Mae Dyfodol Llwyddiannus wedi denu digon o sylw ers ei gyhoeddi yn 2015. Ond mae ei ffocws ar sgiliau entrepreneuraidd heb ei ddogfennu cystal. Mae Alison Evans yn esbonio…

 

Un o ddibenion allweddol y cwricwlwm a amlinellir yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yw sicrhau bod pob dysgwr yn ‘gyfrannwr mentrus a chreadigol’ sy’n medru meddwl yn greadigol, yn gallu mentro’n ofalus, ac sy’n dangos y gwydnwch emosiynol a’r dymuniad i gydweithio er ei lles ei hun ac eraill.

Gellid dehongli hyn fel hyrwyddo safbwynt mwy dyngarol, allgarol, a hyd yn oed cyfeillgar at ddiben addysg sy’n canolbwyntio nid ar yr unigolyn yn unig, ond ar yr uned gyfunol o ran sut mae ei buddion cyfannol o fantais i’r gymuned ehangach.

Gellid dadlau, yng nghyd-destun y pocedi o amddifadedd sylweddol a geir yng Nghymru (23% o oedolion a 30% o blant yn byw mewn tlodi cymharol), fod y canolbwyntio tosturiol a hunanddigonol hwn ar addysg yn weddus pe baem am fynd i’r afael o ddifri â materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb a symudedd cymdeithasol.

Yn ystod fy ngyrfa o 20 mlynedd fel athrawes Addysg Fusnes, roedd y cysyniad o ‘fentergarwch’, yn ogystal ag unrhyw beth arall a oedd yn ymwneud â datblygu ‘agweddau entrepreneuraidd’, yn gyfrifoldeb penodol i’r adran Fusnes yn unig mewn ysgolion.

Heblaw’r nifer cymharol fach o ddysgwyr a wnaeth gofrestru ar gyfer cymryd rhan mewn cynllun, megis ‘Young Enterprise’, lle y cawsant brofiad credadwy o gymryd rôl mewn rhedeg eu busnes eu hunain, fel arfer byddai cyfleoedd i brofi’n ffurfiol gyfleoedd dysgu ‘mentrus a chreadigol’ yn brin ac wedi’u cyfyngu i un ‘diwrnod mentergarwch’ a gynhelir bob blwyddyn academaidd.

Fel arfer, byddai’r digwyddiadau unigol hyn yn cynnwys heriau a osodid ar gyfer timau o ddysgwyr i ddylunio cynnyrch neu ymgyrch farchnata, neu i gynnig syniad ger bron panel neu debyg. Er y gallai’r digwyddiadau annibynnol hyn fod yn fuddiol ar y pryd, byddent, yn aml, yn cael eu hamserlennu tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd, ac o safbwynt y dysgwyr a’r rhan fwyaf o staff, achlysuron arbennig oeddent pan allai dysgwyr fwynhau ychydig o hwyl, ac roedd y dysgu a’r asesu yn gyfyngedig.

Felly, dewch i ni ddychwelyd at ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a’i gynigion ar gyfer datblygu ‘cyfranwyr mentrus, creadigol’ yng nghyd-destun diwygio’r cwricwlwm yn radicalaidd ac yn fwy eang. Gellid dadlau, wrth i ni fynd i mewn i gyfnod lle mae gan athrawon lawer mwy o ryddid i ddewis deunydd sy’n briodol i anghenion eu dysgwyr, a chyda chymaint o bwyslais ar asesu a arweinir gan athrawon, fod angen proffesiynoliaeth newydd ym myd addysg.

Athrawon yw gwarcheidwaid allweddol addysg, ac yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen arnom weithlu cryf a hyblyg sy’n gallu arloesi a datblygu’r sgiliau, tueddiadau ac agweddau mwy ‘meddal’ yn ein dysgwyr, er mwyn bodloni anghenion y gymdeithas fodern a geir yng Nghymru.

Mae diwydiant wedi hir gydnabod gwerth creadigedd, arloesedd a mentergarwch o ran llwyddiant, ac mae ymchwil wedi dangos bod gan y syniad o annog agweddau entrepreneuraidd lawer o fuddion, megis twf economaidd, creu gwaith, gwydnwch cynyddol, ac yn enwedig ymroi’n fwy i fywyd ysgol a’i fwynhau’n fwy.

