Yn ôl adroddiad newydd, gall adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg leihau baich gwaith athrawon a rhoi profiad adborth mwy personol i ddysgwyr.

Dangosodd ymchwil a wnaed gan academyddion yn yr Athrofa fod amlbwrpasedd adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg  yn gryfder arbennig, oherwydd gallai fod yn gysylltiedig ag oedran a cham datblygiadol disgyblion, neu faes pwnc penodol.

Archwiliodd yr astudiaeth y defnydd a wneir o dechnoleg er mwyn cynorthwyo strategaethau asesu ffurfiannol yn Ysgol Bae Baglan, ysgol ar gyfer plant 3-16 mlwydd oed a leolir yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gwelwyd disgyblion Blwyddyn 5 hyd at Flwyddyn 10 yn llwytho eu gwaith i fyny i ‘OneNote’, a’u hathrawon yn ymateb ar-lein a rhoi adborth personol gan ddefnyddio rhaglen o’r enw ‘Office Mix’.

Roedd yr ysgol am archwilio effaith adborth geiriol ar faich gwaith athrawon ac ymgysylltu disgyblion â’u dysgu eu hunain.

Byddai manteision defnyddio technoleg ar gyfer darparu’r adborth hwn hefyd yn cael eu harchwilio.

Meddai’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan Dr Helen Lewis, Siân Brooks a Diane Thomas o’r Athrofa, ynghyd â’r consortiwm ERW “Ar ddechrau’r astudiaeth, dywedodd 34% o ddisgyblion yn unig eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus gyda derbyn adborth a gynorthwyir gan TGCh.

“Roeddent yn ansicr ynglŷn â sut i gael mynediad at, deall ac ailymweld ag adborth a gyflwynir yn y fformat hwn.  Roedd adborth geiriol, o gymharu â sylwadau ysgrifenedig, yn newydd iddynt ac felly, roeddent yn teimlo’n ansicr ynglŷn â’i werth.”

Erbyn diwedd yr astudiaeth, dywedodd 70% o ddisgyblion o bob oedran eu bod nhw’n hapus i dderbyn adborth geiriol.

“Roeddent yn hapus fod yr adborth yn rhoi negeseuon clir iddynt am yr hyn yr oedd angen iddynt fynd i’r afael ag ef, ” meddai’r adroddiad.

“Teimlwyd ganddynt hefyd fod yr adborth geiriol yn bersonol iddyn nhw, a bod y personoli hwn yn cael ei gyfleu’n well drwy adborth geiriol o gymharu ag adborth ysgrifenedig.”

Ymatebodd athrawon yn gadarnhaol hefyd, gan adrodd bod rheoli eu baich gwaith wedi dod yn haws  a bod eu sgiliau TGCh eu hunain wedi gwella o ganlyniad yr astudiaeth.

Dywedodd un athro “Mae disgyblion yn deall adborth geiriol yn well oherwydd gallaf esbonio’r pwynt a phwysleisio agweddau’n fwy clir iddynt nag y gallaf drwy ddefnyddio sylwadau ysgrifenedig. Gallaf ddangos iddynt yn union yr hyn yr ydwyf am ei gyfleu, ac mae hynny’n beth grymus.”

Yn ôl yr adroddiad, un o’r prif heriau sy’n wynebu’r prosiect yw bod asesu adborth yn dibynnu ar y ffaith bod disgyblion yn gallu mynd ar-lein, ond nid oes gan rai ohonynt fynediad at y rhyngrwyd y tu allan i’r ysgol.

Daeth i’r casgliad: “Yn Ysgol Bae Baglan, gwnaeth symud o sylwadau ysgrifenedig manwl i adborth geiriol gan ddefnyddio technoleg leihau baich gwaith athrawon a helpu disgyblion i deimlo bod adborth yn bersonol i’w hanghenion unigol nhw.

“Un o gryfderau’r ymagwedd hon oedd yr hyblygrwydd a roddwyd ganddi i’r athrawon a’r disgyblion yn ogystal. Gellid cymhwyso’r adborth digidol at y gofynion gwahanol a oedd gan athrawon ledled yr ysgol gyfan – pe baent yn gysylltiedig ag oedran a cham datblygiadol y disgyblion, neu’r pynciau yr oeddent yn eu haddysgu.

“Defnyddiodd athrawon gwahanol yr ymagwedd adborth mewn gwahanol ffyrdd. Er hynny, teimlodd pawb yn bositif am y broses.”

Argymhellodd yr adroddiad y dylid ymgorffori cyfleoedd adborth geiriol yn repertoire y prosesau adborth, a dylai athrawon ystyried a ddylid defnyddio ffyrdd eraill i ddychwelyd adborth seiliedig ar ddarnau hwy o waith.

Ymgymerwyd ag astudiaethau tebyg yn Ysgol Gyfun Treforys ac Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw, Abertawe.

Yn gyffredinol, roedd hi’n well gan 80% o ddisgyblion Cwmrhydyceirw i gael y cyfle i siarad am eu gwaith gyda’u hathro, o gymharu â darllen sylwadau.

Yn y cyfamser, dywedodd disgyblion Treforys fod ganddynt, ar ôl defnyddio ysgolion cyrhaeddiad, well ddealltwriaeth o sut i wneud newidiadau i’w gwaith.

8 Comments

  1. Pingback: wing888
  2. Pingback: ไก่ตัน
  3. Pingback: รถ6ล้อ

Leave a Reply