Wrth i Gymru baratoi ar gyfer ei hatgyweiriad mwyaf o’r cwricwlwm cenedlaethol mewn 30 mlynedd, mae Nick Rogers yn ystyried a ddylai Lloegr ei dilyn neu beidio…

 

Yn 2022 (os bydd popeth yn iawn a heb unrhyw rwystro pellach), bydd Cymru yn dechrau rhoi ar waith ei chwricwlwm cenedlaethol newydd ym mhob ysgol y wladwriaeth ar draws y wlad.

Mae’r cwricwlwm newydd a gynlluniwyd gan yr Athro Graham Donaldson, mewn cydweithrediad ag athrawon ac ysgolion arloesol, yn cynrychioli cam ymlaen cyffrous i bolisi addysg Cymru.

Gan symud i ffwrdd o bynciau traddodiadol a’u newid am chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), mae’r cwricwlwm yn ceisio paratoi pobl ifanc yn well ar gyfer bywyd a’u galluogi i ymaddasu’n fwy cadarnhaol i sefyllfaoedd sy’n newid, a’u haddysgu, efallai am y tro cyntaf mewn cymaint o fanylder, am y byd digidol.

Ar yr wyneb, mae’r newid i weld yn gadarnhaol ac yn flaengar dros ben. Felly, tybed a ddylai Lloegr ddilyn?

Yn gyntaf, byddai athrawon ar draws Lloegr wrth ei boddau yn manteisio ar y cyfle y cafodd athrawon Cymru i fod yn rhan o gynllunio’r cwricwlwm.

Gwn o brofiad fy hunan nad yw pob athro yn cytuno â phopeth y mae’n rhaid iddo ei addysgu sydd ar gwricwlwm cyfredol Lloegr.

Byddai’r rhan fwyaf o athrawon, o leiaf ar y cychwyn, yn croesawu’r cyfle o fod yn rhan o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pwnc maent yn ei hoffi’n fawr.

Ond gallai hyn newid unwaith y mae’r athrawon yn ystyried faint o waith ychwanegol y byddai hyn yn ei olygu ar ben ei bywydau prysur, ond er hynny, mae’r syniad o gael dweud eich dweud am gwricwlwm Lloegr yn un deniadol.

Yn bendant, mae’r ffocws newydd ar gymwyseddau digidol hefyd yn ddeniadol, gyda thechnoleg yn symud ymlaen mor gyflym ac yn dod (os nad yw yn barod) yn rhan mor annatod o’r ffordd y mae’r byd yn gweithio.

Ond nid yw’r ffaith y byddai athrawon yn croesawu’r cyfle i lunio cwricwlwm newydd o reidrwydd yn golygu bod angen cwricwlwm newydd.

Gadewch i ni edrych, er enghraifft, ar y Rhaglen ar gyfer Profion Rhyngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA).

Defnyddir profion PISA gan lawer o wledydd ar draws y byd fel ffordd o gymharu eu systemau addysg.

Roedd canlyniadau Lloegr ym mhrofion PISA 2015 yn uwch na sgôr cyfartalog Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth.

Yn yr un flwyddyn, roedd canlyniadau Cymru yn is na’r sgôr cyfartalog yn yr un tri phrawf.

Mae’n bosibl y gallai fod Cymru wedi penderfynu ar ddiwygio ei chwricwlwm am nad yw’n perfformio gystal â gweddill y DU. Mae canlyniadau Cymru yn is na sgôr cyfartalog yr OECD mewn profion PISA, ac mae’n rhaid gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hynny.

Os yw Lloegr yn perfformio’n dda yn y profion PISA, yna, pam y mae Lloegr hyd yn oed yn ystyried atgyweirio ei chwricwlwm?

Yr ateb yw – Ni ddylai Lloegr atgyweirio ei chwricwlwm… eto.

Os atal Cymru rhag cwympo yn bellach yn ôl na gweddill y DU yw bwriad y rhesymu sydd y tu ôl i’r diwygiadau i addysg Cymru, yna dylai gweddill y DU aros i weld beth sy’n digwydd.

Mae cwricwlwm newydd Cymru yn eithaf radical o ran ei ddatblygiad a’i gynnwys (er iddo ddilyn tuedd ryngwladol diwygio’r cwricwlwm), a dylai gweddill y DU gadw llygad barcud ar ganlyniadau’r fath ddiwygio radical.

Y mae rhai elfennau o gwricwlwm newydd Cymru i’w gweld, i mi, fel athro, yn ddeniadol iawn.

Er enghraifft, mae’n ymddangos fel petai datblygiad y chwe maes dysgu a phrofiad, gan gynnwys un sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol, yn rhoi i bob pwnc yr un pwysigrwydd cyfartal, ac mae hyn o ddiddordeb mawr i mi (mae’n cyferbynnu’n hollol â’r mesur Progress 8 Progress 8 y cyflwynodd Llywodraeth y DU, sy’n ystyried mai mathemateg a Saesneg yw’r pynciau mwyaf pwysig yn ysgolion Lloegr).

Ond nid yw’r ffaith ei fod yn edrych yn ddeniadol yn golygu y dylai Lloegr ruthro i gopïo diwygio Cymru ar unwaith.

Yr unig bren mesur go iawn sydd gennym ar gyfer mesur system addysg y naill wlad yn erbyn y llall yw’r profion PISA. Felly, dylai gwneuthurwyr polisïau yn Lloegr barhau i gadw llygad ar agor i weld a wnaiff sgoriau PISA Cymru wella unwaith i’r cwricwlwm newydd gael amser i ymsefydlu.

Gallai hyn olygu aros am 10 mlynedd neu fwy cyn penderfynu a yw’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn llwyddiannus neu beidio, ond am fod Lloegr yn perfformio’n dda ar hyn o bryd, gallwn fforddio aros.

Gallai hyn hefyd roi cyfle i wneuthurwyr polisïau yn Lloegr nodi’r meysydd penodol hynny yng nghwricwlwm newydd Cymru sy’n gweithio’n dda a’u hymgorffori yn system Lloegr, gan adael ar ôl y newidiadau hynny sydd yn llai effeithiol.

Byddwn yn dadlau bod unrhyw newid sy’n gwella cwricwlwm yn newid cadarnhaol, felly dylai Lloegr bob amser ystyried newid ei chwricwlwm os oes unrhyw bosibilrwydd o’i wella.

Er hynny, nid yw pob newid bob amser yn beth da, a gall Lloegr aros.

  • Mae Nick Rogers yn athro cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd yn Llundain. Mae hefyd yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf ar raglen Doethuriaeth mewn Addysg Yr Athrofa

Leave a Reply