{"id":39067,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cyflwynwyd-ir-ysgrifennydd-addysg-ymagwedd-newydd-radical-at-addysg-athrawon\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"cyflwynwyd-ir-ysgrifennydd-addysg-ymagwedd-newydd-radical-at-addysg-athrawon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cyflwynwyd-ir-ysgrifennydd-addysg-ymagwedd-newydd-radical-at-addysg-athrawon\/","title":{"rendered":"Cyflwynwyd i\u2019r Ysgrifennydd Addysg ymagwedd newydd radical at addysg athrawon"},"content":{"rendered":"<p><strong><span lang=\"CY\">Yn ystod ei hymweliad diweddar \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyflwynwyd i\u2019r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ymagwedd newydd radical at addysg athrawon.<\/span><\/strong><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Bu\u2019r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes a\u2019r Athro Dylan Jones, cyfarwyddwr Yr Athrofa,\u00a0 yn amlinellu eu gweledigaeth uchelgeisiol i rymuso athrawon ac i gefnogi ysgolion i ddatblygu\u2019r gweithlu addysg.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Cyflwynodd yr Athro Jones dri llinyn craidd Yr Athrofa \u2013 y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol; Canolfannau Ymchwil ac Arloesi; a Chomisiwn Addysg Cymru \u2013 sy\u2019n adeiladu ar hanes balch addysg athrawon yn Ne-orllewin Cymru.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Cafodd y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol, a luniwyd ar sail parch cydradd a chyd-atebolrwydd, ei sefydlu gyda gr<\/span><span lang=\"CY\">\u0175<\/span><span lang=\"CY\">p o 120 o ysgolion ledled Cymru ac mae wedi ail-ddiffinio\u2019r modd y gellir darparu addysg gychwynnol athrawon (AGA) a dysgu proffesiynol.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Y canlyniad clir fydd datblygu cwricwlwm AGA newydd, gyda&#8217;r brifysgol ac ysgolion partner yn gyfrifol ar y cyd am lunio a darparu\u2019r holl raglenni hyfforddi.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Mae\u2019n wyriad radical oddi wrth ddulliau addysg athrawon mwy traddodiadol ac mae\u2019n dilyn cyfarwyddyd clir gan Ms <\/span><span lang=\"CY\">Williams bod angen i system AGA Cymru newid.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Meddai\u2019r Athro Jones:<\/span> <span lang=\"CY\">\u201cMae Ysgrifennydd y Cabinet wedi galw am ailwampio AGA yng Nghymru ac rydym yn cydnabod r\u00f4l bwysig prifysgolion, mewn partneriaeth ag ysgolion, o ran codi safonau.<\/span><span lang=\"EN-GB\"><br \/>\n<\/span><span lang=\"CY\">\u201cMae\u2019n hanfodol fod gan athrawon y presennol a\u2019r dyfodol y sgiliau a\u2019r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru \u2013 a bydd gwella ansawdd yr addysg a\u2019r hyfforddiant sydd ar gael yn hanfodol.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">\u201cCeir potensial aruthrol yn system addysg Cymru ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ysgogi newid cadarnhaol a grymuso ysgolion er lles yr holl ddysgwyr.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">\u201cMae\u2019r Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol wedi ymateb yn gadarnhaol i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio\u2019r cwricwlwm ac AGA, gydag ysgolion wrthi\u2019n cynllunio cwrs newydd a chyffrous ar gyfer athrawon y presennol a\u2019r dyfodol.\u201d<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Gwahoddwyd Chris Parry, pennaeth Ysgol Lewis, Pengam, Caerffili, i rannu ag Ysgrifennydd y Cabinet ei ran ef yng ngwaith Yr Athrofa.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Mae Mr Parry yn un o sefydlwyr y Bartneriaeth Dysgu Proffesiynol, sy\u2019n cynnwys ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">Meddai\u2019r Athro Hughes:<\/span> <span lang=\"CY\">\u201cRoedd yn bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac i roi trosolwg iddi o\u2019n cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">\u201cMae\u2019r brifysgol yn falch o\u2019i hanes cyfoethog mewn addysg <\/span><span lang=\"CY\">athrawon a, thrwy ein Hathrofa newydd, edrychwn ymlaen at adeiladu gwaddol newydd a chyffrous.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">\u201cRydym wedi ymrwymo\u2019n llwyr i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau &#8211; ac ystyriwn mai ein cenhadaeth genedlaethol yw defnyddio\u2019r cryfder sy\u2019n bodoli yn system addysg Cymru a\u2019r tu hwnt er budd yr holl ddysgwyr.<\/span><\/p>\n<p><span lang=\"CY\">\u201cMae pobl ifanc Cymru\u2019n haeddu\u2019r addysg orau ac mae athrawon Cymru yn haeddu\u2019r gefnogaeth orau bosibl.<\/span> <span lang=\"CY\">Dyna fydd flaenllaw yn ein meddyliau wrth inni symud ymlaen at ein pennod nesaf<\/span><span lang=\"CY\">.\u201d<\/span><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ystod ei hymweliad diweddar \u00e2 Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyflwynwyd i\u2019r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ymagwedd newydd radical at addysg athrawon. Bu\u2019r Is-Ganghellor, yr Athro Medwin Hughes a\u2019r Athro Dylan Jones, cyfarwyddwr Yr Athrofa,\u00a0 yn amlinellu eu gweledigaeth uchelgeisiol i rymuso athrawon ac i gefnogi ysgolion i ddatblygu\u2019r gweithlu addysg. Cyflwynodd yr&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39067","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39067","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39067"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39067\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39067"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39067"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39067"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}