestr hir o gynhwysion i’w hychwanegu at y cawl – ac yn fuan iawn, bydd rhywbeth arall yn cael ei daflu i’r cymysgedd.

Y gwir yw, mae athrawon eisoes yn treulio gormod o amser ac egni’n poeni am gwricwlwm astrus, gorlawn, a dylem anelu at symleiddio, nid drysu pethau ymhellach.
Nid wyf yn amau nad yw amrywiaeth yn bwysig – fel y mae’r ychwanegiadau niferus posibl sy’n cael eu hystyried.

Ond os ydym o ddifrif ynghylch unioni’r anghydbwysedd yn sgiliau’r genedl – y mae Estyn a dangosyddion perfformiad eraill yn ei amlygu mor rheolaidd – rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn rhoi gormod ar ein plât.

Wedi’r cyfan, dim ond hyn a hyn o amser sydd gan athrawon gyda disgyblion a dichon nad bwriad yr Athro Donaldson oedd rhoi mwy fyth o faich gwaith papur a pharatoi ar ysgolion.

Cynildeb sydd orau yn aml a rhaid ceisio cydbwysedd ymarferol.

Fodd bynnag, nid yw gorlwytho yn unigryw i Gymru o bell ffordd, a gwnaed y pwynt hwn gan Brif Arolygydd newydd Ofsted, Amanda Spielman, mewn cyfweliad diweddar.

Meddai: “Rydych chi’n treulio ychydig amser mewn addysg ac yn dod i arfer â phobl yn dweud ‘mae’n rhaid bod hwn yn y cwricwlwm cenedlaethol’ ac rydych yn sylwi bod y cyfan yn dod at ei gilydd i greu rhyw bum cwricwlwm yn gyfan gwbl.”

Rhaid i ni fod yn ofalus nad yw’r cwricwlwm y bwriadwyd iddo fod yn gwricwlwm eang, cytbwys a chyfoethog yn arwain at rywbeth gorlawn ac anhylaw.

Yng ngwir ysbryd Dyfodol Llwyddiannus, rhaid rhoi amser i athrawon feddwl, myfyrio, datrys problemau ac arleosi – a gall hynny ond ddigwydd os yw’r cwricwlwm yn rhoi’r cyfle gofynnol hwnnw.

Ni all fod ‘yn bopeth i bawb’.

Yn ei lythyr diweddar at Ms Williams, dywedodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ei fod yn ystyried mai cynllunio a datblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru fyddai “yn un o’r prif bethau sydd yn rhaid eu gwneud yn gywir yn ystod y Pumed Cynulliad”.

Mae’n anodd anghytuno, er, mae pob un ohonom yn gyfrifol am ei weithredu’n llwyddiannus.

  • Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant