{"id":39076,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu-testun-cynhadledd-ieithoedd\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu-testun-cynhadledd-ieithoedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu-testun-cynhadledd-ieithoedd\/","title":{"rendered":"Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: testun cynhadledd ieithoedd"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae arbenigwyr iaith o Gymru a thramor yn dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin fis nesaf i drafod manteision amlieithrwydd.<\/strong><\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/\">Athrofa<\/a> Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd ar y thema \u2018<a href=\"https:\/\/twitter.com\/DyniaethauCCC\/status\/838864395509837824\">Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu<\/a>\u2019 ar y 6ed a 7fed o Ebrill.<\/p>\n<p>Gan ystyried Dyfodol Llwyddiannus a\u2019r cynlluniau i weddnewid y cwricwlwm cenedlaethol, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar un o chwe Maes Dysgu a Phrofiad yr Athro Graham Donladson, ac ymhlith y them\u00e2u a drafodir bydd agweddau at iaith, addysgeg ddwy ac amlieithog, asesu iaith a rhagor.<\/p>\n<p>Bydd nifer o siaradwyr gwadd arbennig yn cymryd rhan gan gynnwys Inma Mu\u00f1oa o Wlad y Basg a fydd yn esbonio sut mae mabwysiadu\u2019r dull CLIL (dull sy\u2019n cyfuno iaith a phwnc) wedi datblygu cenhedlaeth newydd o ddisgyblion tair-ieithog; byddwn hefyd yn croesawu\u2019r Athro Piet Van De Craen o Brifysgol Vrije University, Brwsel, a fydd yn amlygu manteision gwybyddol dwyieithrwydd.<\/p>\n<p>Bydd cyfranwyr o Gymru\u2019n trafod dulliau datblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm newydd, manteision cryfhau\u2019r cysylltiadau rhwng Cymraeg, Saesneg a ITM mewn ysgolion, ac yn ystyried sut y gall modelau sy\u2019n asesu cynnydd hyrwyddo agwedd \u2018awn amdani\u2019 at ddysgu iaith.<\/p>\n<p>Bydd y gohebydd nodedig Ashok Ahir, o gwmni cyfathrebu creadigol a dwyieithog Mela Media, yn annerch y cynadleddwyr yn ystod swper y gynhadledd, nos Iau, Ebrill 6.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Mererid Hopwood o staff Yr Athrofa: \u201cTrwy osod \u2018ieithoedd\u2019 yn y lluosog ochr yn ochr \u00e2 llythrennedd a chyfathrebu, mae adroddiad Donaldson yn ein gwahodd ni i ystyried y maes ar orwel eang.<\/p>\n<p>\u201cAr sail ei hamrywiaeth, mae\u2019r gynhadledd hon yn cydnabod bod iaith yn llawer mwy na \u2018sgil\u2019 neu \u2018restr geirfa\u2019, a bydd, gobeithio, yn tynnu sylw at sut y gall dysgu iaith fod yn gatalydd i sicrhau y bydd ein disgyblion ni\u2019n tyfu i fod yn ddinasyddion hyderus a meddylgar yng Nghymru a\u2019r byd.\u201d<\/p>\n<p>Anelir y gynhadledd at bawb sy\u2019n ymddiddori mewn iaith, yn addysgwyr, athrawon, arholwyr, gwneuthurwyr polisi a myfyrwyr. Noddir y gynhadledd gan Y <a href=\"http:\/\/www.colegcymraeg.ac.uk\/cy\/\">Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/a>.<\/p>\n<p>Mae\u2019n cael ei chynnal mewn cydweithrediad \u00e2 Chymdeithas Addysg Ewrop Y Rhanbarthau (CAER), ac mae cadeirydd y gr\u0175p, Dr Hywel Glyn Lewis, yn ddarlithydd yn YDDS.<\/p>\n<p>Meddai Rhian Jones, Swyddog Datblygu\u2019r Celfyddydau a\u2019r Dyniaethau: \u201cMae\u2019r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch iawn o allu cefnogi\u2019r gynhadledd hon, gan ei bod yn dathlu cyfraniad pwysig ymarferwyr ac addysgwyr Cymraeg eu hiaith i faes dysgu ac addysgu ieithoedd.<\/p>\n<p>\u201cEr ei sefydlu yn 2011, mae\u2019r Coleg wedi cefnogi nifer fawr o gynadleddau a digwyddiadau gan ddod \u00e2 myfyrwyr, academyddion ac arbenigwyr ynghyd dros ystod eang o bynciau er mwyn rhannu syniadau a chyfoethogi profiadau.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r gweithgareddau hyn yn cefnogi gweledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy\u2019n ystyried bod gan bob myfyriwr a myfyrwraig yr hawl i gael addysg gyfrwng-Cymraeg o\u2019r radd flaenaf\u201d.<\/p>\n<p>Pris ymuno \u00e2\u2019r gynhadledd yw \u00a320 y dydd; \u00a325 ar gyfer swper y gynhadledd; neu \u00a360 am y deuddydd a\u2019r swper. Mae pris gostyngol i fyfyrwyr.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>I gofrestru, cysylltwch os gwelwch yn dda \u00e2 Christine Rees: c.rees@pcydds.ac.uk; 01267 676914 neu 01267 676694.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae arbenigwyr iaith o Gymru a thramor yn dod at ei gilydd yng Nghaerfyrddin fis nesaf i drafod manteision amlieithrwydd. Mae Athrofa Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal cynhadledd ar y thema \u2018Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu\u2019 ar y 6ed a 7fed o Ebrill. Gan ystyried Dyfodol Llwyddiannus a\u2019r cynlluniau i weddnewid y cwricwlwm&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39076","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39076","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39076"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39076\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39076"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39076"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39076"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}