Mae Gareth Evans yn ystyried y ddadl gyfredol ynglŷn â chwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru – a pha wersi y gallwn eu dysgu oddi wrth eraill sydd mewn sefyllfa debyg…
Am y tair blynedd diwethaf, mae diwygio’r cwricwlwm wedi dominyddu’r ddadl ymhlith addysgwyr yng Nghymru. Ac mae rheswm da am hynny, o ystyried y goblygiadau mawr ar gyfer pob ysgol wladol ar draws y wlad.
Y diben yw bod y cyfnod cyfan o addysg statudol yn cael ei weld yn gyfanwaith cydlynol, cynyddol. Cyn bo hir, pethau’r oes a fu fydd darnau a ddysgir ar y cof, unffurfiaeth gyffredinol a meysydd pwnc cul ag iddynt ddeilliannau penodol.
Ond bydd symud o ragnodi, ac yn ei sgil oddefedd, yn cymryd amser ac egni; mae arferion y dyddiau gynt wedi’u hymgorffori mor ddwfn fel mai dim ond un ffordd o wneud pethau sy’n wybyddus i lawer.
Felly, nid yw’n syndod mawr fod tipyn o drafod o ddifri wedi bod ynghylch ailwampio’r hyn y mae plant yn ei ddysgu, a sut maent yn ei ddysgu, yn ystafelloedd dosbarth Cymru.
Er bod y proffesiwn addysgu, yn fy marn i, wedi’i rymuso gan adroddiad arloesol yr Athro Graham Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus (y ddogfen hollbwysig honno sy’n sylfaen ar gyfer diwygio cwricwlwm Cymru), mae llawer ar ôl i’w wneud o hyd.
Dair blynedd wedi iddo gael ei gyhoeddi, nid oes rhyw lawer iawn i’w ddangos o hyd, er gwaethaf misoedd lawer o waith caled ac ymdrech.
Mae’r glasbrint wedi’i ddatgymalu, gan adael ar ôl yr ‘hyn sy’n bwysig’ yn unig, ac nid yw pwysigrwydd gosod seiliau ar gyfer ein cwricwlwm newydd wedi ei amcangyfrif yn rhy isel.
Ni allwn adeiladu ar dywod yr hyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ei ddefnyddio yn sail i’w holl fywydau. Wrth gwrs, gellid bod wedi gwneud hyn oll yn llawer mwy cyflym.
Cwricwlwm parod wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion Cymru (a’i roi at ei gilydd gan wasanaeth sifil yn un o swyddfeydd cefn y llywodraeth) oedd y dewis arall realistig ar gyfer gwneud hyn.
Yn lle hynny, mae’r proffesiwn wedi bod wrth y llyw ac yn ganolog i’r broses gyfan. Mae model ‘arloesol’ Llywodraeth Cymru wedi ailddosbarthu’r awdurdod, a rhaid cymeradwyo ei hymagwedd gydweithredol.
Mae profiad yn ein dysgu bod polisi yn fwy tebygol o lwyddo os ydy’n ennyn diddordeb ac ymroddiad y sawl sy’n gyfrifol am ei weithredu’n ymarferol.
Ond does dim byd yn hawdd ym myd addysg, ac yn anffodus yr Alban yw achos y drwg o hyd. Erbyn hyn, does dim troi’n ôl, ac mae’r fframwaith ar gyfer Cymru wedi ei fodelu yn bennaf ar yr un a ddefnyddiwyd gan ein cydweithwyr Celtaidd.
Ond mae Curriculum for Excellence (CfE) newydd yr Alban wedi cychwyn yn anaddawol, ac i ddyfynnu academydd brodorol, mae “wedi bod yn destun anesmwythyd eang”.
Mae’r CfE wedi cael ei blagio gan honiadau o fiwrocratiaeth ddianghenraid, baich gwaith mwy i athrawon, a dryswch ynglŷn â’i amcanion.
Mae methiant amlwg iawn yr Alban i gyflawni holl fesurau PISA wedi ychwanegu tanwydd at dân sydd eisoes yn ffyrnig. Ond peidiwch ag ofni, nid yw ceidwaid Cymru yn ddall i’r heriau a wynebwyd i’r gogledd o’r ffin, ac maent yn benderfynol o gywiro’r hyn a aeth o chwith mewn mannau eraill.
Mae’n wir y gallwn, drwy ddefnyddio CfE fel model, geisio cywiro camgymeriadau ein rhagflaenwyr i’r un graddau ag y gallwn geisio copïo ac adeiladu ar eu llwyddiannau.
