Mae Sarah Stewart yn cymryd rhan mewn prosiect cydweithredol newydd sy’n canolbwyntio ar degwch ym myd addysg. Gan dynnu ar arbenigedd ar draws Ewrop, mae’r prosiect hwn yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau mwyaf i lwyddiant disgyblion. Yma, y mae Sarah yn esbonio ei rhan yn y prosiect…

 

Wrth i Gymru gychwyn ar ddiwygio’r cwricwlwm, daw’r ffocws ar ansawdd profiadau bywyd plant yn rhan ganolog o gynllun y cwricwlwm a’r profiad yn yr ysgol.

Yn ddiweddar, cyflwynodd dogfen gan Lywodraeth Cymru, sef Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl, weledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru sy’n seiliedig ar egwyddorion cynwysoldeb a thegwch, gan sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu datblygu ei wir botensial, pa heriau bynnag y gallai eu hwynebu ar hyd y ffordd.

Wedi’i hymgorffori o fewn Dyfodol Llwyddiannus a Cenhadaeth Ein Cenedl, ceir ymdeimlad cyffredinol ein bod am gael mwy i’n plant. Rydym am iddynt ennill rhagoriaeth bersonol o ran cyrhaeddiad academaidd, gan ddod yn chwaraewyr cystadleuol ar lwyfan byd-eang; ond rydym hefyd am iddynt fod yn blant hapus ac iach, sydd wedi ymaddasu’n dda i fywyd ac sy’n wydn wrth wynebu’r heriau a ddaw i’w rhan mewn byd cyfnewidiol.

Fel rhiant i blentyn sydd ar fin dechrau ar ei thaith drwy’r system addysg, rwyf am iddi fwynhau mynd i’r ysgol – i gael cyfleoedd i chwarae, i fod yn greadigol, i fod yn chwilfrydig… i ddysgu, wrth gwrs! Ond gyda chymaint o’i hamser yn cael ei dreulio yn yr ysgol, rwyf hefyd am iddi fyw bywyd hapus, ac i’r bywyd hwnnw yn yr ysgol i fod yn un da.

A chyda’r weledigaeth honno o addysg ar flaen fy meddwl, dechreuais ar daith i chwilio am y ‘dolce vita’ hwnnw ym Monza, yr Eidal. Yno, cwrddais â phartneriaid o naw sefydliad (prifysgolion, arolygiaethau ac ysgolion) o’r Eidal, Romania, Catalonia, Gwlad Belg a Chymru, oedd wedi’u huno yn rhan o brosiect Erasmus+.

Canolbwyntia’r prosiect, ‘Supporting Opportunity in Schools’ ar fater tegwch ym myd addysg. Bydd y prosiect yn rhedeg am ddwy flynedd, gan geisio datblygu fframwaith cysyniadol ar gyfer tegwch a fydd yn adlewyrchu’r ddealltwriaeth amrywiol o’r term ar draws Ewrop. Bydd hefyd yn ceisio llunio nifer o offer ymarferol y gall arweinwyr ysgolion a rhanddeiliaid eu defnyddio i fesur ac i asesu ymagwedd ysgol at degwch.

Caiff penaethiaid gyfle i ymgymryd â datblygiad proffesiynol drwy ddefnyddio porth adnoddau e-ddysgu ar-lein, ac i fynychu cynadleddau sy’n canolbwyntio  ar degwch. Roedd penderfynu ar yr amcanion prosiect hyn yn elfen allweddol o’r daith gyntaf hon i Monza, a gwnaeth hefyd ddechrau ein trafodaeth am ein cyd-ddealltwriaeth o’r cysyniad tegwch.

Er bod dealltwriaeth pob un ohonom o’r term ‘tegwch’ ychydig yn wahanol, roedd hi’n amlwg fod gan bob partner prosiect frwdfrydedd ac ymrwymiad at wella deilliannau plant ysgol, pa sut bynnag a pha le bynnag y cânt eu haddysgu. Roedd hi hefyd yn amlwg ein bod yn rhannu nifer o’r un heriau. Sut ydym yn datblygu tegwch mewn ysgolion ar adeg pan fo’r bwlch rhwng bywydau’r tlawd a’r cyfoethog yn parhau i dyfu?

Wrth i dlodi plant barhau i dyfu fwyfwy ym mhob gwlad a gynrychiolwyd, sut y gwnawn ni ddiogelu ein plant rhag yr effeithiau y gall amddifadedd eu cael ar eu cyrhaeddiad? Sut y gallwn ennyn diddordeb a thanio brwdfrydedd dysgwyr i fod yn yr ysgol, yn hytrach nag yn rhywle arall? Sut y gallwn ni gyfleu’n well y stori bod addysg uwch yn ffordd o wella cyfleoedd mewn bywyd? Sut y gallwn ni orau gynnwys plant o gefndiroedd sy’n amrywio’n gyson, gan sicrhau bod eu holl ofynion yn cael eu bodloni? Dyma rai o’r cwestiynau allweddol a gafodd eu hystyried yn y cyfarfod cyntaf hwnnw.

Drwy gydweithredu, mae’r prosiect yn ceisio cyfuno gwybodaeth academaidd a gwybodaeth broffesiynol. Wrth fynd ati i ddatblygu fframwaith tegwch ar y cyd, byddwn yn manteisio ar ddealltwriaeth a phrofiadau academyddion, ysgolion a chymorth ychwanegol arbenigwyr gwerthuso ysgolion o ddwy arolygiaeth.

Daw datrysiadau pellach ar ffurf cyfle i rannu nid yn unig yr heriau a wynebwn i gyd, ond hefyd y modd yr ydym yn wynebu ac yn mynd i’r afael â’r heriau hynny. Drwy rannu’r arfer gorau, mae’r prosiect yn ceisio darparu dulliau clir ac ymarferol a fydd yn fodd i ysgolion wella cyfleoedd pob dysgwr o ran cael tegwch.

Gobeithir, gydag amser, y byddwn yn rhan o’r stori sy’n esblygu am ddatblygiad tegwch yng Nghymru a thu hwnt fel bod pob plentyn, gan gynnwys fy merch fach i, sydd ar ddechrau ei  hantur yn yr ysgol, yn gallu byw ‘la dolce vita’ i’r eithaf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yng nghamau nesaf y prosiect hwn, neu os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach, neu gopi o gylchlythyr y prosiect, yna e-bostiwch s.stewart@uwtsd.ac.uk

  • Mae Sarah Stewart yn ddarlithydd astudiaethau addysg gynradd yn Yr Athrofa

Leave a Reply