{"id":39070,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ceisiwch-ac-fe-gewch-pam-mae-arweinyddiaeth-ysgolion-yn-gwneud-byd-o-wahaniaeth\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"ceisiwch-ac-fe-gewch-pam-mae-arweinyddiaeth-ysgolion-yn-gwneud-byd-o-wahaniaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ceisiwch-ac-fe-gewch-pam-mae-arweinyddiaeth-ysgolion-yn-gwneud-byd-o-wahaniaeth\/","title":{"rendered":"Ceisiwch ac fe gewch &#8211; pam mae arweinyddiaeth ysgolion yn gwneud byd o wahaniaeth"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Gydag Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, mae\u2019r Athro David Woods yn ystyried buddion ehangach arweinyddiaeth systemau ar gyfer pob ysgol yng Nghymru&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>O\u2019i mynegi\u2019n syml, mae arweinyddiaeth systemau&#8217;n cyfeirio at y math o arweinyddiaeth sy\u2019n mynd y tu hwnt i\u2019r ysgol unigol i ddylanwadu\u2019n fwy eang ar addysg, cyflawniad a lles plant a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Mewn ardal neu ranbarth, bydd yr ysgolion a\u2019r arweinwyr gorau\u2019n ymestyn eu hymchwil ar draws ysgolion eraill er mwyn i\u2019r holl ysgolion wella.<\/p>\n<p>Drwy\u2019r system mae ffocws ar bartneriaethau cydweithredol, rhannu arbenigedd ac adnabod a lledaenu arfer gorau a fydd yn cael effaith fawr.<\/p>\n<p>Mae arweinwyr systemau\u2019n sylweddoli bod yr ystafell ddosbarth, ysgolion a\u2019r system yn effeithio ar ei gilydd ac maen nhw eisiau mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn mewn modd ystyrlon. \u00a0Felly, a derbyn bod y model iawn o ran gwella ysgolion ar gael yn yr ardal neu\u2019r rhanbarth, beth mae arweinyddiaeth systemau\u2019n ei wneud?<\/p>\n<p>Mae\u2019n gallu:<\/p>\n<ul>\n<li>Grymuso\u2019r arweinwyr go iawn sy\u2019n gallu achosi i newid ddigwydd;<\/li>\n<li>Dod o hyd i amser a chreu lle ar gyfer arloesi;<\/li>\n<li>Cadw\u2019r gwaith lle mae angen iddo fod &#8211; yn agos at flaen y gad;<\/li>\n<li>Cynnal ymdeimlad o ymdrech ar y cyd a hinsawdd ar gyfer gwella;<\/li>\n<li>Dylanwadu ar system addysg ar lefel ochrol a lefel fertigol.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ar ei ffurf fwyaf aeddfed, bydd arweinyddiaeth systemau\u2019n mynd y tu hwnt i benaethiaid ysgol ac uwch arweinwyr ac yn cynnwys arweinwyr eraill ac athrawon mewn ysgolion &#8211; gan dreiddio\u2019n ddyfnach ac yn ehangach.<\/p>\n<p>Weithiau byddwn ni\u2019n cyfeirio at hyn fel \u2018arweinyddiaeth systemig\u2019, lle bydd ystod o arweinwyr ac athrawon mewn ysgolion ar wahanol lefelau\u2019n rhannu cymhelliad proffesiynol cryf i gydweithio.<\/p>\n<p>Drwy roi cymorth a her i ysgolion eraill maen nhw\u2019n chwilio am fuddion i\u2019r ddwy ochr sy\u2019n arwain at hunan-welliant drwy arsylwi, gwerthuso, adfyfyrio a datblygu arfer ar y cyd, yn ogystal \u00e2 lledaenu\u2019r arfer mwyaf effeithiol.<\/p>\n<p>Bydd arweinwyr systemig yn cymryd cyfrifoldeb proffesiynol am arwain, cydlynu a chyflwyno gwelliannau cynaliadwy mewn ysgolion.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae nifer o broblemau ynghlwm \u00e2 chael arweinyddiaeth systemau i weithio\u2019n effeithiol. \u00a0Mae\u2019r mater cyntaf yn ymwneud \u00e2\u2019r modd y mae system addysg yn dynodi arweinwyr systemau ac yn rhoi\u2019r awdurdod a&#8217;r dilysrwydd iddyn nhw i weithio gydag ysgolion eraill.<\/p>\n<p>Y modd arferol o wneud hyn yw bod awdurdod ardal yn cydnabod safonau uchel ysgol o&#8217;r fath a fydd hefyd wedi derbyn y radd uchaf mewn arolygiad ac yn meddu ar hanes o gefnogi ysgolion eraill.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae\u2019n bosibl y bydd arweinwyr ysgol mewn ysgolion sy\u2019n ceisio gwella yn adnabod buddion partneriaeth ag ysgol gryfach ac yn ceisio trefnu hyn eu hunain, ond ni fydd hyn yn gweithio&#8217;n gyson ar draws ardal.<\/p>\n<p>Ail fater yw parodrwydd neu amharodrwydd\u00a0 ysgolion sy\u2019n perfformio\u2019n dda iawn i arfer arweinyddiaeth systemau.<\/p>\n<p>Mewn unrhyw system o atebolrwydd lle mae llawer iawn yn y fantol, y temtasiwn i arweinwyr ysgol yw rhoi\u2019u holl egni i mewn i redeg eu hysgol eu hunain, heb boeni am lwyddiant plant a phobl ifanc mewn ysgolion eraill.<\/p>\n<p>Dan rai amgylchiadau, lle mae ysgolion yn cystadlu \u00e2\u2019i gilydd yn uniongyrchol, mae\u2019n anodd iddyn nhw weithio gyda\u2019i gilydd er lles pawb.<\/p>\n<p>Hyd yn oed os ymdrinnir \u00e2\u2019r materion blaenorol yn llwyddiannus, sut dylai ardaloedd ac ysgolion fynd ati i sefydlu systemau trefniadol i weithio gyda\u2019i gilydd a rhannu gwybodaeth \u00e2\u2019r rheini sydd angen dysgu drwy gymorth oddi wrth un ysgol i\u2019r llall?