Pryd y mae cyfrifoldeb am addysg yn dechrau ac yn gorffen? A swydd pwy yw addysgu ein plant ieuaf? Yma, y mae Natalie MacDonald yn ceisio ateb y cwestiynau a gaiff yn aml eu hysgubo dan y carped…

 

Un o’r cwestiynau sydd wedi bod ym mlaen fy meddwl yn ddiweddar yw ble y dylai addysg ddechrau.

Mae’r polisi presennol ac arfaethedig, a’r datblygiad cwricwlwm yn ogystal, yn targedu plant tair blwydd oed a thu hwnt – a ydy hyn yn golygu bod addysg yn dechrau o’r eiliad y mae’r plant yn cerdded drwy ddrysau’r ysgol ac yn gorffen pan maent yn ymadael?

Ystyrir ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yn gyfle ‘i lunio cwricwlwm newydd i Gymru, sy’n  addas i’r 21ain ganrif a thu hwnt. ’ – chwyldro o fath, ac er bod cyfle sylweddol i ni wella a datblygu addysg ein cenedlaethau yn y dyfodol, y mae rhywbeth ar goll. Beth sy’n digwydd cyn tair blwydd oed?

Mae Dyfodol Llwyddiannus yn sôn deirgwaith am ‘flynyddoedd cynnar’ gan gyfeirio at  ‘flynyddoedd cynnar ysgolion uwchradd’ ddwywaith, ac unwaith ym mywgraffiad un o’r ymgynghorwyr; ni chrybwyllir ‘cyn ysgol’, ‘genedigaeth’ na ‘dan dair blwydd oed’ o gwbl.

Mae’r un peth yn wir am ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’, nad yw’n cydnabod nac yn cynnwys y blynyddoedd cynnar o gwbl yn rhan o’r cynllun ar gyfer addysgu ein plant.

Fel ymchwilydd, darlithydd ac ymarferydd blynyddoedd cynnar, mae hyn yn fy nrysu.

Ystyrir ennyn diddordeb a gweithio gyda theuluoedd a phlant dan dair blwydd oed yn flaenoriaeth, ac mae mentrau, megis Investors in Families a chyfarwyddyd cynorthwyol ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion yn argymell defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gwneud cysylltiadau â theuluoedd a chymunedau.

Mae gweithio yn agos gyda phlant o fewn y blynyddoedd cynnar ar hyn o bryd, ac erioed, wedi bod yn anghenraid sylfaenol. Caiff rhwydweithiau cymunedol eu sefydlu ar draws y byd sy’n darparu ymagwedd gyfannol at addysg, megis yr Harlem Children’s Zone yn Efrog Newydd.

Yr hyn sy’n ddiddorol yma yw’r mur sy’n bodoli rhwng rhieni ac addysg, ac sy’n amrywio o ‘nid fy swydd i yw eu haddysgu’  hyd at ‘nid yw’r rhieni yn ymwneud â nhw beth bynnag’.

Cyn dechrau yn yr ysgol, nid oes unrhyw ddisgwyliadau i’r rhieni ennyn diddordeb eu plant naill ai o ran addysg neu ddatblygiad, ac yna, yn sydyn reit, ar ddechrau yn yr ysgol, disgwylir i rieni ymgymryd ag unrhyw waith a anfonir adref gan yr ysgol.

Rhaid hefyd i leoliadau blynyddoedd cynnar gymryd peth cyfrifoldeb ynglŷn â hyn. Hyd yn oed ymhlith y plant ieuaf, sefydlir perthnasau rhwng y rhieni a’r gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar, y ddau ohonynt yn cydweithio a gofalu am eu plant, ond unwaith eto, caiff eu haddysg ei hesgeuluso, ac yn aml, nid yw’r rhieni yn cyfrannu at ddysgu a datblygiad eu plentyn.

Mae’r bwlch sy’n bodoli rhwng gofal ac addysg yn gyfrifol i raddau am hyn. Nid oes rhaid i weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar fod yn atebol am addysg, a chaiff  cysylltiadau rhwng cynorthwyo datblygiad a dysgu plant nad ydynt eto yn dair blwydd oed, yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i barhau â’u datblygiad ym myd addysg, eu hesgeuluso.

Nid yw hyn yn golygu y dylai’r blynyddoedd cynnar ganolbwyntio ar ‘baratoi plant ar gyfer ysgol’ yn fwy  nag y mae cynorthwyo plant yn ystod y blynyddoedd cynnar yn eu helpu i fod yn ‘barod i ddysgu’.

Y mae angen yma gydnabyddiaeth a dealltwriaeth gilyddol o waith, gwybodaeth a rolau gweithwyr proffesiynol ac athrawon blynyddoedd cynnar.

Mae cydnabod bod dysgu sgiliau echddygol manwl a bras mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cyfrannu at eu datblygiad llythrennedd nes ymlaen, ynghyd â dysgu i hunan-reoleiddio a rhannu gyda’u cymheiriaid, yn hwyluso datblygiad gwaith grŵp a gwaith tîm.

Mae gan bolisi a phontio rôl allweddol i’w chwarae yma; mae angen creu cysylltau cryfach er mwyn sefydlu proffesiwn unedig sy’n galluogi rhieni, gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar ac athrawon i ddarparu ymagwedd gyson at gynorthwyo dysgu a datblygiad eu plant.

Gadewch i ni edrych ar bontio, er enghraifft. Darperir cyfleoedd i rieni newydd fynychu dosbarthiadau geni, sy’n eu tywys drwy wahanol gyfnodau’r beichiogrwydd, yr enedigaeth a’r ychydig o wythnosau cyntaf sy’n eu dilyn.

Pam nad ydym yn darparu cyfleoedd i rieni ddarganfod sut bydd eu plentyn yn dysgu ac yn datblygu, beth allant ei ddisgwyl, a’u rôl o ran cynorthwyo’r broses hon?

Byddai hyn yn rhoi rywfaint o berchenogaeth i rieni ynglŷn â datblygiad eu plant, gan greu rhyw deimlad o gyfrifoldeb y gellid ei feithrin a’i barhau wrth weithio yn gyntaf gyda gweithwyr blynyddoedd cynnar, ac yna gydag athrawon, ac felly dileu’r elfen   ‘nhw a ni’ o’r cychwyn cyntaf.

Rwy’n sicr y byddai rhieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar  yn sefydlu partneriaeth gwaith fwy effeithiol pe bai ganddynt ddealltwriaeth fwy clir o rolau, cyfrifoldebau a diben.

Ond y mae un anhawster ar ôl, hynny yw, y mae angen newid y diwylliant – rhywbeth y gellid ei gyflawni dim ond yn y tymor hir, ac nid pan fo’r polisi a’r amgylchedd ariannu yn newid byth a beunydd.

Mae angen ymddiried yn y dystiolaeth sy’n cefnogi’r ymagwedd hon a rhoi digon o amser i ymgorffori’r newidiadau hyn cyn y cawn weld gwelliannau o ran cyrhaeddiad a pherthnasau gwaith, ond nid wyf yn hollol argyhoeddedig bod llywodraethau yn ddigon dewr i fynd i’r afael â’r her hon.

Ond un peth y gallwch fod yn hollol sicr ohono yw y byddai cymryd yr amser a’r egni  i bontio’r bwlch mawr hwn o fantais i bawb.

  • Mae Natalie MacDonald yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yn Yr Athrofa

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

clear formPost comment