Mae prosiect ymchwil pwysig sy’n llywio agwedd hanfodol ar ddiwygio’r cwricwlwm yng Nghymru wedi cyflwyno ei ddarganfyddiadau cyntaf.
Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Glasgow, mae prosiect CAMAU yn ceisio datblygu dealltwriaeth a rennir o ‘ddilyniant’ yng nghyd-destun Dyfodol Llwyddiannus.
Cyhoeddwyd adolygiad eang yr Athro Graham Donaldson o’r cwricwlwm a threfniadau asesu yn 2015, a chynigiwyd ganddo’r cyfle i ailymweld â, ac i ailddatgan dibenion sylfaenol addysg ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru.
Yn y cynllun i ddiwygio’r cwricwlwm a ddeilliodd o’r arolwg, cynigiwyd nifer o argymhellion sy’n cael eu gweithredu cyn y bwriedir rhoi’r cwricwlwm ar waith o 2022.
Sefydlwyd CAMAU gan ddefnyddio cyllid a roddwyd gan PCYDDS a Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu fframweithiau dilyniant sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy’n cynorthwyo arferion asesu sy’n cyd-fynd ag ‘ysbryd’ yn hytrach na ‘llythyren’ asesu ar gyfer dysgu.
Mae cyfnod cyntaf y prosiectau yn ymwneud â datblygu ar y cyd fframweithiau dilyniant sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Dylunnir yr ail gyfnod i adolygu a dysgu o’r broses o dreialu’r fframweithiau dilyniant drafft, a gwnaiff y trydydd cyfnod gwblhau’r trefniadau hyn.
Ym mhob cyfnod o’r prosiect, y mae athrawon, disgyblion, gwneuthurwyr polisi ac ymchwilwyr yn gyd-ymchwilwyr sy’n rhannu’r un dyhead, sef datblygu ar gyfer Cymru gwricwlwm, addysgeg a threfniadau asesu o ansawdd uchel a gwybodus.
Mae staff Athrofa Addysg PCYDDS, Prifysgol Glasgow a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd yn rheolaidd gyda chydweithwyr mewn ysgolion arloesol i symud ymlaen y weledigaeth a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus.
Datblygwyd cyfres gyntaf adroddiadau interim y tîm CAMAU yn gyfres o adnoddau sydd wedi’u defnyddio i gynorthwyo i fynegi ‘beth sy’n bwysig’ wrth gysyniadu’r cwricwlwm newydd ar draws y rhwydwaith ysgolion arloesol.
Mae’r rhain yn cynnwys adolygiadau ymchwil i ddilyniant plant a dysgu gan bobl ifanc; adolygiadau o bolisïau dilyniant a ddaw o wledydd eraill; ac adolygiad a dadansoddiad o ddilyniant fel y mae’n ymddangos yn Dyfodol Llwyddiannus.
Rhoddwyd i ysgolion arloesol y dasg o nodi’r hyn sy’n bwysig er mwyn cyflawni dibenion cyffredinol y cwricwlwm newydd a darganfod sut orau y gellid disgrifio a chanfod cynnydd.
Meddai Dr Jane Waters, Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth yr Athrofa: “Caiff fframweithiau eu dylunio gan, ac ar gyfer y proffesiwn, ac o’r cychwyn cyntaf, cawsant eu datblygu i fod yn hollol gynhwysol, er mwyn sicrhau eu haddasrwydd ar gyfer pob dysgwr.
“Drwy ddefnyddio gwahanol fathau o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth er mwyn archwilio sut orau i ddisgrifio a datblygu dilyniant mewn perthynas â Meysydd Dysgu a Phrofiad (AOLEs), mae gan CAMAU rôl bwysig i’w chwarae wrth greu ein cwricwlwm cenedlaethol newydd.
“Ond mae i’r gwaith hwnnw lawer o elfennau ac rydym yn ddyledus i’r nifer mawr o gydweithwyr sydd wedi ymuno â ni ar ein siwrne.
“Byddwn yn edrych ar ac yn dysgu o’r dulliau rhyngwladol diweddaraf, yn ogystal â’r arfer da a geir yng Nghymru, er mwyn llywio dylunio, datblygu a chyflwyno gwaith CAMAU, wrth iddo fynd rhagddo.”
Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa: “Rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r cyfle i ni gynorthwyo’r gwaith pwysig hwn, ac mae’r her o ddatblygu, mewn partneriaeth â chydweithwyr, drefniadau asesu newydd ac arloesol ar gyfer Cymru, wedi ein cynhyrfu.
“Mae prosiect CAMAU yn symud ymlaen yn dda, ac mae pob rhanddeiliad allweddol wedi chwarae ei ran i ddod â chynllun penodedig yr Athro Donaldson ynghyd.
“Mae mewnwelediad staff ysgolion wedi bod yn werthfawr dros ben – mae athrawon yn weithredwyr newid, ac felly maent yn teilyngu chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw arloesi.
“Yn ogystal, rydym yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ein cydweithwyr yn Glasgow, oherwydd mae eu harbenigedd helaeth wedi bod yn hanfodol wrth yrru’r prosiect hwn ymlaen.
“Mae Dyfodol Llwyddiannus yn torri tir newydd, ac nid oes model diwygio’r cwricwlwm yn bodoli sydd mor eang â’r un yr ymgymerir ag ef ar hyn o bryd yng Nghymru.
“Cynigia hwn gyfle unigryw i ni lunio system addysg sydd â dilyniant dysgwyr yn ganolog iddi, ac y gallwn ymfalchïo ynddi.”