Mae datblygiadau ym maes technoleg yn newid y byd sydd ohoni. Ond ar ba gost? Carys Jennings sy’n ymchwilio…

 

Bellach mae plant er yn fach yn boddi o dan fôr o synau a delweddau sy’n symud yn gyflym ac sydd wedi eu creu gan ddyfeisiau.

Mewn bwytai, canolfannau siopa, caffis a chartrefi caiff ein rhai bach eu tawelu trwy gymorth dymis digidol – (fi biau’r term).

Pryder mawr yw’r posibilrwydd bod gogoneddu technoleg yn dad-wneud y sgiliau cynnar hynny sy’n gosod y seiliau hanfodol ar gyfer dysgu yn y dyfodol.

Mae ‘dysgug a gyfoethogir gan dechnoleg’, ‘yn gallu defnyddio cyfrifiadur’ ac ‘yn deall y feddalwedd’ yn ymadroddion cyffredin oddi mewn i’r proffesiwn addysgu.

Caiff plant heddiw eu labelu’n ‘frodorion digidol’ am eu bod nhw wedi tyfu gyda’r datblygiadau technolegol heb brofiad o unrhyw beth arall.

O ystyried yr amser a dreulia’r genhedlaeth bresennol yn ymwneud â gweithgareddau sgrin, rhaid holi: “Oes cysylltiad rhwng y dirywiad ymddangosiadol o ran safonau llythrennedd a’r cynnydd o ran defnyddio cyfrifiaduron mewn ystafelloedd dosbarth a gweithgareddau hamdden?”

Mae polisïau addysg a chwricwla yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys technolegau’n rheolaidd mewn gwersi. O ystyried hyn, efallai fod gorddibyniaeth ar weithgareddau ar y sgrin o’u cymharu â thasgau cymdeithasol sy’n sicrhau blociau adeiladu llythrennedd a chyfathrebu cynnar.

Mae sicrhau datblygiad iaith o ansawdd yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol; mae plannu’r gair llafar a geirfa eang yn creu llwybrau niwronau yn yr ymennydd, gan gynhyrchu cysylltiadau newydd ar sail y profiadau mae’r unigolyn wedi cymryd rhan ynddyn nhw.

Datblyga llefaredd a chymdeithasoli trwy wrando, ailadrodd a chofio i ddechrau.

Mae’r cyfnewid rhwng oedolyn a phlentyn trwy ‘addysgeg fwriadol’ (term a fathwyd gan Iram Siraj) yn ymestyn y siarad o’r disgrifiadol i feddyliau cyffredin a gynhelir gan wneud y dysgu’n glywadwy, am bwnc, digwyddiad neu wrthrych diddorol.

Os bydd plant yn ymwneud yn gyson â gweithgareddau sgrin, ychydig yw’r rhyngweithiadau hyn; mae arsylwi plant wrth chwarae neu archwilio yn creu pob math o ryngweithio ieithyddol, ac yn ei dro, yn cynyddu lles y plentyn.

Mae gwybod pryd a sut i ymuno yn sgil unigryw i gyfarfyddiadau cymdeithasol na ellir eu hail-greu i’r un graddau gan y dechnoleg.

Mae ymwybyddiaeth ofalgar, sef techneg sy’n annog meddwl a chanolbwyntio ar lefel ddyfnach, gan lifo o’r diriaethol i’r haniaethol, yn wrthi’n ennill ei phlwyf mewn cylchoedd academaidd ac addysgol.

Mae Lazar, Broderick a Metz a Hollenbeck ymhlith eraill yn pwysleisio’r manteision posibl  trwy ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull asesu – mae’r rhain yn cynnwys hunan-effeithiolrwydd uwch, cynnydd o ran sgiliau personol a rhyngbersonol a gwell cof ymarferol a pherfformiad.

Mewn byd hynod ddigidol yn llawn delweddau llachar, sy’n symud yn gyflym, mae angen i blant gael rhywfaint o lonyddwch a thawelwch, amser i ystyried ac adfyfyrio.

Yn aml mae ystafelloedd dosbarth yn boddi o dan symbyliad ‘sŵn gweledol’ sydd i fod i ategu’r dysgu ond mewn gwirionedd, sydd yn aml yn amharu ar eu prosesau meddwl.

Ymchwiliodd Schonert-Reichl a Lowler (2010) i effeithiau posibl ymwybyddiaeth ofalgar ar les plant a’u cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol, tra defnyddiodd Houston, Turner a Page (2007) waith ‘dysgu gofalgar’ Langer i ymchwilio i ddysgu a hyfforddi ail iaith.

Canfu’r astudiaethau fod rhyngweithio cymdeithasol yn ffactor hanfodol ar gyfer llwyddiant llawer o agweddau ar y datblygiad, ac un o’r rhain oedd iaith a chyfathrebu.

Mae datblygu iaith plant yn galw am ryngweithio, yn ôl ac ymlaen ar lafar a chreu amgylcheddau sy’n cefnogi ac sy’n symbylu cyfathrebu mewn modd priodol o safbwynt datblygiadol, gan ddefnyddio dulliau ar gyfer canolbwyntio a dyfnhau meddyliau gan alluogi plant i blannu eu sgiliau neu eu geirfa newydd – gan roi ystyr iddyn nhw.

Ond mae llythrennedd yn fwy na geiriau a dysgu rheolau iaith; mae ymddwyn a mynegi teimladau a meddyliau mewn modd cymdeithasol dderbyniol yn datblygu wrth i fodelu rôl weithredu’r  hyn a ddwedan nhw.

