{"id":39075,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/dysgu-gwersi-o-ddigwyddiad-addysg-ir-pedair-gwlad\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"dysgu-gwersi-o-ddigwyddiad-addysg-ir-pedair-gwlad","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/dysgu-gwersi-o-ddigwyddiad-addysg-ir-pedair-gwlad\/","title":{"rendered":"Dysgu gwersi o ddigwyddiad addysg i\u2019r pedair gwlad"},"content":{"rendered":"<p><strong>Daethpwyd ag addysgwyr o bob un o\u2019r gwledydd cartref at ei gilydd i rannu arbenigedd a chymharu\u2019r heriau maen nhw\u2019n eu hwynebu.<\/strong><\/p>\n<p>Treuliodd athrawon, darlithwyr ac academyddion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon benwythnos gwaith yng Nghaeredin er mwyn archwilio dau fater allweddol.<\/p>\n<p>Testun y mater cyntaf oedd a ddylai fod rhyw gytundeb ar draws y Deyrnas Gyfunol ynghylch dibenion cyffredinol systemau ysgolion.<\/p>\n<p>Gan adeiladu ar hynny, yr ail fater oedd ystyried yr arferion ysgol gwahanol yn y pedair gwlad a\u2019r modd maen nhw\u2019n effeithio ar gymunedau ysgolion ac ar gyfleoedd eu disgyblion i gael deilliannau llwyddiannus.<\/p>\n<p>Yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/\">yr Athrofa<\/a>, a fu\u2019n cynrychioli Cymru yn y digwyddiad ynghyd \u00e2 chydweithwyr o ysgolion, ac achubodd ar y cyfle i rannu syniadau a dysgu gan bobl eraill yn eiddgar.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cDigwyddiad prin yw dod ag addysgwyr o bob un o\u2019r gwledydd cartref at ei gilydd mewn un ystafell &#8211; ond mae\u2019r buddion yn aruthrol.<\/p>\n<p>\u201cAchlysur i ysbrydoli oedd digwyddiad y pedair gwlad, gan roi cyfle i&#8217;r rhanddeiliaid, pob un \u00e2\u2019i brofiad a\u2019i arbenigedd ei hun, rannu&#8217;r hyn roedden nhw\u2019n ei wneud mewn fforwm agored a gonest.<\/p>\n<p>\u201cNid yw llawer o\u2019r heriau sy\u2019n wynebu addysgwyr yn unigryw i ardaloedd penodol o\u2019r Deyrnas Gyfunol a thrwy ddod at ein gilydd fel un, cawn ni gyfle prin i adeiladu consensws ynghylch i ble y dylem ni, fel cenedl gyfunol, fod yn mynd.\u201d<\/p>\n<p>Ac yntau\u2019n gyn-Brif Arolygydd Addysg yn yr Alban ac yn bensaer y diwygiadau cyfredol i\u2019r cwricwlwm yng Nghymru, roedd yr Athro Graham Donaldson yn un o oddeutu 25 oedd yn bresennol yng Ngwesty Norton House.<\/p>\n<p>Roedd Kenny Pieper o\u2019r Alban, athro Saesneg mewn ysgol uwchradd, wedi adfyfyrio ar ddigwyddiad y penwythnos mewn <a href=\"https:\/\/justtryingtobebetter.wordpress.com\/2017\/03\/06\/4countries-post-brexit\/\">blog sy\u2019n codi\u2019r ysbryd<\/a>.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cWrth i ni ddechrau, wedi\u2019r cwynion cychwynnol ynghylch ein systemau addysg ein hunain, yr hyn oedd yn drawiadol oedd bod y balchder a\u2019r llawenydd roeddem ni\u2019n eu teimlo yngl\u0177n \u00e2\u2019r swydd rydym ni\u2019n ei gwneud bob dydd yn ein cymunedau\u2019n goleuo pob sgwrs.<\/p>\n<p>\u201cFe ddechreuon ni yn ein gwledydd ein hunain, yn datblygu them\u00e2u i\u2019w trafod ac yn cydnabod meysydd i\u2019w datblygu, ac wrth i ni symud i grwpiau cymysg, bywiogodd yr ystafell drwyddi.<\/p>\n<p>\u201cBuom ni\u2019n holi ac yn stilio, yn egluro ac yn enghreifftio. \u00a0Roedd dadlau difrifol a llond gwlad o chwerthin.\u201d<\/p>\n<p>Nododd yr Athro Jones fod cydweithwyr yn ystyried addysgu\u2019n rhywbeth amgenach na throsglwyddo gwybodaeth.<\/p>\n<p>Ychwanegodd: \u00a0\u201cNid technegwyr mohonom ni, ond trawsnewidwyr. Mewn byd lle mae awtomeiddio\u2019n bygwth dileu rolau y mae pobl yn eu cyflawni, a lle mae apiau addysgol yn cael eu hystyried yn ddulliau effeithiol o ddysgu ieithoedd, rhaid i ni ddathlu cymhlethdod addysgu a\u2019r r\u00f4l y mae\u2019n ei chwarae mewn datblygu unigolion.<\/p>\n<p>\u201cMae pedwar diben ein cwricwlwm newydd ni yn ymgorffori hyn mor dda.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Daethpwyd ag addysgwyr o bob un o\u2019r gwledydd cartref at ei gilydd i rannu arbenigedd a chymharu\u2019r heriau maen nhw\u2019n eu hwynebu. Treuliodd athrawon, darlithwyr ac academyddion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon benwythnos gwaith yng Nghaeredin er mwyn archwilio dau fater allweddol. Testun y mater cyntaf oedd a ddylai fod rhyw gytundeb&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39075","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39075","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39075"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39075\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39075"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39075"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39075"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}