Wedi’i hysbrydoli gan gynhadledd ddiweddar, mae Mererid Hopwood yn ystyried y gwersi y gallwn eu dysgu oddi wrth ein cyndeidiau wrth addysgu iaith…
Bellach mae holl gynadleddwyr ein cyfarfod ‘Ymchwil mewn Addysg’ cyntaf wedi dychwelyd adref; pawb wedi cael cyfle i roi eu llwy ym mhair mawr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac wedi, gobeithio, cael blas ar y gymysgedd.
Yn anochel cododd y nod o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg ei ben sawl gwaith, ac un peth sy’n dod yn gynyddol amlwg yw y bydd rhaid sicrhau bod athrawon, a darpar- athrawon yn benodol, yn cael arweiniad clir ar ddulliau effeithiol addysgu iaith.
Yn wyneb hyn, dyma fwrw golwg arall yn ôl ar adroddiad 1927 – ‘Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd’ – a gweld sut oedd ar arbenigwyr yn ei gweld hi dros 90 mlynedd yn ôl.
Mae lliwiau’r adroddiad yn benderfynol – obeithiol wrth iddo agor ar gynfas eang sy’n ymestyn yn ôl at ddechreuadau’r iaith. Erbyn yr ail dudalen mae’n atgoffa’r darllenydd sy’n digalonni wrth feddwl am y ‘Welsh Note’ (neu’r ‘Welsh Not’) y bu arfer tebyg yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Bryd hynny penodwyd Custodes neu Asini i bob dosbarth i roi’r wialen i unrhyw ddisgybl a fyddai’n siarad Saesneg yn lle Lladin. Ac aiff yn ei flaen i ddweud mai’r ffordd i ennill y llysenw ‘custos’ (sef ‘penbwl’ y dosbarth) yn Ysgol Eton oedd dal ati i siarad Saesneg.
Yr awgrym wrth gwrs yw bod modd troi ffasiwn ac arferion ieithyddol, ac er bod yr awduron yn cydnabod nad oes modd cymharu anawsterau diwygwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif gyda’r rhai a wynebai’r Saeson bedair canrif yn flaenorol, mae newid arferion yn sicr yn bosib.
Os oes 68 o argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus (sydd â’i ffocws ar y cwricwlwm yn gyffredinol) a 10 ohonynt yn benodol yn ymwneud â’r iaith Gymraeg, mae 72 o argymhellion yn adroddiad swmpus 1927 (sydd â’i ffocws ar y Gymraeg yn gyffredinol), a 60 ohonynt yn ymwneud ag addysg.
Mae 6 wedi eu hanelu at ‘Y Bwrdd Addysg’; 13 at ‘Y Brifysgol a Cholegau’r Brifysgol’; 7 at y ‘Colegau Hyfforddi a’r Adrannau Hyfforddi’; 17 at yr ‘Awdurdodau Addysg Lleol’; 6 at ‘Bwrdd Canol Cymru’ ac 11 at ‘Yr Athrawon’.
A Chymru’n edrych o’r newydd ar faes Addysgu Athrawon, o’r 7 sy’n benodol yn ymwneud â Cholegau Hyfforddi Athrawon, mae 4 yn arbennig yn werth eu nodi. Yn y rhain argymhellir:
- ‘fod pob Coleg Hyfforddi neu Adran Hyfforddi yng Nghymru yn darparu cyrsiau wedi eu safoni’n briodol ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg;
- fod pob myfyriwr sydd mewn Coleg Hyfforddi neu Adran Hyfforddi yng Nghymru yn dilyn cwrs ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg;
- fod y Colegau Hyfforddi yn rhoddi hyfforddiant yn y dulliau gorau o ddysgu iaith, a’u cymhwyso at ddysgu’r Gymraeg;
- y dylid hyfforddi athrawon yn y dulliau o ddysgu’r plentyn unigol fel y gallont gymhwyso’r dulliau hynny at ddysgu Cymraeg.’
Nodir bod ‘llawer iawn o dystion’ wedi dweud y gellid dysgu’r Gymraeg yn ‘llawer mwy effeithiol’ petai mwy o’r athrawon wedi ‘eu cymhwyso’n briodol at y gwaith’.
Fel rhan o’r gwaith cymhwyso hwn, nodir ymhellach bod rhaid talu sylw i ‘amgylchfyd’ y coleg yn ogystal â’r ‘pwnc’, gyda’r Gymraeg yn cael ‘lle anrhydeddus ym mhob adran o fywyd y Coleg’ er mwyn cynhyrchu athrawon brwdfrydig.
Rhagwelir y byddai’n rhaid manteisio ar Ysgolion Haf, Ysgolion Nos, a dosbarthiadau ar fore Sadwrn er mwyn cefnogi’r myfyrwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg, cyn pwysleisio bod angen, ar ben ‘brwdfrydedd a sêl a gwybodaeth’, hefyd ‘y gelfyddyd o gyflwyno’r pethau hyn i’r plant’.
Yn y trafodaethau aml diweddar am wyddoreg trosglwyddo iaith, clywir llawer sôn am ddull a chyrchddull, method a thechneg, addysgeg a phedagogeg, ond tybed a fydden ni ar ein hennill pe bydden ni’n cyfeirio at y gamp fel ‘celfyddyd’?
- Mae Mererid Hopwood yn aelod o staff Yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant