{"id":39074,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/gorau-po-leiaf-wrth-ddiwygior-cwricwlwm\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"gorau-po-leiaf-wrth-ddiwygior-cwricwlwm","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/gorau-po-leiaf-wrth-ddiwygior-cwricwlwm\/","title":{"rendered":"Gorau po leiaf wrth ddiwygio\u2019r cwricwlwm"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wrth i Gymru ddatblygu ei chwricwlwm cenedlaethol newydd, mae Gareth Evans yn ein rhybuddio bod angen lle ar athrawon i arloesi, ac ni ddylem geisio i orlwytho\u2019r sawl sy\u2019n gyfrifol am addysgu cenedlaethau\u2019r dyfodol&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon.<\/p>\n<p>Ac nid yw hyn yn syndod, o ystyried yr effaith barhaol, arwyddocaol a gaiff athrawon ar y disgyblion yn eu gofal.<\/p>\n<p>Athrawon yw asiantau newid a, hebddynt, nid oes fawr o bosibilrwydd y bydd Cymru\u2019n cyrraedd yr uchelfannau y mae pob un ohonom yn anelu atynt.<\/p>\n<p>Felly, braf oedd clywed yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn defnyddio\u2019i phrif araith yn y Gynhadledd Addysg Genedlaethol ddiweddar i gadarnhau ei hedmygedd o\u2019r proffesiwn addysg.<\/p>\n<p>Ni allai ei datganiad mai \u201caddysgu yw\u2019r swydd bwysicaf yn y byd\u201d fod wedi bod yn gliriach ac rydym yn croesawu\u2019r gydnabyddiaeth ar gyfer y r\u00f4l gymdeithasol hynod arwyddocaol sy\u2019n cael ei chyflawni gan athrawon.<\/p>\n<p>Roedd cyflwyno\u2019r Arolwg Cenedlaethol o\u2019r Gweithlu Addysg am y tro cyntaf &#8211; dan law <a href=\"http:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/\">Cyngor y Gweithlu Addysg<\/a> &#8211; yn ychwanegiad cadarnhaol at dirlun addysgol Cymru ac mae\u2019n arwydd o\u2019r diwylliant o gydweithredu y mae Ms Williams wedi mynd i drafferth fawr i\u2019w feithrin ers ei phenodi fis Mai diwethaf.<\/p>\n<p>Diddorol fydd gweld beth a ddaw o ganlyniadau\u2019r arolwg.<\/p>\n<p>Yn sicr, bydd elfennau o\u2019r arolwg yn anodd eu darllen; nid yw pethau\u2019n hawdd i athrawon ac mae cyllid yn brin.<\/p>\n<p>Ond, gellir dadlau na fu erioed amser gwell i fod yn gweithio yn system addysg Cymru.<\/p>\n<p>Mae gweinidogion wedi disgrifio cynlluniau\u2019r Athro Graham Donaldson i ryddhau\u2019r proffesiwn a rhoi mwy o ryddid i ysgolion ateb anghenion unigol eu disgyblion eu hunain fel \u201ccam hanesyddol ymlaen yn hanes addysg Cymru\u201d.<\/p>\n<p>Bydd yr hyn y mae plant yn ei ddysgu yn ystafelloedd dosbarth Cymru, a sut, yn newid yn ddramatig dros y blynyddoedd nesaf ac mae ysgolion, mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chonsortia rhanbarthol, wedi cael penrhyddid i\u2019n harwain drwy\u2019r trawsnewid hwnnw.<\/p>\n<p>Nid yw diwygio fel hyn yn digwydd yn aml iawn; mae ehangder enfawr iddo a\u2019i gwmpas yn bellgyrhaeddol.<\/p>\n<p>Ond mae trawsnewid cwricwlwm cenedlaethol Cymru yn gyffrous a brawychus fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Gyda\u2019n gilydd, mae gennym gyfle gwych i ddylunio, datblygu a gweithredu ein maes llafur pwrpasol ein hun er budd ein dysgwyr ein hunain yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae llawer wedi newid ers cyflwyno\u2019r cwricwlwm cenedlaethol presennol mewn ysgolion gwladol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ym 1988.