Roedd Mis Hanes Pobl Dduon unwaith eto yn llwyddiant ysgubol eleni gyda digwyddiadau i’w ddathlu yn cael eu cynnal ar draws y wlad. Ond beth y mae’r cyfan amdano? Mae Dr Paul Hutchings a Katie Sullivan yn esbonio…
Mae Mis Hanes Pobl Dduon (Black History Month – BHM yw’r talfyriad) wedi cael ei ddathlu bob mis Hydref yn y Deyrnas Unedig ers 1987, ond mae llawer o bobl naill ai yn ymwybodol ohono neu nid oes ganddynt lawer o ddealltwriaeth amdano na pham mae’n cael ei ddathlu; a byddwn wedi cynnwys ein tîm seicoleg ni yn yr ail grŵp, o leiaf tan eleni.
Sefydlwyd BHM i ddathlu cyraeddiadau a chyflawniadau pobl Brydeinig o Affrica, a dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i ddathlu ac amlygu amrywiaeth ar draws y DU, gan gynnwys anghyfiawnderau a phroblemau y mae aelodau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (Black, Asian and Minority Ethnic – BAME) o’r gymuned yn parhau i’w hwynebu (gweler yma am wybodaeth ar BMH BHM).
Fel rhan o Seicoleg yn yr Athrofa, mae ein hymchwil yn canolbwyntio’n gryf ar agweddau tuag at fewnfudo gan allgrwpiau hiliol ayyb, ac felly o safbwynt academaidd, rydym yn arbenigwyr ar faterion sy’n ymwneud â’r rhagfarn a’r gwahaniaethu y mae aelodau’r gymuned BAME yn eu hwynebu, ond gweddw damcaniaeth heb unrhyw gymhwysiad, ac felly, roeddem am chwarae rhan fwy ymarferol fel petai.
Eleni yn enwedig, oherwydd bod 70 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i’r genhedlaeth Windrush gyrraedd (a’r holl helynt eleni ynglŷn â’u triniaeth fel dinasyddion Prydain), hanner canmlwyddiant ers cyhoeddi’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn y DU, a hefyd, hanner canmlwyddiant ers llofruddiaeth Dr Martin Luther King, yn ogystal â materion sy’n ymwneud â mewnfudo a’r ansicrwydd y mae Brexit wedi achosi i lawer o grwpiau ymfudol, gwnaethom deimlo ei bod hi’n bwysig i ni fynd allan ac ymweld â’n cymunedau gyda’r hyn yr ydym yn ei wybod, ac yn ei dro, i ddysgu oddi wrth y cymunedau hynny.
Drwy un o’n cyn-fyfyrwyr sydd bellach yn gweithio i Race Council Cymru (RCC), gwnaethom gynnal trafodaethau ar sut i gael mwy o bobl i chwarae rhan yn yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru. Aethom at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) i ofyn iddynt noddi digwyddiadau BHM ar draws Cymru, a gwnaethant gytuno gwneud hynny, ac felly aethom i’r digwyddiadau hyn heb wybod yn iawn beth y dylem ddisgwyl; dau academydd gwyn yn mynychu digwyddiadau BHM ac yn ymdaflu eu hunain i’w canol, yn rhoi sgyrsiau, yn cyflwyno dyfarniadau… a fydden nhw hyd yn oed am i ni fod yno?
Yr ateb wrth gwrs yw, heb unrhyw amheuaeth, ‘byddent’. Ni chaiff problemau sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb, anghyfiawnder, amrywiaeth a dathlu eu datrys gan un grŵp yn unig, ond drwy bob un ohonom yn cydweithio. Fel y dywedodd Simon Woolley, Cyfarwyddwr Operation Black Vote Operation Black Vote, yn un o’i sgyrsiau yn ystod y digwyddiadau BHM, mae pawb sydd yn yr ystafell ac sydd â diddordeb mewn cydraddoldeb yn blentyn i Dr Martin Luther King.
Yn ystod y mis, cynhaliwyd digwyddiadau BHM ar draws Cymru, ac roedd y rhain yn bwysig oherwydd eu neges. Roedd hi’n dipyn o hwyl hefyd eu mynychu. Mynychwyd y digwyddiad agoriadol a gynhaliwyd yn Adeilad Pierhead Cynulliad Cymru gan yr Aelodau Cynulliad Mark Drakeford a Vaughan Gething, Yr Arglwydd Herman Ouseley o Dŷ’r Arglwyddi, Beverley Humphries o’r BBC, a llawer mwy, ond y bobl a’i storïau oedd uchafbwynt y digwyddiad; roedd eu cyraeddiadau, eu hymdrechion a’u barn ar ein cymdeithas ni’n anhygoel o addysgiadol i bawb, a dyna beth wnaeth y diwrnod hwnnw mor arbennig.
Drannoeth, roeddwn yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar gyfer y digwyddiad celfyddydau diwylliannol. Roedd hwn yn gyfuniad gwych o ddod â’r hanes a’r cyfoes at ei gilydd, ynghyd â pherfformiadau ffantastig gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf talentog Cymru, a gwnaeth amlygu’n fawr natur amrywiol ein cymdeithas Gymreig fodern, gyda llawer a oedd yn ymweld â’r amgueddfa yn aros i ymuno yn y dathlu.
Parhaodd y digwyddiadau BHM ar draws Cymru mewn llawer o leoliadau gwahanol: Aberystwyth, Casnewydd, Bangor, Abertawe, ond ceir ym mhob un ohonynt yr un naws o ddathlu, adfyfyrio a brwdfrydedd dros sicrhau cymdeithas gyfartal a llewyrchus i bawb. Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cyfrannu hyd yn oed ychydig at ddathlu BHM 2018, ac edrychwn ymlaen at gymryd rhan eto yn y dyfodol.
Gobeithiwn y gwnewch chwithau hefyd chwilio am rai o’r digwyddiadau hyn a gynhelir yn eich ardal leol chi, a gwnawn eich annog eu mynychu a chymryd rhan; mae angen ar ein cymdeithas yr ymgysylltu hwnnw, ac yn ychwanegol at hyn, rwy’n addo y gwnewch ei fwynhau!
- Mae Dr Paul Hutchings a Katie Sullivan yn Seicolegwyr Cymdeithasol a Gwleidyddol yn Nisgyblaeth Academaidd Seicoleg Yr Athrofa. Eu maes ymchwil yw agweddau at aelodau grwpiau mewnol ac allgrwpiau