Gwnaeth Mererid Hopwood a Siân Brooks roi’r droed orau ymlaen yn ystod prosiect newydd sy’n cysylltu iaith, cerddoriaeth a dawnsio…

 

Dechreuodd yr hyfforddiant â’r ‘balanceo’, sef y siglo rhythmig sy’n synhwyro safle eich partner cyn i chi gymryd cam cyntaf y tango. A bant â ni drwy wers dawnsio Archentaidd: roedd hon yn mynd i fod yn sesiwn Datblygiad Proffesiynol wahanol i’r arfer.

Cynigwyd y cwrs i athrawon yr ysgolion cynradd hynny o gonsortiwm Erw sy’n rhan o brosiect Cerdd Iaith/ Listening to Language.

Mae’r gwaith yn archwilio cysylltiadau posib rhwng cerddoriaeth a dysgu iaith drwy ystyried yr hyn sy’n digwydd pan fo athrawon yn cyflwyno nid un, nac ychwaith ddwy, ond tair iaith yn gydamserol i blant ysgol gynradd, gan dynnu eu sylw’n benodol i’r hyn y gellid ei alw’n ‘fydryddiaeth; yr ieithoedd dan sylw, h.y. i ddimensiwn cerddorol yr ymadrodd llafar.

Dechreuodd y prosiect creadigol a thairieithog ym mis Medi 2016 fel partneriaeth rhwng Sefydliad Paul Hamlyn, Cyngor Prydeinig Cymru, Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru, ERW a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn y sesiynau cynnar, dewiswyd geiriau unigol Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg a oedd yn golygu’r un peth yn y tair iaith ond a oedd ac iddynt werth rythmig wahanol. Esiampl dda fyddai ‘País de Gales’/ ‘Cymru’/ ‘Wales’.

Gan weithio gyda disgyblion blynyddoedd 5 a 6, pwysleisiwyd y gwahaniaeth rhwng y geiriau gan gysylltu nodyn â phob sillaf ynghyd â gwerth rhythmig, a chreu felly uned fach gerddorol. Ar bob achlysur, roedd y disgyblion yn gweld a chlywed yr ieithoedd ochr yn ochr.

Wrth i’r prosiect ddatblygu, cyflwynwyd disgyblion i unedau mwy cymhleth a oedd yn datblygu o eiriau unigol i ymadroddion llawn. Ymadroddion cyffredin oedd y rhain, ond rhai sydd â siâp cerddorol (o ran rhythm, aceniad a goslef) gwahanol  ganddynt yn y tair iaith, ac ymadroddion nad oes modd eu trosi air am air.

Er enghraifft, mae’r ymadrodd Cymraeg ‘mae eisiau bwyd arnaf i’ yn cyfuno trydydd person unigol presennol y ferf afreolaidd ‘bod’ – ‘mae’, gyda’r enw ‘eisiau’, yna mae’n nodi enw arall – ‘bwyd’, cyn rhoi’r arddodiad ‘ar’ wedi ei redeg i gyd-fynd â’r person cyntaf unigol – ‘arnaf’, gan orffen gyda rhagenw uniongyrchol person cyntaf unigol – ‘i’.

Yn Saesneg, dywedir ‘I’m hungry’, sy’n cyfuno’r person cyntaf unigol presennol y ferf ‘to be’ gydag ansoddair, ‘hungry’. Yn Sbaeneg, cyflëir hyn oll gyda’r ymadrodd ‘tengo hambre’, sy’n cyfuno person cyntaf unigol y ferf afreolaidd ‘tener’ – ‘tengo’ (a drosir i’r Gymraeg fel ‘mae gen i’, neu i’r Saesneg fel ‘I have’), gydag enw, ‘hambre’ sef ‘newyn’…

O’i roi felly, mae’r cyfan yn ymddangos yn gymhleth tu hwnt! Tybed a allai eu dysgu nhw i gyd gyda’i gilydd gan ganolbwyntio ar rythm hwyluso pethau?

Tra bod y sesiynau arsylwi go iawn heb ddigwydd eto, mae tystiolaeth anecdotaidd gynnar yn awgrymu bod tarfu ar drefn a phatrymau confensiynol dysgu ail a thrydedd iaith yn y modd hwn wedi dwyn ffrwyth; nid yn unig o ran cofio a deall geiriau ac ymadroddion mewn tair iaith, ond hefyd o ran parodrwydd disgyblion ac athrawon i roi tro arni a’u cywirdeb wrth ynganu’r ymadroddion a’r geiriau.

Ymddengys bod y prosiect hefyd wedi dangos sut y mae mynd ati drwy’r celfyddydau, yn benodol, cerddoriaeth, yn diddymu’r rhwystrau sy’n draddodiadol wedi atal athrawon rhag dod yn arweinwyr dysgu iaith hyderus; rhwystrau megis:

  • Ofn gwneud camgymeriadau (h.y. drwy beidio â chyfleu’r gyfatebiaeth gywir rhwng yr iaith ddieithr a’r un gyfarwydd);
  • Ymwrthod ag amwysedd ystyr;
  • Diffyg gwerthfawrogi pwysigrwydd gwrando’n ddwys;
  • Yr angen i greu’r amgylchedd addas i annog dysgwyr i gymryd risg wrth ynganu patrymau sain newydd.

Yng Nghymru, wrth i ni ddechrau meddwl am y cwricwlwm yn nhermau ‘Meysydd Dysgu a Phrofiad’, mae’r prosiect o ddiddordeb arbennig. Mae wedi rhoi cyfle i athrawon a disgyblion ‘brofi’ ail a thrydedd iaith mewn modd emosiynol a chorfforol.

Mae ganddo arwyddocâd pellach wrth i bolisïau addysg Ewropeaidd ddod yn fwyfwy ymwybodol o’r ddolen sydd rhwng dysgu mwy nag un iaith a hybu cynhwysiant a chydlyniad cymdeithasol, cydraddoldeb a pharch at amrywiaeth.

Wrth baratoi ar gyfer ail flwyddyn o’r prosiect, cynhaliwyd y cwrs hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn ogystal â’r wers Tango, dysgom Tai Chi gan hyfforddwr llais proffesiynol, Gareth Evans. Helpodd hwn ni i ddysgu technegau anadlu cyn mynd ati i ddysgu ymarferion bywiog y gellid eu defnyddio â’r disgyblion i gynhesu’r llais.

Roeddem bellach yn barod i roi tro ar ddysgu rhai o ganeuon allweddol y prosiect – caneuon o waith y cyfansoddwr arbennig, Gareth Glyn. Cododd Tango’r Tengo ni i gyd ar ein traed a’n gadael yn awchu am y Tapas ac yn barod i drio siarad ychydig o Sbaeneg.

Drannoeth, cawsom gyfle i arbrofi â pheth o’r deunyddiau sydd ar y wefan a luniwyd yn arbennig ar gyfer y prosiect, ac agorwyd ein clustiau i rythmau iaith mewn sesiynau egnïol dan arweiniad aelodau Cerddorfa Genedlaethol y BBC a chantorion y BBC.

Ohrwurm, yn llythrennol, lindysen yr ŷd, yw’r gair Almaeneg ar y caneuon hynny’n sy’n mynnu troi a throsi yn y cof. Wrth i ni droi am adref, roedd pentwr o Ohrwürmer tairieithog yn chwyrlïo yn ein pennau, heb sôn am ôl y tango yn ein cerddediad.

  • Mae’r Athro Mererid Hopwood a Siân Brooks yn arbenigwyr iaith ac wedi’u lleoli yn yr Athrofa

Leave a Reply