{"id":39062,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/peidiwch-a-mynd-i-banig-achos-i-fyfyrio-yn-sgil-profion-rhyngwladol\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"peidiwch-a-mynd-i-banig-achos-i-fyfyrio-yn-sgil-profion-rhyngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/peidiwch-a-mynd-i-banig-achos-i-fyfyrio-yn-sgil-profion-rhyngwladol\/","title":{"rendered":"Peidiwch \u00e2 mynd i banig! Achos i fyfyrio yn sgil profion rhyngwladol"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Gareth Evans<\/em><em> yn galw am bwyllo cyn cyhoeddi\u2019r canlyniadau \u2018PISA\u2019 dylanwadol&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Cyhoeddir canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) eto ar 6 Rhagfyr ac yn \u00f4l pob s\u00f4n mae Llywodraeth Cymru yn ymbaratoi am newyddion drwg.<\/p>\n<p>Cynhelir profion PISA bob tair blynedd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac maent yn profi gwybodaeth a sgiliau craidd plant 15 oed wrth iddynt ddod at ddiwedd eu haddysg orfodol.<\/p>\n<p>Defnyddia sampl gynrychiadol o fyfyrwyr o dros 70 o wledydd i fesur sut mae gwahanol systemau addysg yn perfformio yn erbyn ei gilydd.<\/p>\n<p>Roedd canlyniadau Cymru yn ofnadwy o siomedig y tro diwethaf y cymharwyd y gwledydd \u00e2\u2019i gilydd yn 2013, ac yn sgil y ffaith fod ei pholis\u00efau addysg yn dal i fod yn gymharol newydd, ofna beirniaid y bydd y pryder yn parhau i\u2019w system ysgolion.<\/p>\n<p>Os bydd y sgorau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn gostwng ymhellach yng Nghymru, yna bydd llygaid y byd ar Fae Caerdydd eto am y rhesymau anghywir.<\/p>\n<p>Ac nid enw da yn unig sydd yn y fantol \u2013 rhagwela arweinwyr busnes y bydd perfformiad gwael ym mhrofion PISA yn cael effaith ar ffyniant economaidd gwlad.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr hyn a ddywedan nhw, os bydd Cymru\u2019n gwneud yn wael, bydd diwydiant yn llai tebygol o fuddsoddi yn y wlad.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd 468 pwynt yn unig yw sg\u00f4r gyfartalog Cymru mewn mathemateg \u2013 30 pwynt yn is na\u2019r Alban a 27 y tu \u00f4l i Loegr.<\/p>\n<p>Mae ei pherfformiad mewn gwyddoniaeth, maes cryfaf Cymru yn draddodiadol yn y profion PISA, wedi gostwng i 491 \u2013 y lefel isaf erioed.<\/p>\n<p>Cymerodd Llywodraeth Cymru gysur yn sg\u00f4r darllen cyfartalog Cymru, a gododd yn 2013 o 476 i 480 o bwyntiau, er i\u2019r genedl fethu \u00e2 gwella\u2019u safle yn yr un o\u2019r tri mesur.<\/p>\n<p>O roi popeth at ei gilydd, golygai fod system addysg Cymru wedi gostwng ym mhob un o\u2019r tri maes &#8211; i safle rhif 43, 41 a 36 yn y drefn honno.<\/p>\n<p>Mae\u2019r her, felly, yn sylweddol ac mae\u2019n mynd i gymryd amser i sicrhau gwelliant ar y raddfa sy\u2019n ofynnol i godi Cymru\u2019n uwch yn y safleoedd. \u00a0Nid oes ateb hawdd ac nid yw\u2019r hyn sy\u2019n gweithio mewn un cyd-destun o reidrwydd yn mynd i weithio mewn cyd-destun arall.<\/p>\n<p>O roi llu o fentrau adferol i\u2019r naill ochr, gwneir tasg Cymru\u2019n anoddach fyth gan ddylanwad ac enw da diamheuol PISA fel un o brif gyrff ymgynghorol y byd.<\/p>\n<p>Mae PISA yn tyfu\u2019n barhaus ac fe wnaeth taleithiau Beijing, Jiangsu a Guangdong ymuno \u00e2 Shanghai, a oedd ar y brig, i gynrychioli Tsieina am y tro cyntaf yn 2015 (mae bwlch o flwyddyn rhwng y profion a\u2019r canlyniadau).<\/p>\n<p>O gofio goruchafiaeth Shanghai mewn astudiaethau blaenorol, mae presenoldeb tri rhanbarth arall o Ddwyrain Asia yn debygol o rwystro gobeithion Cymru ymhellach o ymuno \u00e2 haenau uchaf y byd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig cofio nad yw Cymru ar ei phen ei hun o ran eisiau gwella ei phroffil PISA ac nid yw\u2019r cenhedloedd sydd mewn cystadleuaeth \u00e2 hi wedi bod yn sefyll yn eu hunfan chwaith.<\/p>\n<p>Er hynny, bydd y system wleidyddol a\u2019r cyfryngau cenedlaethol heb os yn mynnu atebion os bydd Cymru\u2019n methu \u00e2 bodloni\u2019r OECD am y pedwerydd tro yn olynol.<\/p>\n<p>Bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ymateb a rhaid iddi ymddangos yn rhagweithiol wrth fynd ati i sicrhau gwelliant mewn perthynas \u00e2 PISA.<\/p>\n<p>Ond gallai ailwampio system ysgolion sydd eisoes yn dioddef effeithiau\u2019r hyn mae\u2019r OECD yn ei alw\u2019n \u201cflinder diwygio\u201d beri oedi pellach yn natblygiad Cymru.<\/p>\n<p>Mae tuedd Llywodraeth Cymru i fynd o un polisi i\u2019r llall eisoes wedi cymhlethu pethau ac wedi gwanhau effaith rhai o\u2019i mentrau addysg mwy addawol.