{"id":39069,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/athrawon-sydd-ar-allwedd-i-ddatgloi-potensial-addysg-yng-nghymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"athrawon-sydd-ar-allwedd-i-ddatgloi-potensial-addysg-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/athrawon-sydd-ar-allwedd-i-ddatgloi-potensial-addysg-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Athrawon sydd \u00e2\u2019r allwedd i ddatgloi potensial addysg yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gareth Evans yn ymateb i feirniadaeth y Prif Arolygydd o system ysgolion Cymru&#8230;<\/strong><\/p>\n<p>Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.<\/p>\n<p>Ac nid yw hynny\u2019n fawr o syndod, o gofio\u2019r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.<\/p>\n<p>Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt, does fawr o obaith i Gymru gyrraedd yr uchelfannau yr ydym ni i gyd yn anelu atynt.<\/p>\n<p>Gan mwyaf, mae athrawon yn angerddol, yn gadarn ac yn adfyfyriol a\u2019r rhinweddau hyn fydd yn eu galluogi i fwrw ymlaen yn ddygn \u00e2\u2019r system addysg newydd a chyffrous yr ydym wrthi\u2019n ei datblygu ar y cyd.<\/p>\n<p>Ond nid yw athrawon uwchlaw beirniadaeth ac yn ei <a href=\"https:\/\/www.estyn.llyw.cymru\/adroddiad-blynyddol?_ga=1.157627962.1256660373.1482339906\">adroddiad blynyddol<\/a>, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon, tynnodd Prif Arolygydd Estyn, Meilyr Rowlands, sylw at yr amrywioldeb sy\u2019n bodoli yn ysgolion Cymru.<\/p>\n<p>Meddai, \u201caddysgu yw un o\u2019r agweddau gwannaf ar y ddarpariaeth yn y rhan fwyaf o sectorau\u201d, ac roedd yn \u201cdda\u201d neu\u2019n \u201cwell\u201d mewn lleiafrif (dan 40% yn \u00f4l diffiniad Estyn) yn unig o\u2019r ysgolion uwchradd a arolygwyd y llynedd.<\/p>\n<p>Mae Mr Rowlands yn portreadu darlun pryderus, ond rwy\u2019n ei chael yn anodd credu bod ansawdd addysgu yng Nghymru wedi dirywio\u2019n fawr o fewn 12 mis.<\/p>\n<p>Yr hyn sydd wedi newid yn sylweddol, fodd bynnag, yw\u2019r gofynion ar ein hysgolion wrth i ni baratoi ar gyfer cwricwlwm newydd radical gan wyro oddi wrth yr hyn mae Cymru wedi arfer ag ef.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae yn agos at hanner miliwn o ddisgyblion yn mynychu mwy na 1,500 o ysgolion gwladol yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ni waeth faint yr ymdrechwn i sicrhau cysondeb, bydd amrywiadau o hyd \u2013 yn deillio i raddau helaeth o gyd-destun a daearyddiaeth ysgolion unigol.<\/p>\n<p>Ond nid yw hynny\u2019n golygu na allwn ddatblygu ymagwedd fwy strwythuredig a chynaliadwy at rannu arfer gorau.<\/p>\n<p>Nod diwylliant newydd o gydweithio yw meithrin gallu o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru ac mae hyn yn seiliedig ar yr ethos o system hunanwella.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Mr Rowlands, mae\u2019r dull hwn yn cael \u201cei arwain gan yr ysgol, a\u2019i gydbwyso gyda chymorth gan awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru.\u201d<\/p>\n<p>Ond mae gan brifysgolion hefyd ran arwyddocaol i\u2019w chwarae ac mae\u2019n hanfodol fod gan athrawon y presennol a\u2019r dyfodol y sgiliau a\u2019r wybodaeth angenrheidiol i ddarparu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.<\/p>\n<p>Bydd gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael, ar bob cam yn natblygiad gyrfa, yn hanfodol ac nid yw cynnal y status quo bellach yn opsiwn.<\/p>\n<p>Rydym yn byw mewn byd gwahanol iawn; mae datblygiadau technolegol wedi newid y meini prawf ac mae\u2019r sgiliau lefel uwch a fynnir gan gyflogwyr wedi newid.<\/p>\n<p>Mae beth a sut mae plant yn dysgu wedi esblygu \u2013 ond athrawon sydd yn y safle gorau o hyd i\u2019n harwain trwy\u2019r trawsnewid hwn.<\/p>\n<p>Ysgrifennodd Mr Rowlands mai arweinyddiaeth oedd y ffactor mwyaf arwyddocaol a effeithiai ar welliant ac, yn yr ysgolion mwyaf llwyddiannus, roedd datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel yn flaenoriaeth\u00a0 uchel.<\/p>\n<p>Mater a berai bryder, fodd bynnag, oedd bod arweinyddiaeth a rheolaeth yn cael eu hystyried yn \u201cdda\u201d neu\u2019n \u201cwell\u201d yn oddeutu hanner yn unig o\u2019r ysgolion a arolygwyd y llynedd.<\/p>\n<p>Mae datblygiad Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol, sydd i\u2019w groesawu er braidd yn hwyr, yn gydnabyddiaeth o\u2019r bylchau canfyddedig yn y system.<\/p>\n<p>Pan benodwyd Kirsty Williams yn Ysgrifennydd Addysg fis Mai diwethaf, roedd nifer o gynlluniau arwyddocaol ond bregus ar y gweill eisoes.<\/p>\n<p>Mae ailwampio\u2019r cwricwlwm cenedlaethol yn sylweddol, y \u2018fargen newydd\u2019 a addawyd ar gyfer y gweithlu addysg a dull newydd o hyfforddi athrawon oll wedi\u2019u datgan yn flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen.<\/p>\n<p>Ond er eu bod yn gryf o ran y darlun ehangach, i raddau roedd y manylion mewn perthynas \u00e2\u2019r tri chynllun yn brin.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen, bydd yn rhaid i Ms Williams hwyluso cydgysylltu\u2019r gwahanol agweddau.\u00ad\u00ad<\/p>\n<p>Ond er mwyn iddi allu gwneud hynny bydd angen ewyllys a chefnogaeth gyfunol y gymuned addysg ehangach.<\/p>\n<p>Rhaid i ni rymuso ysgolion i gefnu ar draddodiad a thorri cwys newydd ar gyfer addysg Cymru.<\/p>\n<p>Rhaid i athrawon, darlithwyr a\u2019r holl ddarparwyr addysg eraill roi eu rhwystrau o\u2019r neilltu a gweithio mewn partneriaeth i ddatgloi\u2019r potensial aruthrol sy\u2019n bodoli yng Nghymru.<\/p>\n<p>Ni ellir dianc rhag y ffeithiau ac mae adroddiad Mr Rowlands yn un difrifol i\u2019w ddarllen. Ond gyda\u2019n gilydd, mae gennym gyfle gwych i unioni pethau.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Mae Gareth Evans yn Gyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gareth Evans yn ymateb i feirniadaeth y Prif Arolygydd o system ysgolion Cymru&#8230; Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon. Ac nid yw hynny\u2019n fawr o syndod, o gofio\u2019r effaith arwyddocaol a pharhaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal. Mae athrawon yn weithredwyr newid a, hebddynt,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39069","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39069","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39069"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39069\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39069"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39069"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39069"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}