playground

Mae’r cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd wedi’i gofnodi’n helaeth. Ond mae newidiadau yn ein cymdeithas wedi dod â heriau newydd yn eu sgil, yn ôl Dr Nalda Wainwright…

 

Rydym ni’n wynebu problemau nad ydym ni erioed wedi dod ar eu traws o’r blaen yn ein cymdeithas. Yn sgil lefelau uwch o anweithgarwch ymhlith plant, rhagwelwyd y gallan nhw farw bum mlynedd ynghynt na’u rhieni er gwaethaf gwelliannau mewn meddygaeth fodern.

Amcangyfrifir mai £30 biliwn fydd y bil i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am drin cyflyrau’n gysylltiedig ag anweithgarwch, sy’n un o’r ffactorau risg pennaf ar gyfer marwolaeth ar draws y byd.

Mae newidiadau yn y gymdeithas wedi creu ‘storm anferthol’ yng nghyswllt ymddygiad eisteddog. Mae technoleg fodern, diffyg mannau gwyrdd, ofn dieithriaid, yr arferiad o yrru, dyfeisiau i fabanod, diwylliant y siop goffi ac amser ar y sgrin oll wedi erydu amser y byddem ni wedi’i dreulio’n symud.

Mae hyn yn amharu fwyaf ac yn fwyaf pellgyrhaeddol yn achos ein plant ifanc iawn. Mae mwy na 30 mlynedd o ymchwil i ddatblygiad echddygol yn dangos i ni fod angen i ni ddatblygu sylfeini symud yn ystod plentyndod cynnar er mwyn i ni allu manteisio ar weithgarwch corfforol am weddill ein hoes.

Mae’r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol, cymhwysedd echddygol a hunanganfyddiad yn gymhleth, ond yn ei hanfod golyga fod ar blant bach angen gallu manteisio ar chwarae o safon uchel a hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y lefelau o feistrolaeth sydd eu hangen er mwyn gwneud dewisiadau byw’n iach.

Yn ychwanegol at hyn y mae’r cysylltiadau cryf rhwng cymhwysedd corfforol a pherfformiad academaidd. Er mwyn i’r ymennydd ddatblygu’r llwybrau niwral cymhleth ar gyfer sgiliau meddwl lefel uwch, mae angen cael chwech i wyth mlynedd o symud da a mewnbwn amlsynhwyraidd.

Yn sgil yr anweithgarwch cynyddol yn y gymdeithas mae ein babanod a’n plant bach yn treulio oriau ar eu heistedd ac yn derbyn adloniant drwy sgriniau, sy’n arwain at niferoedd mawr o blant yn dechrau yn yr ysgol â datblygiad echddygol gwael iawn, problemau o ran cyfathrebu a namau ar y synhwyrau. Mae datblygiad corfforol hefyd yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl.

Dengys ymchwil i weithredu’r Cyfnod Sylfaen fod gennym ni yng Nghymru ateb i hyn gyda chwricwlwm plentyndod cynnar yn seiliedig ar chwarae sy’n arwain y byd.

Fodd bynnag, nid yw’r potensial hwn wedi’i wireddu oherwydd nad oes gan athrawon ac oedolion cefnogol yr wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod plant yn cael profiadau priodol er mwyn datblygu’r sylfeini symud pwysig ar gyfer datblygiad da yn yr ymennydd a gweithgarwch corfforol gydol oes.

Mae Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio i fynd i’r afael â hyn. Gan fanteisio ar ymchwil a nododd y bwlch yng ngwybodaeth athrawon, gweithredwyd rhaglen o hyfforddiant a chefnogaeth mewn ysgolion targed.

Trwy weithio gyda’r Athro Jackie Goodway o Brifysgol Daleithiol Ohio a chymrawd ymchwil anrhydeddus yn yr Athrofa, mae SKIP (Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant dan oed Ysgol) yn hyfforddi athrawon, cynorthwywyr addysgu a rhieni ynghylch pwysigrwydd symud cynnar i ddatblygiad plant.

Dengys yr hyfforddiant sut mae plant yn dysgu symud drwy gamau datblygiadol, sut i newid tasgau a’r amgylchedd er mwyn symud plant drwy’r camau hyn, ac o’r pwys mwyaf, er mwyn iddynt gael meistrolaeth ar y sgiliau hyn sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithgarwch corfforol gydol oes.

Mae rhan o’r prosiect hwn yn cynnwys cynnal sesiynau ennyn diddordeb rhieni ac wedyn rhieni’n mynd â chwdyn o offer adre i chwarae gyda’u plant. Mae’r sesiynau wedi bod yn llwyddiannus iawn a’r rhieni â chymhelliant uchel, ac mewn rhai achosion yn mynd ati i fod yn gyfrifol am gynnal y sesiynau.

Y newyddion da yw bod ymchwil a gynhaliwyd i raglen SKIP yng Nghymru i asesu’i heffaith ar ddeilliannau disgyblion yn dangos bod effaith sylweddol ar sgiliau echddygol mewn cyn lleied ag wyth wythnos.

Mae athrawon hefyd yn adrodd yn ôl am welliannau enfawr yng ngallu’r plant i ganolbwyntio, ffocysu a chymryd rhan yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r dulliau rydym ni wedi’u defnyddio ar gyfer y rhaglen hon yn gost-effeithiol a chynaliadwy iawn, gan feithrin gallu yn y rhanbarth a defnyddio ysgolion yn ganolbwynt yn y gymuned lle mae staff datblygu chwaraeon, clybiau lleol a gwasanaethau hamdden hefyd yn cael eu hyfforddi, gan eu galluogi hwythau i weithio gydag ysgolion.

Yn wir, mae datblygu arbenigedd sy’n gallu cefnogi datblygiadau yn y cwricwlwm wrth wraidd ein gwaith ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cofiwn fod yr Ysgrifennydd dros Addysg yn Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr angen i ‘wneud yn siŵr bod y gweithlu yn ganolog i’r datblygiadau hyn ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gallu cyflawni potensial y cwricwlwm newydd yn eu hysgolion a’u lleoliadau’.

Mae’r hyfforddiant hwn a dealltwriaeth ynghylch pwysigrwydd symud o ran datblygiad, a hynny mewn amgylchedd dysgu holistaidd dilys, yn angenrheidiol os ydyn ni’n mynd i gael gweithlu sy’n gallu gweithredu’r cwricwlwm newydd, creu unigolion iach, hyderus a gosod y sylfeini ar gyfer Cymru iach a ffyniannus.

  • Dr Nalda Wainwright yw Cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dyma ddarn o’i hanerchiad yn y drydedd Gynhadledd Llythrennedd Corfforol Ryngwladol (IPLC), yn Toronto yn ddiweddar.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

clear formPost comment