Os yw agweddau entrepreneuraidd a chreadigedd yn rhai o nodweddion canolog bywyd modern, yna, dylid eu datblygu a’u hymestyn drwy gydol unrhyw yrfa mewn ysgol. Mae hyn yn golygu ailfeddwl ac ail-gategoreiddio’r diffiniad cul (a goroedol?) o fentergarwch a nodweddion entrepreneuraidd, ac yn ei le, hyfforddi, annog a galluogi pob athro/athrawes i fodelu a mabwysiadu’r fath gymwyseddau yn ei (h)arfer.

O’m safbwynt i fy hun, atgyfnertha hyn y galw am broffesiynoliaeth newydd, un sydd wedi’i hadeiladu ar adfyfyrio beirniadol, un sy’n ystyried y proffesiwn addysgu yn broffesiwn dysgu. Gellid ystyried addysg fenter yn bwnc i’w addysgu (Astudiaethau Busnes neu Economeg) ond hefyd yn ffordd o addysgu unrhyw destun drwy chwilio am broblemau, cynnig datrysiadau, dylunio tasgau prosiect-seiliedig a dod o hyd i ffyrdd o hwyluso cydweithio.

Yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae cydnabod rôl ymagweddau creadigol addysgol wedi tyfu ac mae angen ar athrawon fodelu’n glir eu hagweddau creadigol eu hunain, meithrin disgwyliadau uchel o ran eu dysgwyr a – a dyma’r elfen fwyaf pwysig, rhoi lle i’r anhysbys ddigwydd. Mae llawer o astudiaethau wedi dangos nad yw creadigedd yn sefydlog – yn hytrach, mae’n datblygu ac yn esblygu dros gyfnod o ganlyniad i ymyriadau ‘naturiol’ a rhai sydd wedi’u targedu.

Dylai profiadau pobl ifanc o ysgol ysgogi eu dychmygion mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo creadigedd a mentergarwch; pob un ohonynt yn cael ei gyflwyno gan athrawon sy’n arbenigwyr ac yn fedrus mewn celfyddyd ddychmygus ac entrepreneuraidd.

Swnio’n aruthrol? Mae rhwystrau yn bodoli o hyd, sef mesurau atebolrwydd risg mawr sy’n atal athrawon rhag symud ymlaen yn bellach a hyrwyddo ffyrdd mwy creadigol o ddysgu. Mae angen cynnig i ymarferwyr yr hyfforddiant a’r cymorth cywir, oherwydd pan mae’n dod i sgiliau, mae’n bosib bod gan rai ohonynt ddiffyg hyder, neu efallai nad ydynt yn gweld unrhyw werth yn mabwysiadu’r fath ymagweddau.

Gallai fod gan athrawon gysyniadau gwahanol o greadigedd a mentergarwch, ac mae’n bosib nad yw rhai ohonynt yn ymwybodol bod eu harfer presennol yn gallu rhwystro creadigedd. Gellid dadlau bod Bagloriaeth Cymru, gyda’i ffocws ar fentergarwch, i ryw raddau yn dylanwadu ar gymwyseddau entrepreneuraidd mewn addysg, ond a ydy hyn yn mynd yn ddigon pell? Beth am ddysgwyr iau? Beth am ganfyddiadau rhai dysgwyr a rhieni (a staff?) o werth y cymhwyster?

Wedi symud i addysg uwch dair blynedd yn ôl fel addysgwr sy’n gyfrifol am hyfforddi athrawon Astudiaethau Busnes y dyfodol, mae’n amlwg mai ond megis dechrau mae’r ddadl hon, er, fy ngobaith yw na fydd y cysyniad o ‘fentergarwch’ yn dioddef yr un ffocws cul a wynebais i yn fy ngyrfa fel athrawes, sef ei fod yn berthnasol i arbenigwyr y pwnc hwnnw yn unig.

Rhaid dod â’r blog hwn i ben gan gyfeirio at Adroddiad Furlong ar addysg gychwynnol athrawon (2015) sy’n dweud bod angen ar ‘athrawon yfory’ fath newydd o broffesiynoliaeth a all gyflwyno’r pedwar diben cwricwlwm a gynigiwyd  gan Donaldson, drwy gymryd cyfrifoldeb am arloesedd. Mae ein siwrne ar fin dechrau…

  • Mae Alison Evans yn Diwtor Astudiaethau Busnes TAR yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

clear formPost comment