{"id":39066,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/croesewir-adroddiad-newydd-comisiwn-addysg-cymru-gan-ysgrifennydd-y-cabinet\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"croesewir-adroddiad-newydd-comisiwn-addysg-cymru-gan-ysgrifennydd-y-cabinet","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/croesewir-adroddiad-newydd-comisiwn-addysg-cymru-gan-ysgrifennydd-y-cabinet\/","title":{"rendered":"Croesewir adroddiad newydd Comisiwn Addysg Cymru gan Ysgrifennydd Y Cabinet"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae clymblaid flaenllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella system addysg Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Yn ei adroddiad sefydlu i\u2019r sector, gwnaeth Comisiwn Addysg Cymru annog gweinidogion i ystyried y \u2018strwythurau ymarferol\u2019 sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gwella ysgolion, gan argymell datblygu \u201c fframwaith arweiniol\u201d er mwyn tanategu amcanion cenedlaethol.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Comisiwn, sy\u2019n dod \u00e2 meddylwyr addysgol at ei gilydd o bob rhan o\u2019r byd, bod meithrin gallu o fewn system addysg Cymru yn \u201canhepgor\u201d os ydym am weithredu\u2019n llwyddiannus agenda diwygio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn dilyn yn sgil cyhoeddi canlyniadau rhyngwladol \u2018Pisa\u2019, a wnaeth restru addysg yng Nghymru y gwannaf yn y D.U. am y pedwerydd gwaith yn olynol.<\/p>\n<p>Mae Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi croesawu cyfraniad y Comisiwn, gan ddweud bod dysgu sydd wedi\u2019i seilio ar arfer gorau rhyngwladol yn ganolog i waith Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Yn ei adroddiad, gwnaeth y Comisiwn ystyried \u2018Cymwys am Oes\u2019 \u2013 cynllun gwella addysg Llywodraeth Cymru ar gyfer plant rhwng tair a 19 mlwydd oed yng Nghymru, hyd at 2020.<\/p>\n<p>Gwnaeth hefyd groesawu ymrwymiad Ms Williams i ddatblygiad \u201csystem hunan-wella\u201d ond gwnaeth ofyn am sicrwydd y byddai ysgolion yn cael eu cefnogi\u2019n iawn.<\/p>\n<p>Dywedodd yr adroddiad \u201cPwysleisiwyd gan y Comisiwn byddai meithrin gallu o fewn y gweithlu yn hanfodol pe baem yn disgwyl bod athrawon yn mabwysiadu r\u00f4l fwy sylfaenol wrth ddatblygu a chyflwyno system hunan-wella go iawn.\u201d<\/p>\n<p>\u201cGwnaeth yr aelodau amau trylwyredd a chysondeb y \u2018sgaffaldio\u2019 sy\u2019n bodoli ar gyfer cynorthwyo athrawon i yrru ymlaen newid i\u2019r system addysg yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Sefydlwyd Comisiwn Addysg Cymru gan <a href=\"http:\/\/www.ydds.ac.uk\">Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant <\/a>(PCYDDS) er mwyn helpu hwyluso gwelliannau mewn addysgu a dysgu.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i aelodau, pob un ohonynt \u00e2\u2019i gofnod o lwyddiant rhagorol yn ei faes arbennig, i roi eu sylwadau ar y polisi addysg sydd eisoes yn bodoli, a chynnig awgrymiadau ar sail eu profiad a\u2019u harbenigedd rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn yn cynnwys Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru; Carol Campbell, Athro mewn Addysg OISE ym Mhrifysgol Toronto; Yr Athro Trevor Gale, Deon Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, sydd wedi ei leoli yn Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwig a Llundain; Yr Athro Jim Ryan, Deon Ysgol Addysg Prifysgol Harvard ar gyfer Graddedigion, Cambridge, Massachusetts.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn, a fydd yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn i ystyried pob cyfnod o addysg, yn llinyn allweddol o Athrofa Addysg PCYDDS, sydd newydd gael ei sefydlu.<\/p>\n<p>Yn ei adroddiad cyntaf, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, awgrymwyd gan y Comisiwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ychwanegu at ei hamcanion er gwelliant meini prawf llwyddiant penodol ar gyfer pob blaenoriaeth.