{"id":39063,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ymagwedd-newydd-at-fathemateg-yn-rhan-bwysig-or-hafaliad\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"ymagwedd-newydd-at-fathemateg-yn-rhan-bwysig-or-hafaliad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ymagwedd-newydd-at-fathemateg-yn-rhan-bwysig-or-hafaliad\/","title":{"rendered":"Ymagwedd newydd at fathemateg yn rhan bwysig o\u2019r hafaliad"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Dr Sofya Lyakhova<\/em><em> a Dr Howard Tanner yn ystyried datblygiad Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyhoeddiad diweddar (3.11.16) gan yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, ynghylch creu <em>Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg <\/em>i\u2019w groesawu gan rieni, athrawon a myfyrwyr yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod economaidd cythryblus hwn, mae\u2019n briodol iawn y dylai Llywodraeth Cymru ddatgan bod diwygio addysg yn genhadaeth genedlaethol.<\/p>\n<p>Rhaid i ni sicrhau bod holl bobl ifanc Cymru yn cael y cyfle i gyrraedd y safonau uchaf gan godi\u2019u huchelgeisiau i geisio rhagoriaeth.<\/p>\n<p>Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mathemateg o fewn y genhadaeth hon. Heb os, mae sylfaen gref mewn mathemateg yn hanfodol ar gyfer economi fodern sy\u2019n seiliedig ar wybodaeth yn ogystal \u00e2 datblygiad unigolion cyflawn.<\/p>\n<p>Mae sylfeini\u2019r datblygiad hwn wedi\u2019u gwreiddio\u2019n ddwfn yn y profiad a gaiff pobl ifanc trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, o 3 i 18 oed. Mae athrawon mathemateg yn allweddol yn hyn o beth ac mae datblygiad proffesiynol athrawon o ansawdd yn elfen hanfodol wrth gyflawni\u2019r uchelgeisiau hyn.<\/p>\n<p>Mae addysgu da a hyd yn oed rhagorol yn digwydd yng Nghymru bob dydd, ond nid yw hyn yn gyson wir. Mae perfformiad Cymru ym mhrofion rhyngwladol PISA yn parhau i fod yn achos pryder.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae canlyniadau arholiadau diweddar gan fyfyrwyr cyrhaeddiad uwch yn addawol. Yn benodol, mae gwaith Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru, gan ddefnyddio strategaethau cyflwyno arloesol, i raddau helaeth wedi cau\u2019r bwlch niferoedd a fodolai rhwng Cymru a Lloegr mewn mathemateg bellach.<\/p>\n<p>Cydnabu adroddiad yr OECD 2014 ar wella ysgolion yng Nghymru rai o\u2019r cryfderau yn system addysg Cymru, ond nododd hefyd heriau yn cynnwys diffyg gweledigaeth tymor hir, seilwaith gwella ysgolion annigonol, a\u2019r angen am strategaeth weithredu glir a arddelid gan yr holl ran-ddeiliaid.<\/p>\n<p>Credwn y dylai\u2019r Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg ddarparu\u2019r weledigaeth a\u2019r seilwaith cynaliadwy sy\u2019n angenrheidiol i rannu\u2019r arfer cyfredol gorau ar draws Cymru, ac i ddatblygu mewn athrawon wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o\u2019r modd mae plant yn dysgu mathemateg, sy\u2019n angenrheidiol i ddatblygu\u2019r pwnc yn y cwricwlwm newydd. Mae\u2019n hanfodol bwysig bod y seilwaith newydd yn cwmpasu pob gr\u0175p oedran, o 3 i 18 oed.<\/p>\n<p>Dylai\u2019r Rhwydwaith gynnwys cyfranogiad gweithredol gan athrawon mathemateg ledled Cymru, gyda chymorth cydweithwyr mewn consortia rhanbarthol ac mewn cydweithrediad agos ag ymchwilwyr mathemateg ac addysg fathemateg mewn prifysgolion.<\/p>\n<p>Dylai\u2019r cydweithredu hwn ddatblygu\u2019n ymagwedd newydd gyffrous at ddatblygiad proffesiynol mewn mathemateg, sy\u2019n cymryd i ystyriaeth yr ymchwil diweddaraf i addysgu a dysgu mathemateg, gan barhau \u00e2 sail gadarn mewn ysgolion.