Bydd plant yn datblygu sensitifrwydd i’r gair llafar, priodoldeb a phrosesu trwy arsylwi’r ciwiau a’r cliwiau a fodelir gan ‘eraill mwy abl’ neu oedolion o’u cwmpas nhw.

Gall sgriniau cyfrifiadur ddangos clipiau o gymeriadau sy’n dangos ystumiau neu sy’n adlewyrchu amrywiol ymddygiadau, fodd bynnag nid yw manion trafodaeth yn bresennol.

Yn aml, mae’r signalau a anfonir trwy fynegiant ac ystum, canolbwyntio llygad ac acen llais yn chwarae rhan hollbwysig yn nealltwriaeth plant a’r broses o ddysgu iaith.

Gall cyfathrebu heb eiriau ddwysáu’r profiad y tu hwnt i sŵn neu’r gair printiedig er mwyn ychwanegu cynnwys emosiynol.

Mae seicolegwyr gwybyddol a damcaniaethau seico-ieithyddiaeth yn pwysleisio cymhlethdodau dysgu cyfathrebu a siarad yn rhugl; mae gan ddamcaniaethau dynwared (Pavlov), ceisio a methu a diweddaredd (Thorndike), cyfodiad (Chomsky) a damcaniaethau gwybyddol Piaget  amrywiol syniadau ynghylch y modd y dysgir iaith.

Y gwir amdani yw nad ydym yn sicr, gan fod y broses yn un gymhleth ac nid ydym ond megis yn dechrau datgloi a datblygu ein dealltwriaeth trwy ddelweddau ymennydd PET neu MRI.

Trwy leihau’r defnydd ar weithgareddau sy’n seiliedig ar y sgrin a chofleidio model rhyngweithiol cymdeithasol a gynigiwyd gan Vygotsky, Laevers ac yn ddiweddarach Siraj, rydym yn sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu darllen ac ysgrifennu cynnar.

Fodd bynnag, rhaid gofalu rhag rhuthro i’r agweddau hyn cyn i’r plentyn gael ei baratoi a’i fod yn barod gyda seiliau cadarn ar gyfer siarad a chyfathrebu; oherwydd os na fydd hyn yn digwydd yn gynnar, gall fod goblygiadau o ran mwynhad unigolion o lythrennedd, a’u hyder yn hyn o beth, maes o law.

Dadleua Alexander (2006) o blaid ‘siarad ystafell ddosbarth’, sy’n cynnwys trafodaeth a dialog, wrth ddatblygu llefaredd.

Mae rhai sgiliau’n parhau sy’n cefnogi darllen cynnar plant pan fydd yn barod, sef ‘dechrau clywed llefaru, gwahaniaethu rhwng synau a dweud.

Ychydig iawn o weithgareddau ar gyfrifiaduron sy’n caniatáu i blant ymroi i siarad a thrafodaeth soffistigedig gan eu bod nhw’n weithgareddau eisteddol a thawel.

Gall technoleg gefnogi, ac mae’n cefnogi, rhai ffurfiau ar ddysgu, a dylid cyflwyno plant i ddatblygiadau – ond ar ba gost?

Cyfoethogi, nid disodli, a wna’r rhain, a dengys llawer o waith ymchwil na all dim ail-greu’r rhyngweithio o ansawdd ymarferwyr medrus iawn a’u heffaith ar safonau, datblygiad plant a’u hawydd i ddysgu.

Caiff llefaredd gwael effaith uniongyrchol ar allu plant i ddarllen ac ysgrifennu, ac mae gwybod y ffaith hon yn sicr yn symbyliad i sicrhau y caiff plant ddigon o gyfle i sgwrsio, siarad, trafod, dadlau, cwestiynu a disgrifio yn hytrach na deiet wedi ei orlwytho o chwilio, llusgo a gollwng, gweithredu, tagio a dolenni.

Beth am osgoi’r mudydd a phwyso ar y botwm ail-osod er mwyn sicrhau deiet cytbwys o’r digidol a deialog?

Pum ffordd o osgoi ‘syndrom llygaid sgwâr’ – byddwch yn greadigol!

  1. Peidiwch â Googlo, meddyliwch – anogwch y plant i ddefnyddio eu dychymyg neu i rannu’r hyn a wyddant mewn ffyrdd arloesol, e.e.  Lluniwch boster;
  2. Ble mae’r lle gorau?– ceisiwch beidio â defnyddio’r adran garpedau a’r bwrdd gwyn rhyngweithiol ar gyfer y cyflwyniad/ sesiwn lawn – ewch allan, yn y neuadd, o dan blanced… gwnewch bethau’n gyffrous!
  3. Oes gwell ffordd? – byddwch yn fwriadol yn hytrach na diog, defnyddiwch dechnoleg i gyfoethogi yn hytrach nag o ran arfer;
  4. Chwaraewch gerddoriaeth heb animeiddiadau na lluniau – yn symbyliad neu’n ddull meddwl mae’n canolbwyntio ac yn tawelu neu’n annog, yn dibynnu ar yr arddull;
  5. Mae gennym bum synnwyr – ceisiwch ddarganfod symbyliadau eraill i’w harchwilio ac ymchwilio iddynt e.e.  Sut deimlad yw’r Nadolig? (hapus/ cyffrous); Pa liw yw’r Nadolig? (coch/ aur); Pa fath o linellau sy’n cynrychioli’r Nadolig? (tonnog/ pigog); Crëwch baentiad mewn pâr sy’n cynrychioli’r Nadolig.
  • Mae Carys Jennings yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

clear formPost comment