<\/p>\n<p>Meddai \u201cUnwaith y cytunir ar y targedau, yna byddai strategaeth gyfathrebu glir yn sicrhau bod pawb sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r cyflwyno yn ymwybodol o\u2019r cyfeiriad teithio arfaethedig.\u201d<\/p>\n<p>\u201cAwgrymwyd y dylid anfon crynodeb gweithredol o gynllun gwella Llywodraeth Cymru at bob sefydliad sydd yng Nghymru gyda neges gan Ysgrifennydd y Cabinet.\u201d<\/p>\n<p>\u201c Disgwylir y byddai\u2019r cynlluniau mwy lleol a gafodd eu llunio gan y consortia rhanbarthol, yr awdurdodau lleol a\u2019r ysgolion eu hunain yn alinio \u00e2\u2019r weledigaeth genedlaethol gyffredinol hon.\u201d<br \/>\nCynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Comisiwn yn Stadiwm SWALEC Caerdydd, ac yno, gwnaeth Ms Williams amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer system addysg i Gymru mewn araith bwysig i\u2019r rhanddeiliaid allweddol.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Deon yr Athrofa ac ysgrifennydd y Comisiwn, byddai dysgu wrth bartneriaid ar draws y byd o fudd enfawr i Gymru.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae\u2019r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol yr ydym wedi dod i Gymru yn ein galluogi ni i adfyfyrio yn feirniadol, mewn ffordd arloesol, ar y datblygiadau a fydd yn briodol ar gyfer ein system addysg ni.\u201d<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd gyda\u2019r gefnogaeth a\u2019r cymorth a ddarperir gan y gr\u0175p hwn o unigolion enwog, pob un ohonynt, drwy ei waith ei hun, wedi ennill parch anferth am ei gyfraniad at wella addysg.\u201d<\/p>\n<p>\u201cYn ei gyfarfod sefydlu, gwnaeth y gr\u0175p nifer o arsylliadau diddorol a fydd, rwy\u2019n gobeithio, o les i Lywodraeth Cymru, wrth iddi barhau ar ei thaith ddiwygio uchelgeisiol.<\/p>\n<p>\u201cMae Ysgrifennydd Addysg y Cabinet wedi galw am \u2018gyfeillion beirniadol\u2019 i ymgysylltu \u00e2 Llywodraeth Cymru a helpu gyrru ymlaen newid cadarnhaol. Mae\u2019n bleser gan y Comisiwn ateb y galw hwnnw.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Ms Williams: \u201cMae dysgu sydd wedi\u2019i seilio ar dystiolaeth ryngwladol a\u2019r arfer gorau yn ganolog i\u2019n diwygiadau addysgol. Mae\u2019n amser cyffrous i fod yn rhan o godi safonau ac uchelgeisiau o fewn addysg yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>\u201cFelly, rwy\u2019n croesawu cyfarfod ac adroddiad cyntaf Comisiwn Addysg Cymru, sydd wedi dod ag addysgwyr enwog at ei gilydd er mwyn rhannu nifer o syniadau a chynigion diddorol. Gwnaf barhau i groesawu eu mewnbwn a\u2019u syniadau, y rhai a ddaw o gartref yn ogystal \u00e2\u2019r rhai a ddaw o dramor, wrth i ni barhau gyda\u2019n diwygiadau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Cliciwch yma:\u00a0<a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/01\/adrodiad-y-comisiwn-rhag-2016.pdf\">Adrodiad y Comisiwn<\/a><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae clymblaid flaenllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella system addysg Cymru. Yn ei adroddiad sefydlu i\u2019r sector, gwnaeth Comisiwn Addysg Cymru annog gweinidogion i ystyried y \u2018strwythurau ymarferol\u2019 sydd eu hangen ar gyfer cefnogi gwella ysgolion, gan argymell datblygu \u201c fframwaith arweiniol\u201d er mwyn tanategu amcanion cenedlaethol. Meddai\u2019r Comisiwn,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39066","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39066","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39066"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39066\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39066"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39066"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39066"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}