<\/p>\n<p>Cysyniad oedd y we fyd-eang bryd hynny ac nid oedd llawer o athrawon heddiw wedi\u2019u geni hyd yn oed.<\/p>\n<p>Rydym yn byw mewn oes wahanol iawn; mae globaleiddio yn nodwedd amlwg, mae datblygiadau technolegol wedi symud pyst y g\u00f4l ac mae cyflogwyr yn mynnu sgiliau lefel uwch, newydd.<\/p>\n<p>Ond mae\u2019r Athro Donaldson ei hun wedi rhybuddio \u201cnad cwestiwn o bwyso botwm\u201d yw diwygio cwricwlwm cenedlaethol Cymru ac y gallai sawl blwyddyn fynd heibio cyn i\u2019r trefniadau newydd wreiddio\u2019n iawn.<\/p>\n<p>Gyda hynny mewn golwg, rhaid i ni barchu\u2019r broses embryonig sy\u2019n mynd rhagddi a gochel rhag cyfyngu\u2019n hunain i derfynau amser caeth.<\/p>\n<p>Er mwyn i\u2019n cwricwlwm newydd wir gael ei adeiladu ar y cyd, rhaid i ni roi\u2019r gallu iddo wneud hynny\u2019n organig a bod yn rhydd rhag ymyrraeth wleidyddol (mae\u2019r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer diwygio\u2019r cwricwlwm hyd yn hyn wedi bod yn galonogol).<\/p>\n<p>Ni fydd troi gweledigaeth yr Athro Donaldson yn gwricwlwm diriaethol yn hawdd a bydd sawl tro trwstan ar y daith, ond rydym ran o\u2019r ffordd yn unig drwy\u2019r broses ddiwygio ac mae llawer mwy o waith i\u2019w wneud.<\/p>\n<p>Efallai ei bod hi\u2019n gyfle da yn awr i fyfyrio ar ein taith hyd yma a faint yn rhagor sydd i fynd.<\/p>\n<p>Wrth symud ymlaen, rhaid i ni ochel rhag llethu\u2019r bobl sydd \u00e2\u2019r gwaith o addysgu\u2019r genhedlaeth nesaf.<\/p>\n<p>Ni ddylai trawsnewid radical ac arloesol yr Athro Donaldson gael ei ystyried yn ddrws agored ar gyfer asiantaethau allanol sy\u2019n crochlefain am gwricwlwm wedi\u2019i greu\u2019n bwrpasol i\u2019w dymuniadau a\u2019u hanghenion nhw.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l cronfa ddata hollgynhwysol <a href=\"https:\/\/www.qiw.wales\/?lang=cy\">Cymwysterau yng Nghymru<\/a>, mae cymaint ag 8,723 o gymwysterau nad ydynt yn gymwysterau gradd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n hynny\u2019n ymddangos yn nifer chwithig i genedl sy\u2019n awyddus i leihau a symleiddio\u2019r hyn y mae\u2019n ei gynnig i blant.<\/p>\n<p>Siaradodd y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews, am \u201cy paradocs dewis\u201d yn ei araith yn 2011 o dan y teitl craff \u2018Mae Addysgu\u2019n Gwneud Gwahaniaeth\u2019.<\/p>\n<p>Gan ddyfynnu\u2019r seicolegydd o America, Barry Schwartz, meddai: \u201cPan nad oes dewis gan bobl, mae bywyd yn annioddefol bron. Wrth i nifer y dewisiadau gynyddu&#8230; mae\u2019r annibyniaeth, y rheolaeth a\u2019r rhyddid a ddaw yn sgil yr amrywiaeth hwn yn rymus a chadarnhaol.<\/p>\n<p>\u201cOnd wrth i nifer y dewisiadau barhau i dyfu, mae\u2019r agweddau negyddol ar gael lliaws o opsiynau yn dechrau ymddangos&#8230; Ar yr adeg hon, nid yw dewis yn rhyddhau mwyach, mae\u2019n llesg\u00e1u.\u201d<\/p>\n<p>Ychwanegodd Mr Andrews: \u201cOs ydym am fod yn onest \u00e2 ni\u2019n hunain, mae\u2019n rhaid i ni gydnabod bod rhaid i ni gyfyngu ar ddewis er mwyn i ni sicrhau bod pynciau strategol yn cael eu haddysgu a bod sgiliau allweddol yn cael eu dysgu.\u201d<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n wynebu\u2019r un cyfyng-gyngor yn awr.<\/p>\n<p>Mae tuedd gan gymdeithas i ychwanegu mwy a mwy at y cwricwlwm a disgwyl i athrawon ysgwyddo\u2019r baich.