<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\"><strong>Symud tuag at Ragoriaeth mewn Addysgu Mathemateg<\/strong><\/span><\/p>\n<p>Ein gweledigaeth ni yw y dylai gwaith y Rhwydwaith fod yn seiliedig ar rwydwaith cenedlaethol, gyda phrif ymarferwyr addysgu mathemateg yn cymryd rhan mewn ymchwil i\u2019w harfer eu hunain. Mae\u2019r math hwn o ymchwil gan ymarferwyr wedi\u2019i gydnabod ers amser fel rhywbeth sy\u2019n arbennig o effeithiol o ran datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon o ddysgu ac addysgu.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, weithiau mae wedi\u2019i feirniadu am ei ddiffyg trylwyredd ac am fethu cyfathrebu \u00e2 chynulleidfa ehangach pan mae\u2019n cael ei gynnal ar wah\u00e2n.<\/p>\n<p>Credwn y dylai athrawon-ymchwilwyr y Rhwydwaith ryngweithio \u00e2 phartneriaid mewn addysg uwch, a fydd yn sicrhau bod eu hymchwil yn drwyadl, bod tystiolaeth ymchwil gyfredol yn cael ei ystyried, a bod athrawon-ymchwilwyr yn cydweithio mewn rhwydwaith ehangach.<\/p>\n<p>Ymhellach, dylai gwaith yr athrawon-ymchwilwyr fwydo\u2019n uniongyrchol i weithdai a gynhelir ar draws Cymru, gan sicrhau fod eu gwaith yn cyrraedd cynulleidfa ehangach. Dylid cyhoeddi deilliannau\u2019r gweithdai ar y we trwy Hwb.<\/p>\n<p>Dylai datblygiadau pellach gynnwys cynhadledd genedlaethol flynyddol i athrawon mathemateg ar bob lefel lle gellir dathlu gwaith yr ymarferwyr hyn. Dylai hyn gyfrannu\u2019n naturiol i ddatblygu cylchgrawn proffesiynol newydd, \u2018<em>Addysgu Mathemateg yng Nghymru<\/em>\u2019.<\/p>\n<p>Roedd adroddiad diweddar y Gr\u0175p Gorchwyl a Gorffen Mathemateg yn cynnwys argymhellion yngl\u0177n ag adnabod arfer da sydd eisoes yn bodoli a natur rhagoriaeth mewn addysgu mathemateg.<\/p>\n<p>Dylid cyflawni hyn trwy waith y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg. Yn benodol, dylid creu ac achredu rhaglenni i ddatblygu, cefnogi a gwobrwyo arweinyddiaeth mewn mathemateg fel mater o flaenoriaeth.<\/p>\n<p>Nid oes dull syml o ddatblygu rhagoriaeth mewn addysgu mathemateg. \u00a0Mae addysgu mathemateg yn digwydd mewn cyd-destunau penodol gyda myfyrwyr penodol, sy&#8217;n dod \u00e2\u2019u gwybodaeth a\u2019u credoau blaenorol eu hunain i\u2019r sefyllfa.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, er ei bod yn anodd diffinio addysgu rhagorol mewn mathemateg, pan mae addysgu rhagorol yn digwydd, mae\u2019n hawdd i\u2019w adnabod yn sgil y \u201ccynnydd dwys\u201d a wneir gan fyfyrwyr.<\/p>\n<p>Golyga cynnydd dwys fod myfyrwyr yn dysgu rhagor o fathemateg, yn dysgu mathemateg yn well ac yn teimlo\u2019n fwy hyderus am eu galluoedd mathemategol datblygol. Yn benodol, maent yn datblygu uchelgais fathemategol ac yn ymdrechu am ragoriaeth.<\/p>\n<p>Dylai hyn fod yn nod eithaf y Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Mae Dr Sofya Lyakhova yn Uwch Ddarlithydd mewn Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe; mae Dr Howard Tanner yn Ddarllenydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dr Sofya Lyakhova a Dr Howard Tanner yn ystyried datblygiad Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg&#8230; &nbsp; Mae\u2019r cyhoeddiad diweddar (3.11.16) gan yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, ynghylch creu Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Mathemateg i\u2019w groesawu gan rieni, athrawon a myfyrwyr yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod economaidd cythryblus hwn, mae\u2019n briodol iawn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39063","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39063","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39063"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39063\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39063"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39063"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39063"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}