<\/p>\n<p>Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw gweledigaeth glir a ffocws penderfynol ar gyflawni. Byddwn yn erfyn ar yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams i ochel rhag ymateb yn gyflym heb ystyried yn llawn, ac i gyfyngu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i gynllun gwella cydlynol a chyraeddadwy.<\/p>\n<p>Bydd yn cymryd gweinidog beiddgar i aros yn gadarn a pharhau ar y trywydd presennol, ond rhaid i Ms Williams wrthsefyll y temtasiwn i roi\u2019r gorau i&#8217;r cynllun a dechrau o\u2019r newydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n werth cofio bod ymateb Leighton Andrews i PISA &#8211; ei \u201cgynllun 20 pwynt\u201d rhagnodol \u2013yn dal i weithio\u2019i ffordd trwy\u2019r system bum mlynedd yn ddiweddarach a byddai ailosod yr hyn sydd wedi\u2019i ddechrau yn gwneud llawer mwy o niwed nag o les.<\/p>\n<p>Yn fy marn i, ceir potensial heb ei gyffwrdd mewn cynghrair rhwng ysgolion, prifysgolion, consortia rhanbarthol a llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth \u201cgyda\u2019n gilydd yn gryfach\u201d er lles pawb.<\/p>\n<p>Mae\u2019n destun calondid nad yw Ms Williams wedi ceisio cuddio\u2019i hawydd i feithrin diwylliant o gydweithredu o fewn addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn ei hanerchiad diweddar i Gynhadledd Addysg Genedlaethol Llywodraeth Cymru, cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet r\u00f4l allweddol athrawon yn gyfryngau ar gyfer newid a galwodd ar y proffesiwn i gymryd cyfrifoldeb am ei ddatblygiad ei hun.<\/p>\n<p>Ond gyda her rhaid cael cymorth ac mae fframwaith strwythuredig i adeiladu capasiti o fewn y gweithlu addysg yn hanfodol.<\/p>\n<p>Yn y tymor byr, byddai\u2019n dda o beth i Ms Williams ystyried y canfyddiad cyffredinol o PISA ac a yw athrawon yn gwirioneddol gredu yn ei werth.<\/p>\n<p>Mae angen ymdrech ar y cyd i godi Cymru\u2019n uwch yn y safleoedd rhyngwladol ac mae\u2019n anodd dychmygu cynnydd dramatig mewn perfformiad heb gael cefnogaeth o\u2019r sector.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru a rhannau helaeth o\u2019r proffesiwn addysgu yn cyfleu negeseuon gwahanol ar hyn o bryd o ran PISA, sy&#8217;n cael ei ystyried gan lawer o ymarferwyr fel arf arall i guro ysgolion.<\/p>\n<p>Ond nid yw troi cefn ar PISA yn opsiwn a byddai gwneud hynny\u2019n peryglu mwy o niwed i enw da na\u2019r hyn sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 pherfformiad gwael.<\/p>\n<p>Mae\u2019n rhy hwyr i droi\u2019n \u00f4l nawr a chan fod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod yn rhan o PISA nid oes gan Gymru unrhyw ddewis ond dal ati.<\/p>\n<p>Er hynny, mae\u2019r ffaith mai dim ond 89 o\u2019r 213 o ysgolion uwchradd yng Nghymru a gofrestrodd ar gyfer prawf yn deillio o PISA, a luniwyd i baratoi disgyblion ar gyfer y math o asesiadau a ddefnyddir i ffurfio tablau cynghrair rhyngwladol, yn arwydd o\u2019r teimlad llugoer ymhlith gweithwyr proffesiynol addysg.<\/p>\n<p>Mae PISA\u2019n bwysig ac mae\u2019n profi\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau sy\u2019n hanfodol yn y gymdeithas fodern \u2013 ond mae\u2019n ddyletswydd ar Ysgrifennydd y Cabinet a\u2019i chynorthwywyr i drosglwyddo\u2019r neges gadarnhaol honno a sicrhau ymgysylltu ystyrlon.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bosibl y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried darparu ysgogiad ar gyfer cymryd rhan yn PISA ac, os oes angen, ar gyfer sicrhau perfformiad uchel fel modd o godi ei statws ymhlith y rhai mwyaf pwysig.<\/p>\n<p>Os nad yw\u2019r athrawon o ddifrif am PISA, yna pa obaith sydd gan y disgyblion?<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Mae Gareth Evans yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gareth Evans yn galw am bwyllo cyn cyhoeddi\u2019r canlyniadau \u2018PISA\u2019 dylanwadol&#8230; &nbsp; Cyhoeddir canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) eto ar 6 Rhagfyr ac yn \u00f4l pob s\u00f4n mae Llywodraeth Cymru yn ymbaratoi am newyddion drwg. Cynhelir profion PISA bob tair blynedd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ac maent yn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39062","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39062","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39062"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39062\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39062"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39062"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39062"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}