{"id":39073,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/hud-anifeiliaid-mae-darllen-gyda-chwn-o-fudd-i-ddisgyblion\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"hud-anifeiliaid-mae-darllen-gyda-chwn-o-fudd-i-ddisgyblion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/hud-anifeiliaid-mae-darllen-gyda-chwn-o-fudd-i-ddisgyblion\/","title":{"rendered":"Hud anifeiliaid? Mae darllen gyda ch\u0175n o fudd i ddisgyblion"},"content":{"rendered":"<p><strong>Nhw fu ffrind gorau dyn ers miloedd o flynyddoedd.<\/strong><\/p>\n<p>Ond dim ond yn awr mae pobl yn dechrau sylweddoli manteision dysgu gyda ch\u0175n yn ystafelloedd dosbarth Cymru.<\/p>\n<p>Mae ysgolion yn ne-orllewin Cymru wedi agor eu drysau i sawl ci bach mewn ymgais i godi hyder a hunan-barch disgyblion.<\/p>\n<p>Nod y cynllun arloesol <a href=\"http:\/\/burnsbyyourside.org\/\"><em>&#8216;Burns By Your Side&#8217;<\/em><\/a> yw helpu plant mewn amrywiaeth o leoliadau i ddatblygu eu sgiliau darllen a chyfathrebu.<\/p>\n<p>Soniodd un pennaeth am y &#8220;llonyddu&#8221; ar ddisgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r cynllun yn darparu cyfle i ddisgyblion ddarllen \u2013 fesul wythnos neu bob pythefnos \u2013 gwirfoddolwyr a\u2019u c\u0175n, fel arfer mewn sesiynau sy\u2019n rhedeg yn ystod tymor ysgol.<\/p>\n<p>Fel arfer, bydd gwirfoddolwr yn treulio tua 15 munud gyda phlentyn fesul un ac yn cadw cofnod byr o bob sesiwn.<\/p>\n<p>Hyd yn hyn, mae\u2019r cynllun wedi cynnwys nifer fach o ysgolion (cynradd, uwchradd ac arbennig) a lleoliadau \u2013 megis llyfrgelloedd a meithrinfeydd \u2013 ar draws rhanbarth de-orllewin Cymru.<\/p>\n<p>Mae astudiaeth gychwynnol i archwilio effaith dod \u00e2 ch\u0175n i ystafelloedd dosbarth, ac a hwyluswyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi datgelu rhai canlyniadau addawol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r holl ysgolion a&#8217;r holl blant dan sylw wedi rhoi adroddiad cadarnhaol ar y fenter ac mae athrawon yn nodi bod disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol i bresenoldeb y c\u0175n, yn edrych ymlaen at sesiynau ac yn awyddus i gymryd rhan.<\/p>\n<p>Meddai Helen Lewis, Arweinydd y Rhaglen TAR Cynradd a chydlynydd <em>Burns By Your Side <\/em>Y Drindod Dewi Sant: &#8220;mae\u2019r ci yn wrand\u00e4wr anfeirniadol, gall ei bresenoldeb dawelu darllenwyr amharod a phryderus a\u2019u helpu i ymlacio .<\/p>\n<p>&#8220;Wrth i drinwyr weithredu i gefnogi&#8217;r broses ddarllen, gall darllen i gi gynorthwyo plant i wneud synnwyr o destun a\u2019u hannog i fynegi ymatebion personol mewn amgylchedd diogel.<\/p>\n<p>&#8220;Nid yw c\u0175n yn barnu, yn edrych ar eu wats os yw&#8217;n cymryd llawer o amser i ddarllen \u00a0tudalen, nac yn ocheneidio mewn rhwystredigaeth os bydd camgymeriadau \u2013 maen nhw\u2019n gwmni parod ac mae eu tawelwch yn dweud cyfrolau. &#8221;<\/p>\n<p>Yn dilyn llwyddiant astudiaeth beilot darllen gyda ch\u0175n, bellach mae <em>Burns By Your Side<\/em> ar waith gyda&#8217;r Drindod Dewi Sant a nifer fwy o ysgolion er mwyn cyflawni corff mwy trylwyr o ymchwil.<\/p>\n<p>Mae\u2019r trefnwyr yn cynnal adolygiad dulliau cymysg, systematig ar effaith darllen \u00e2 ch\u0175n ar fetawybyddiaeth, agweddau at ddysgu a lefelau darllen mewn ystafelloedd dosbarth ledled de Cymru.<\/p>\n<p>Ym mhob un o&#8217;r 12 ysgol sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan yn y prosiect, nodwyd rhwng pedwar a chwech o blant a oedd yn cael trafferth gwneud cynnydd gyda\u2019u darllen ac maen nhw\u2019n cael sesiwn wythnosol gyda&#8217;r ci gwadd a&#8217;r triniwr.<\/p>\n<p>Ar ddechrau&#8217;r prosiect cafodd y plant asesiadau gwaelodlin, megis profion darllen a safonwyd a mesurau eraill o agwedd tuag at ddysgu.<\/p>\n<p>Cafodd gr\u0175p tebyg o blant nad oedd yn y gr\u0175p ymyrraeth yr un profion i ddarparu mesur prawf.<\/p>\n<p>Ar ddiwedd yr ymyriad, a fydd wedi para am flwyddyn academaidd, caiff y profion eu hailadrodd a dadansoddir y canlyniadau.<\/p>\n<ul>\n<li>\u00a0<i>I gael rhagor o wybodaeth am y gwerthuso, anfonwch e-bost at: h.e.Lewis@uwtsd.ac.uk . Caiff ysgolion yn ne Cymru sydd \u00e2 diddordeb mewn cymryd rhan yn y fenter darllen gyda ch\u0175n anfon e-bost at Carol Lincoln drwy: carol@burnspet.co.uk. Bydd adolygiad manylach o&#8217;r prosiect yn ymddangos yn rhifyn haf 2017 o gylchgrawn yr UKLA &#8216; English 4-11&#8217;. <\/i><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nhw fu ffrind gorau dyn ers miloedd o flynyddoedd. Ond dim ond yn awr mae pobl yn dechrau sylweddoli manteision dysgu gyda ch\u0175n yn ystafelloedd dosbarth Cymru. Mae ysgolion yn ne-orllewin Cymru wedi agor eu drysau i sawl ci bach mewn ymgais i godi hyder a hunan-barch disgyblion. Nod y cynllun arloesol &#8216;Burns By Your&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39073","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39073","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39073"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39073\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39073"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39073"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39073"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}