<\/p>\n<p>Canlyniad hyn yw pair o elfennau sy\u2019n gorlifo \u2013 yn ddi-reolaeth yn aml \u2013 yn debyg i\u2019r hyn a bortreadir yn nrama Shakespeare, Macbeth.<\/p>\n<p>Y galw yn ddiweddar am wersi gorfodol ar berthnasoedd oedd y diweddaraf mewn rhestr hir o gynhwysion i\u2019w hychwanegu at y cawl \u2013 ac yn fuan iawn, bydd rhywbeth arall yn cael ei daflu i\u2019r cymysgedd.<\/p>\n<p>Y gwir yw, mae athrawon eisoes yn treulio gormod o amser ac egni\u2019n poeni am gwricwlwm astrus, gorlawn, a dylem anelu at symleiddio, nid drysu pethau ymhellach.<br \/>\nNid wyf yn amau nad yw amrywiaeth yn bwysig \u2013 fel y mae\u2019r ychwanegiadau niferus posibl sy\u2019n cael eu hystyried.<\/p>\n<p>Ond os ydym o ddifrif ynghylch unioni\u2019r anghydbwysedd yn sgiliau\u2019r genedl \u2013 y mae Estyn a dangosyddion perfformiad eraill yn ei amlygu mor rheolaidd \u2013 rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn rhoi gormod ar ein pl\u00e2t.<\/p>\n<p>Wedi\u2019r cyfan, dim ond hyn a hyn o amser sydd gan athrawon gyda disgyblion a dichon nad bwriad yr Athro Donaldson oedd rhoi mwy fyth o faich gwaith papur a pharatoi ar ysgolion.<\/p>\n<p>Cynildeb sydd orau yn aml a rhaid ceisio cydbwysedd ymarferol.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw gorlwytho yn unigryw i Gymru o bell ffordd, a gwnaed y pwynt hwn gan Brif Arolygydd newydd Ofsted, Amanda Spielman, mewn cyfweliad diweddar.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cRydych chi\u2019n treulio ychydig amser mewn addysg ac yn dod i arfer \u00e2 phobl yn dweud \u2018mae\u2019n rhaid bod hwn yn y cwricwlwm cenedlaethol\u2019 ac rydych yn sylwi bod y cyfan yn dod at ei gilydd i greu rhyw bum cwricwlwm yn gyfan gwbl.\u201d<\/p>\n<p>Rhaid i ni fod yn ofalus nad yw\u2019r cwricwlwm y bwriadwyd iddo fod yn gwricwlwm eang, cytbwys a chyfoethog yn arwain at rywbeth gorlawn ac anhylaw.<\/p>\n<p>Yng ngwir ysbryd Dyfodol Llwyddiannus, rhaid rhoi amser i athrawon feddwl, myfyrio, datrys problemau ac arleosi \u2013 a gall hynny ond ddigwydd os yw\u2019r cwricwlwm yn rhoi\u2019r cyfle gofynnol hwnnw.<\/p>\n<p>Ni all fod \u2018yn bopeth i bawb\u2019.<\/p>\n<p>Yn ei lythyr diweddar at Ms Williams, dywedodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ei fod yn ystyried mai cynllunio a datblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru fyddai \u201cyn un o&#8217;r prif bethau sydd yn rhaid eu gwneud yn gywir yn ystod y Pumed Cynulliad\u201d.<\/p>\n<p>Mae\u2019n anodd anghytuno, er, mae pob un ohonom yn gyfrifol am ei weithredu\u2019n llwyddiannus.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i Gymru ddatblygu ei chwricwlwm cenedlaethol newydd, mae Gareth Evans yn ein rhybuddio bod angen lle ar athrawon i arloesi, ac ni ddylem geisio i orlwytho\u2019r sawl sy\u2019n gyfrifol am addysgu cenedlaethau\u2019r dyfodol&#8230; &nbsp; Dywedir yn aml na all ansawdd system addysg ragori ar ansawdd ei hathrawon. Ac nid yw hyn yn syndod, o&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39074","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39074","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39074"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39074\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39074"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39074"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39074"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}