{"id":39064,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/prifysgol-cymru-y-drindod-dewi-sant-yn-dod-ag-arweinwyr-addysgol-at-ei-gilydd-i-gefnogi-gwella-ysgolion-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"prifysgol-cymru-y-drindod-dewi-sant-yn-dod-ag-arweinwyr-addysgol-at-ei-gilydd-i-gefnogi-gwella-ysgolion-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/prifysgol-cymru-y-drindod-dewi-sant-yn-dod-ag-arweinwyr-addysgol-at-ei-gilydd-i-gefnogi-gwella-ysgolion-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dod ag arweinwyr addysgol at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae rhai o feddylwyr addysgol mwyaf blaenllaw&#8217;r byd wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru.<\/strong><\/p>\n<p>Mae Comisiwn Addysg Cymru wedi cael ei sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu hwyluso gwelliannau mewn dysgu ac addysgu.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i&#8217;r aelodau, pob un \u00e2&#8217;i record o lwyddiant eithriadol yn eu meysydd eu hunain, i roi sylwadau ar bolisi addysg; blaenoriaethau ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion; a&#8217;r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir yn llwyddo i gyflawni eu potensial.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Comisiwn yn cynnwys Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Carol Campbell, Athro Addysg OISE ym Mhrifysgol Toronto; Paul Collard, Prif Weithredwr Creadigrwydd, Diwylliant ac Addysg; Yr Athro Trevor Gale, Deon yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr Edvestors sydd wedi&#8217;i leoli yn Boston, UDA; Amy Sanders, Cyfarwyddwr Dynamix, Abertawe; Iram Siraj, Athro mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain; Mick Waters, Athro Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; David Woods, Athro Addysg ym Mhrifysgolion Warwick a Llundain; a&#8217;r Athro Jim Ryan, Deon Ysgol Addysg i Raddedigion, Prifysgol Harvard, yng Nghaergrawnt, Massachusetts.<\/p>\n<p>Bydd y Comisiwn yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn i ystyried materion o bwys sy&#8217;n wynebu&#8217;r gymuned addysg yng Nghymru ac mae&#8217;n elfen allweddol o ddatblygiad Yr Athrofa o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Bydd y Comisiwn yn gweithredu fel &#8220;cyfaill beirniadol&#8221; i Lywodraeth Cymru ac addysgwyr ar draws pob sector, gan hwyluso trafodaeth a chefnogi agenda uchelgeisiol gwella ysgolion Cymru.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Comisiwn yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd yn gynharach y mis hwn wrth i&#8217;r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer system addysg Cymru mewn araith bwysig i randdeiliaid allweddol.<\/p>\n<p>Roedd yn dilyn anerchiad tebyg ym mis Medi, pan wnaeth Ms Williams alw ar brifysgolion i gyflawni\u00a0 eu &#8220;cenhadaeth genedlaethol&#8221; drwy weithio gydag ysgolion, diwydiant a phartneriaid rhyngwladol i godi safonau.<\/p>\n<p>Siaradodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy&#8217;n gweithredu fel cadeirydd y Comisiwn, am agenda uchelgeisiol y gr\u0175p.<\/p>\n<p>Dywedodd: &#8220;Rwy&#8217;n ystyried sefydlu Comisiwn Addysg Cymru yn ddatblygiad allweddol yn niwygiad parhaus ein system addysg.<\/p>\n<p>&#8220;Mae&#8217;r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol rydym wedi ei ddwyn ynghyd yma yng Nghymru yn ein galluogi i fyfyrio&#8217;n feirniadol, mewn modd arloesol, am y datblygiadau priodol sydd eu hangen ar ein system addysg.<\/p>\n<p>&#8220;Fel cenedl, mae angen i ni gymryd perchnogaeth o&#8217;r newidiadau yma. Mae ansawdd ein system addysg a&#8217;r angen i sicrhau cyfleoedd cynhwysol i bobl ifanc yng Nghymru, yn fy marn i, yn uwch na gwleidyddiaeth pleidiau gwleidyddol.<\/p>\n<p>&#8220;Dyna\u2019r rheswm y mae gan brifysgolion r\u00f4l i&#8217;w chwarae. Rwy&#8217;n falch o&#8217;r ffaith fod gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant draddodiad hir-sefydlog yn yr ardal hon.<\/p>\n<p>&#8220;Mae angen i ni adeiladu dyfodol lle mae rhagoriaeth, cyfleoedd ac ymchwil proffesiynol o ansawdd uchel yn dod ynghyd i gyflawni dros Gymru.<\/p>\n<p>&#8220;Rwyf wrth fy modd gyda&#8217;r gefnogaeth a ddarperir gan y gr\u0175p nodedig hwn o unigolion, pob un ohonynt wedi ennill parch aruthrol am eu cyfraniadau i wella addysg drwy eu gwaith eu hunain.<\/p>\n<p>&#8220;Wrth ddod \u00e2&#8217;r unigolion allweddol hyn at ei gilydd, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dangos ei haddewid i ddarparu system o ansawdd ar gyfer Cymru.<\/p>\n<p>&#8220;Ni ddylem danbrisio pwysigrwydd strategol sefydlu Comisiwn o&#8217;r math yma lle gall ysgolheigion ac addysgwyr weithio gydag ysgolion a&#8217;r proffesiwn addysgu rhyngwladol i hyrwyddo ein harlwy nodedig.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Comisiwn yn addo defnyddio tystiolaeth gan dystion arbenigol yng Nghymru a thu hwnt gan gyflwyno cyfres o adroddiadau agored i&#8217;r gymuned addysg yn seiliedig ar eu sylwadau.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, ysgrifennydd y Comisiwn a Chyfarwyddwr yr Athrofa: &#8220;Mae&#8217;r cyfle i ddysgu gan gr\u0175p mor dalentog a llwyddiannus o addysgwyr yn amhrisiadwy.<\/p>\n<p>&#8220;Rydym yn edrych ymlaen at ddadleuon heriol sy\u2019n ysgogi\u2019r meddwl a fydd yn cael effaith ar ddarparu addysg a chyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru.&#8221;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae rhai o feddylwyr addysgol mwyaf blaenllaw&#8217;r byd wedi dod at ei gilydd i gefnogi gwella ysgolion yng Nghymru. Mae Comisiwn Addysg Cymru wedi cael ei sefydlu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu hwyluso gwelliannau mewn dysgu ac addysgu. Gofynnwyd i&#8217;r aelodau, pob un \u00e2&#8217;i record o lwyddiant eithriadol yn eu meysydd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39064","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39064","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39064"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39064\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39064"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39064"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39064"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}