<\/p>\n<p>Yn y sefyllfa hon mae angen rhywfaint o hyfforddi, yn enwedig yng nghyswllt meithrin perthynas, hyfforddiant a mentora. \u00a0Yn olaf, pwy sy\u2019n gosod ysgolion gyda\u2019i gilydd, a derbyn na fydd y rhan fwyaf o ysgolion yn gwneud hynny drostyn nhw\u2019u hunain?<\/p>\n<p>Ni ellir cymryd yn ganiataol y bydd ysgol sy\u2019n llwyddo mewn un cyd-destun yn llwyddo wrth weithio gydag ysgolion sydd angen gwella mewn cyd-destun gwahanol.<\/p>\n<p>Mae angen i hyn gael ei wneud gyda gofal gan awdurdod trefniadol sydd yn denu hyder yr ysgolion dan sylw, gan gymryd yr holl ffactorau cyd-destunol i ystyriaeth.<\/p>\n<p>Mae gwerthusiadau o systemau datblygedig yn adrodd bod arweinyddiaeth systemau\u2019n gweithio orau pan fydd wedi\u2019i seilio ar bwrpas moesol nerthol a chynhwysol y mae arweinwyr ysgol yn ei rannu ac yn ei weithredu, gan gredu bod yr holl blant a phobl ifanc mewn ardal neu ranbarth lleol yn haeddu\u2019r addysg orau bosibl.<\/p>\n<p>Fe allen ni alw hyn yn <span style=\"text-decoration: underline;\">gyfalaf moesol<\/span>. O\u2019r man cychwyn hwn, mae modd cynyddu <span style=\"text-decoration: underline;\">cyfalaf gwybodaeth<\/span>, sef dynodi\u2019r ysgolion a\u2019r unigolion hynny sydd \u00e2\u2019r arfer gorau o ran gwella ysgolion a dal gafael ar hyn yn effeithiol.<\/p>\n<p>Weithiau, wrth gwrs, mae\u2019r arfer gorau mewn agwedd benodol ar addysg i\u2019w ganfod mewn ysgolion llai llwyddiannus ac mae angen cydnabod hyn.<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig hefyd ddatblygu <span style=\"text-decoration: underline;\">cyfalaf cymdeithasol<\/span>, gan helpu ysgolion a staff i ddatblygu sgiliau sy\u2019n sicrhau perthnasau gweithio da &#8211; a hefyd <span style=\"text-decoration: underline;\">cyfalaf trefniadol<\/span>, gan sefydlu systemau trefniadol i rannu gwybodaeth ac arfer, a galluogi\u2019r rheini sydd angen dysgu i wneud hyn yn effeithlon.<\/p>\n<p>Mae gwerthusiadau hefyd yn pwyntio at fonws lle mae\u2019r ddwy ochr ar eu hennill, gan fod yr ysgolion sy\u2019n darparu&#8217;r cymorth yn rhoi min ar eu harweinyddiaeth hwythau a\u2019u methodoleg gwella ysgolion, yn ogystal \u00e2&#8217;r ysgolion sy\u2019n derbyn y cymorth.<\/p>\n<p>Gall hyn arwain at \u2018gynnydd dwbl\u2019 o ran deilliannau perfformiad, ac felly gall wella addysg yn yr ardal gyfan.<\/p>\n<p>Er mwyn gwneud i arweinyddiaeth systemau weithio\u2019n dda iawn, mae angen i bob arweinydd ysgol fod \u00e2\u2019r bwriad o greu ysgolion sy\u2019n edrych tuag allan, gan weithio gyda\u2019i gilydd mewn hinsawdd o gymorth a her rhwng y naill a\u2019r llall.<\/p>\n<p>Dylen nhw ddatblygu perthnasau effeithiol \u00e2&#8217;u cydweithwyr proffesiynol wedi\u2019u seilio ar ymddiriedaeth a gonestrwydd, gan hyrwyddo arfer gorau ac ymdrechu i gael tegwch a gwell canlyniadau i\u2019r holl blant a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Dylai arweinwyr systemau fodelu dulliau arloesol o ran gwella, arwain a llywodraethu ysgolion sydd wedi\u2019u seilio ar arfer rhagorol ac ymchwil ar sail tystiolaeth. \u00a0Dylen nhw geisio ysbrydoli a dylanwadu ar eraill, o fewn a thu hwnt i\u2019w hysgolion eu hunain, er mwyn i\u2019r system addysg gyfan allu gael ei thrawsnewid.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae\u2019r Athro David Woods yn Gadeirydd Strategaeth Arweinyddiaeth Llundain ac yn aelod o <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/comisiwn-addysg-cymru\/professor-david-woods-cbe\/\">Gomisiwn Addysg Cymru<\/a><\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gydag Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol newydd yn cael ei datblygu ar hyn o bryd, mae\u2019r Athro David Woods yn ystyried buddion ehangach arweinyddiaeth systemau ar gyfer pob ysgol yng Nghymru&#8230; &nbsp; O\u2019i mynegi\u2019n syml, mae arweinyddiaeth systemau&#8217;n cyfeirio at y math o arweinyddiaeth sy\u2019n mynd y tu hwnt i\u2019r ysgol unigol i ddylanwadu\u2019n fwy eang&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39070","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39070","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39070"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39070\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39070"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39070"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39070"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}