{"id":39068,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/pwy-syn-dysgu-beth-yn-yr-awyr-agored-cymhariaeth-rhwng-cymru-a-lloegr\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"pwy-syn-dysgu-beth-yn-yr-awyr-agored-cymhariaeth-rhwng-cymru-a-lloegr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/pwy-syn-dysgu-beth-yn-yr-awyr-agored-cymhariaeth-rhwng-cymru-a-lloegr\/","title":{"rendered":"Pwy sy\u2019n dysgu beth yn yr awyr agored? Cymhariaeth rhwng Cymru a Lloegr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod athrawon yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio eu mannau awyr agored ar gyfer dysgu cwricwlwm-gysylltiedig na\u2019u cymheiriaid yn Lloegr.<\/strong><\/p>\n<p>Mae ymchwilio i amcanion proffesedig dysgu awyr agored yn ystod y blynyddoedd cynnar gan athrawon o Loegr a Chymru wedi darganfod nifer o wahaniaethau rhwng y ddwy wlad.<\/p>\n<p>Gwnaeth ddangos bod athrawon yng Nghymru yn cyfeirio\u2019n fwy sylweddol at amcanion sy\u2019n ymwneud \u00e2 llythrennedd a rhifedd ar gyfer eu darpariaeth awyr agored nag athrawon o Loegr.<\/p>\n<p>I\u2019r gwrthwyneb, gwnaeth cyfran fwy o athrawon yn Lloegr ddyfynnu deilliannau dysgu a oedd yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn anianol.<\/p>\n<p>Datblygiad corfforol oedd yr amcan darpariaeth awyr agored a gafodd ei ddyfynnu fwyaf aml yn y ddwy wlad.<\/p>\n<p>Cafodd astudiaeth o\u2019r enw \u2013 <em>Pam Mynd \u00e2 Phlant Ifanc y Tu Allan?\u00a0 Ystyriaeth Feirniadol o Amcanion Proffesedig Dysgu Awyr Agored yn ystod y Blynyddoedd Cynnar gan Athrawon o Loegr a Chymru\u00a0 <\/em>&#8211; ei hymgymryd gan Dr Jane Waters, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Dr Helen Bilton, o Brifysgol Reading.<\/p>\n<p>Tynnwyd ei chasgliadau o arolwg ar-lein a anfonwyd at 350 o ysgolion yn Lloegr ac at 353 o ysgolion ychwanegol yng Nghymru \u2013\u00a0 gwnaethant ddangos cyfradd ymateb o 184 a 79 yn y drefn honno\u2013 a chawsant eu cyfeirio at athrawon plant rhwng pedair a phum mlwydd oed sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC).<\/p>\n<p>Dywedwyd yn y papur: \u201cnad yw\u2019n peri syndod o gwbl mai datblygiad corfforol yw\u2019r amcan a gaiff ei ddyfynnu\u2019n fwyaf aml ar gyfer cynnal darpariaeth awyr agored yn y ddwy wlad, ond mae\u2019n arwyddocaol bod atebwyr o Gymru wedi cyfeirio llawer mwy, wrth drafod eu darpariaeth awyr agored, at amcanion sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 llythrennedd a rhifedd na wnaeth atebwyr o Loegr.<\/p>\n<p>\u201cCafodd y gwahaniaeth hwn ei adlewyrchu mewn ffordd debyg yn y deilliannau dysgu a ddarparwyd gan atebwyr; dim ond ychydig yn llai nag un rhan o bump o ddeilliannau dysgu Lloegr oedd yn ymwneud \u00e2 dysgu sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 llythrennedd a rhifedd, o gymharu \u00e2 bron \u00e2 bod traean o\u2019r ymatebion o Gymru.\u201d<\/p>\n<p>\u201cMae hefyd yn nodedig bod dros un rhan o bump o\u2019r athrawon o Loegr a oedd yn y sampl wedi dweud nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng dysgu plant yn yr amgylchedd dan do a\u2019r amgylchedd awyr agored, o gymharu \u00e2 dim ond bron \u00e2 bod 2% o\u2019r ymatebion o Gymru a wnaeth ddangos yr un peth.<\/p>\n<p>\u201cMae hefyd yn ddiddorol nodi, er gwaethaf y ffaith bod athrawon o Loegr a Chymru yn cyfeirio i raddau tebyg at amcanion personol, cymdeithasol ac anianol (tua un rhan o bump o\u2019r ymatebion), gwnaeth cyfran lawer mwy o athrawon o Loegr ddyfynnu deilliannau dysgu sydd \u00e2 chysylltiadau personol, cymdeithasol ac anianol (dros \u00a040%) nag athrawon o Gymru (llawer yn llai na thraean o\u2019r ymatebion).\u201d<\/p>\n<p>Gwnaeth yr adroddiad gyfeirio at adroddiadau eraill a ysgrifennwyd yn y D.U sy\u2019n ystyried dysgu awyr agored ar draws pob cyfnod oedran, er bod dargyfeiriad diweddar sydd wedi digwydd i bolisi\u2019r Llywodraeth wedi cael effaith amlwg.<\/p>\n<p>Dywedodd yr adroddiad bod \u201cnewid sylweddol wedi digwydd yn ystod y bum mlynedd diwethaf rhwng Lloegr a Chymru , gyda\u2019r ail wlad yn dangos mwy o ddiddordeb Llywodraethol yn yr amgylchedd awyr agored, a\u2019r cyntaf yn dangos llawer llai.<\/p>\n<p>\u201cMae cyfeirio at yr awyr agored wedi lleihau yn sylweddol yn fframwaith mwyaf diweddar Lloegr, ac nid oes hyd yn oed disgwyl bod rhaid darparu man awyr agored sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r ystafell ddosbarth, dim ond mynediad yn unig at yr awyr agored.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>\u201cYng Nghymru, mae\u2019r pwyslais ar ddefnyddio\u2019r amgylchedd awyr agored fel adnodd ar gyfer dysgu plant\u00a0 yn ystod y blynyddoedd cynnar, fel yr amlinellir yn nogfennaeth Cyfnod Sylfaen 2008, wedi\u2019i ddatblygu a\u2019i gefnogi yn ystod y blynyddoedd cyfamserol gan ddeunydd cyfarwyddyd dilynol.<\/p>\n<p>\u201cY mae disgwyl ar draws Cymru bod pob plentyn yn cael defnyddio\u2019r awyr agored yn rheolaidd fel rhan annatod o\u2019i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.\u201d<\/p>\n<ul>\n<li>Cyhoeddir yr astudiaeth hon yn y cyfnodolyn academaidd ar-lein <em>Social Sciences,<\/em> a gellir gweld y fersiwn gyflawn drwy fynd at <a href=\"http:\/\/www.mdpi.com\/2076-0760\/6\/1\/1\"><u>http:\/\/www.mdpi.com\/2076-0760\/6\/1\/1<\/u><\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod athrawon yng Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio eu mannau awyr agored ar gyfer dysgu cwricwlwm-gysylltiedig na\u2019u cymheiriaid yn Lloegr. Mae ymchwilio i amcanion proffesedig dysgu awyr agored yn ystod y blynyddoedd cynnar gan athrawon o Loegr a Chymru wedi darganfod nifer o wahaniaethau rhwng y ddwy wlad. Gwnaeth&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39068","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39068","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39068"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39068\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39068"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39068"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39068"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}