{"id":39071,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/arweinyddiaeth-testun-trafodaeth-comisiwn-addysg-cymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"arweinyddiaeth-testun-trafodaeth-comisiwn-addysg-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/arweinyddiaeth-testun-trafodaeth-comisiwn-addysg-cymru\/","title":{"rendered":"Arweinyddiaeth \u2013 testun trafodaeth Comisiwn Addysg Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae cyfuniad blanllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella arweinyddiaeth addysg yng Nghymru.<\/strong><\/p>\n<p>Gwnaeth ail gyfarfod <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/comisiwn-addysg-cymru\/\">Comisiwn Addysg Cymru<\/a> ystyried yr effaith enfawr sydd gan arweinyddiaeth ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar yr hyn y mae rhai o systemau addysg y byd sy\u2019n perfformio orau wedi ei wneud er mwyn cynorthwyo arweinwyr ysgolion.<\/p>\n<p>Daw hyn yn sgil ymrwymiad yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i gryfhau arweinyddiaeth ysgolion drwy sefydlu <a href=\"http:\/\/gov.wales\/newsroom\/educationandskills\/2016\/new-national-academy-for-educational-leadership-announced\/?skip=1&amp;lang=cy\">Academi Genedlaethol<\/a> newydd a wnaiff sicrhau bod pob arweinydd sydd yn y system addysg yng Nghymru yn gallu cymryd mantais ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel.<\/p>\n<p>Gwnaeth y Comisiwn, sy\u2019n dod \u00e2 meddylwyr addysgol at ei gilydd o bob rhan o\u2019r byd, ymateb i agenda arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno nifer o sylwadau ar arfer gorau o bob rhan o\u2019r byd a wnaeth ysgogi\u2019r meddwl.<\/p>\n<p>Ystyriodd strategaethau arweinyddiaeth llwyddiannus Canada, Unol Daleithiau America a\u2019r Alban, a chafodd gipolwg unigryw ar sut yr ysgogwyd prifathrawon yn ystod y rhaglen glodfawr \u2018London Challenge\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn, a fydd yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn i ystyried pob cyfnod o addysg, yn llinyn allweddol yn Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd newydd gael ei sefydlu.<\/p>\n<p>Pwrpas deublyg y gr\u0175p yw cynorthwyo i arwain gwaith yr Athrofa a\u2019i <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/partneriaeth-dysgu-proffesiynol\/\">Phartneriaeth Dysgu Proffesiynol<\/a>, sy\u2019n cynnwys ysgolion a staff y brifysgol, yn ogystal \u00e2 chyfrannu yn weithredol at y drafodaeth addysg ehangach yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr yr Athrofa ac Ysgrifennydd y Comisiwn, byddai dysgu gan bartneriaid ar draws y byd o fudd enfawr i Gymru.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae\u2019r cyfoeth o arbenigedd rhyngwladol yr ydym wedi dod ag ef i Gymru yn ein galluogi ni i adfyfyrio yn feirniadol, mewn ffordd arloesol, ar y datblygiadau a fydd yn briodol ar gyfer ein system addysg ni.<\/p>\n<p>\u201cRwy wrth fy modd gyda\u2019r gefnogaeth a\u2019r cymorth a ddarperir gan y gr\u0175p hwn o unigolion blaenllaw, pob un ohonynt, drwy ei waith ei hun, wedi ennill parch anferth am ei gyfraniad at wella addysg.<\/p>\n<p>\u201cWrth symud ymlaen, mae\u2019n allweddol bwysig ein bod ni\u2019n dysgu oddi wrth ein cydweithwyr rhyngwladol ac yn perthnasu\u2019r wybodaeth honno \u00e2 chyd-destun Cymru er budd ein hysgolion, colegau, ac yn wir, ein prifysgolion.&#8221;<\/p>\n<p>Yn ystod y trafodaethau, clywodd \u00a0y Comisiwn dystiolaeth gan Gillian Hamilton, Prif Weithredwr y Scottish College for Educational Leadership, a sefydlwyd yn 2014 er mwyn cynorthwyo dysgu proffesiynol athrawon yngl\u0177n ag arweinyddiaeth ar bob lefel ar draws holl ysgolion yr Alban.<\/p>\n<p>Gofynnwyd wedyn i aelodau\u2019r Comisiwn, pob un ohonynt \u00e2\u2019i hanes o lwyddiant rhagorol yn ei faes arbennig, roi eu sylwadau ar y polisi addysg sydd eisoes yn bodoli, a chynnig awgrymiadau ar sail eu profiad a\u2019u harbenigedd rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn yn cynnwys <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/comisiwn-addysg-cymru\/dr-carol-campbell\/\">Dr Carol Campbell<\/a> Athro Cysylltiol mewn Arweinyddiaeth a Newid Addysgol ym Mhrifysgol Toronto; Yr Athro Trevor Gale, Pennaeth yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, sydd wedi ei leoli yn Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg\u00a0 ym Mhrifysgol Wolverhampton; a David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwig a Llundain.<\/p>\n<p>Meddai Dr Campbell: \u201cMae\u2019n bleser mawr gennyf fod yn aelod o Gomisiwn Addysg Cymru, lle rydym yn dod at ein gilydd i drafod anghenion disgyblion ar draws Cymru gyfan yn ogystal \u00e2\u2019r hyn y gallwn ddysgu ar sail enghreifftiau rhyngwladol.\u201d<\/p>\n<p>Cynhaliwyd ail gyfarfod y Comisiwn yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe a chaiff adroddiad dilynol, ynghyd ag argymhellion ar gyfer Cymru a Llywodraeth Cymru, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/canolfannau-ymchwil-ac-arloesi\/gwybodaeth-ddefnyddiol\/\">eu cyhoeddi ar wefan yr Athrofa<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyfuniad blanllaw o arbenigwyr wedi rhoi eu cynigion ar sut orau i wella arweinyddiaeth addysg yng Nghymru. Gwnaeth ail gyfarfod Comisiwn Addysg Cymru ystyried yr effaith enfawr sydd gan arweinyddiaeth ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar yr hyn y mae rhai o systemau addysg y byd sy\u2019n perfformio orau wedi ei wneud er mwyn&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39071","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39071","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39071"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39071\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39071"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39071"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39071"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}