Pan oeddwn ar ymweliad astudio â’r Alban yn ddiweddar, cefais gipolwg ar wir natur cynllunio a gweithredu cwricwlwm. Yno, siaradais gydag athrawon, athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr athrawon – roedd gan bob un ohonynt reswm gwahanol pam gwnaeth CfE brofi’n ddiffygiol.
Yn ôl un, cyflymdra’r penderfyniad i’w roi ar waith oedd y rheswm, gan roi amser annigonol i arweinwyr ysgolion fynd i’r afael â’r hyn y gofynnwyd iddynt ei wneud.
Er gwaethaf y chwe blynedd sydd wedi mynd heibio rhwng cyhoeddi dogfen sefydlu’r CfE a gweithredu’r cwricwlwm am y tro cyntaf yn 2010, mae’n debyg nad oedd athrawon wedi cael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer ei gyflwyno mewn ysgolion.
Dywedwyd mai ffactor arall a wnaeth gyfrannu oedd y gofynion gweinyddol newydd a roddwyd ar ysgwyddau athrawon. Roedd hi’n amlwg bod cynllunio o flaen llaw a pharatoi gwersi yn pwyso’n drwm ar rai (yn eironig, ystyriwyd prinder adnoddau parod yn anfantais enfawr).
Efallai’r peth mwyaf chwerw i’w lyncu oedd yr awgrym nad oedd athrawon yn feddyliol barod i newid.
“Mae goresgyn llesgedd yn lled anodd,” meddai un arbenigwr yn y maes sy’n teimlo bod llawer wedi “colli eu sgiliau a’u cymhelliant”.
Mae’n ein hatgoffa’n amserol fod diwygio cwricwlwm yn gofyn llawer gan y proffesiwn addysgu ac y bydd yn gorfodi nifer sylweddol o bobl i wneud pethau nad ydynt yn gyfforddus â nhw.
Mae’n iawn, felly, ein bod ni’n sicrhau bod athrawon yn cael eu cynorthwyo’n ddigonol yn ystod y cyfnod o drawsnewid, a golyga hyn yn ddieithriad eu bod nhw’n cael mynediad at adnoddau cywir a phriodol.
Mae undebau addysg yn parhau i’n rhybuddio am yr effaith y gallai cyfyngiadau ariannol ei chael, ac y mae eisoes yn ei chael, ar ein hysgolion, a dim ond yn ddiweddar gwnaeth y Prif Arolygydd ein rhagrybuddio am y risgiau posib i’r cwricwlwm.
Nid yw’n bosib diwygio’r cwricwlwm yn rhad, a bydd paratoi’r sawl sydd yn rhengoedd blaen addysg ar gyfer y newid mawr sy’n ein hwynebu yn costio’n sylweddol. Mae llwyddiant yn dibynnu ar raglen dysgu proffesiynol barhaus a chynhwysfawr – a bydd gwneuthurwyr polisïau yn ymwybodol iawn o’r peryglon.
Yn fy marn i, nid yw gwir fanteision y Cyfnod Sylfaen wedi’u gwireddu’n llawn oherwydd prinder arian priodol (mae dadansoddiadau Wiserd yn ddefnyddiol yn hyn o beth), ac ni allwn adael i weledigaeth Dyfodol Llwyddiannus fynd yr un ffordd.
Trwy gyd-ddigwyddiad, mae datblygu cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle perffaith i adfywio’r Cyfnod Sylfaen – pa beth bynnag yw’r ffurf y mae’n ei gymryd, er mwyn sicrhau bod ei holl botensial yn cael ei wireddu o’r diwedd.
Gwerthfawrogaf fod yr amseroedd yn galed ac nid ydym yn byw mewn gwlad gyfoethog. Mae rhestr hir o flaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd, ac ni allwn blesio pawb.
Ond yn gyntaf, bydd rhaid i’r Prif Weinidog Carwyn Jones fynd ati o ddifri er mwyn plant a phobl ifanc Cymru – rydym yn dibynnu ar yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i ymladd yn y mannau uchaf ar ein rhan.
Pan ymunodd hi â Llywodraeth Cymru yn 2016, soniodd Mr Jones am “rôl allweddol” Ms Williams “wrth yrru ymlaen un o gwricwla blaenllaw’r byd a chodi safonau ar draws y proffesiwn”.
Mae’n hanfodol ei bod hi’n cael yr arfau i wneud hynny.
- Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Polisi Addysg Yr Athrofa: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant