{"id":39065,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/gweinidog-yn-cefnogi-cydweithio-fel-yr-allwedd-i-lwyddiant\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"gweinidog-yn-cefnogi-cydweithio-fel-yr-allwedd-i-lwyddiant","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/gweinidog-yn-cefnogi-cydweithio-fel-yr-allwedd-i-lwyddiant\/","title":{"rendered":"Gweinidog yn cefnogi cydweithio fel yr allwedd i lwyddiant"},"content":{"rendered":"<p><strong>Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i\u2019w champws yng Nghaerfyrddin i drafod y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a\u2019r sector addysg uwch.<\/strong><\/p>\n<p>Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru a\u2019r Brifysgol, trwy weithio gyda\u2019i gilydd, sicrhau\u2019r defnydd gorau posibl o adnoddau a meithrin gwell dealltwriaeth o\u2019r amodau sydd eu hangen i godi safonau.<\/p>\n<p>Yn benodol, bu Mr Davies ac uwch staff y Drindod Dewi Sant yn ystyried yr angen i ymateb yn gyflym ac effeithiol i Gynllun Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Llywodraeth Cymru a Chynllun Gweithredu\u2019r Cyfnod Sylfaen.<\/p>\n<p>Yn gysylltiedig \u00e2 hyn, fe\u2019i hystyriwyd yn hanfodol cael y blociau adeiladu perthnasol yn eu lle mor gynnar \u00e2 phosibl yn natblygiad plentyn er mwyn gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.<\/p>\n<p>Cafodd Mr Davies olwg ar waith y brifysgol sy\u2019n arwain y sector addysg blynyddoedd cynnar, a chyfarfu ag academyddion sy\u2019n arbenigo ym maes plentyndod cynnar.<\/p>\n<p>Mae\u2019r darlithwyr yn yr Ysgol Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant yn meddu ar ystod amrywiol o arbenigedd o\u2019u gyrfaoedd blaenorol, ac yn cynnwys staff sydd wedi gweithio mewn ysgolion meithrin a chynradd, perchnogion a rheolwyr meithrinfeydd, swyddogion amddiffyn plant yr heddlu, swyddogion datblygu plentyndod cynnar ac ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Hefyd, mae\u2019r darlithwyr yn cadw mewn cysylltiad agos \u00e2\u2019r sector plentyndod cynnar er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cyfle i gysylltu\u2019r hyn a ddysgant yn y Brifysgol \u00e2 materion go iawn yn y gweithle.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd ymweliad Mr Davies yn dilyn lansio Yr Athrofa, sef Athrofa Addysg y Brifysgol, yn ddiweddar ac ystyriwyd y potensial ar gyfer cydweithio pellach rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid mewn addysg uwch i ddatblygu atebion ar y cyd i flaenoriaethau cenedlaethol.<\/p>\n<p>Meddai Jane Waters, Deon Cynorthwyol Ymchwil a Throsglwyddo Gwybodaeth yn y Gyfadran Addysg a Chymunedau yn y Drindod Dewi Sant: \u00a0\u201cRoeddem wrth ein bodd i groesawu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i\u2019n campws yng Nghaerfyrddin, a dangos iddo ein gwaith ym maes hollbwysig addysg blynyddoedd cynnar.<\/p>\n<p>\u201cRydym yn rhannu yn ymrwymiad y gweinidog i gydweithio, a thrwy weithio gyda\u2019n gilydd gallwn sicrhau bod pob punt sy\u2019n cael ei gwario\u2019n cael ei gwario\u2019n dda a bod pob rhan o\u2019r system addysg yn gweithio\u2019n effeithiol gyda\u2019i gilydd er y budd mwyaf posibl.<\/p>\n<p>\u201cTrwy gydweithio, gallwn wneud yn si\u0175r ein bod ni i gyd yn gwybod beth yw rhagoriaeth ac yn cynllunio i gyrraedd y meincnod hwn yn gyson.<\/p>\n<p>\u201cMae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at chwarae rhan lawn a gweithgar yn natblygiad addysg a hyfforddiant y blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn y dyfodol, wrth i ni geisio gwireddu uchelgais Llywodraeth Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Mr Davies: \u00a0\u201cDylai sicrhau datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol iach plant ifanc fod yn brif flaenoriaeth i bob llywodraeth, sefydliad, cymuned, teulu ac unigolyn cyfrifol.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n llawn edmygedd o\u2019r gwaith mae\u2019r brifysgol wedi\u2019i gyflawni ar draws nifer o feysydd polisi allweddol &#8211; mae eu cyfraniadau\u2019n hanfodol wrth i ni fynd ati i ddatblygu a chyfoethogi addysg yng Nghymru.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, i\u2019w champws yng Nghaerfyrddin i drafod y cyfleoedd sydd ar gael drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a\u2019r sector addysg uwch. Cytunwyd y gallai Llywodraeth Cymru a\u2019r Brifysgol, trwy weithio gyda\u2019i gilydd, sicrhau\u2019r defnydd gorau posibl o adnoddau a meithrin&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39065","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39065","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39065"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39065\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39065"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39065"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39065"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}