{"id":39077,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/a-wel-a-gred-sut-mae-technolegau-newydd-yn-agor-ein-llygaid-ir-byd\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"a-wel-a-gred-sut-mae-technolegau-newydd-yn-agor-ein-llygaid-ir-byd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/a-wel-a-gred-sut-mae-technolegau-newydd-yn-agor-ein-llygaid-ir-byd\/","title":{"rendered":"A w\u00eal a gred &#8211; sut mae technolegau newydd yn agor ein llygaid i\u2019r byd"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Yma mae\u2019r tiwtor iaith Si\u00e2n Brooks yn mynd \u00e2 ni ar daith ddarganfod gan ddefnyddio rhithrealiti&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae gweld llun o D\u0175r Eiffel dipyn yn wahanol i sefyll gyferbyn T\u0175r Eiffel ei hun.<\/p>\n<p>Pan fyddwch chi ym Mharis ar drip ysgol, mae\u2019r pleser pur o weld disgyblion yn edrych i fyny ar y t\u0175r o\u2019u blaen gan werthfawrogi maint y darn eiconig hwn o bensaern\u00efaeth yn foment wych i athro Ffrangeg \u2013 daw\u2019r pwnc yn fyw iddynt.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw\u2019r profiad hwn ar gael yn aml i bob disgybl ac mae\u2019r broses asesu risg, sy\u2019n rhan hanfodol o drefnu trip, yn peri i nifer o athrawon gefnu ar y syniad.<\/p>\n<p>Trwy gydol fy ngyrfa fel athrawes rydw i wedi bod yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd o ail-greu\u2019r profiad o daith dramor o fewn y dosbarth Ieithoedd Tramor Modern, yn amrywio o drefnu cyfeillion gohebol yn nyddiau cynnar fy ngyrfa i ddefnyddio Skype yn fwy diweddar.<\/p>\n<p>Ond ar hap ar Twitter y darganf\u00fbm yr ap, Google Expeditions.<\/p>\n<p>Gofynnwyd i mi gyfrannu at Ddiwrnod Digidol Ieithoedd Tramor Modern ar ran ERW ar apiau arloesol ar gyfer addysgu ieithoedd tramor modern, ac roeddwn i am sicrhau fy mod yn cyflwyno&#8217;r tueddiadau a\u2019r dulliau diweddaraf o ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth ieithoedd tramor modern.<\/p>\n<p>Mae Twitter (a\u2019r #mfltwitterati) yn hanfodol i athrawon ieithoedd tramor modern sy\u2019n chwilio am addysgeg arloesol a dyma lle des i o hyd gyntaf i\u2019r syniad o ddefnyddio rhithrealiti yn y dosbarth ieithoedd tramor modern.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n llawn chwilfrydedd: a fyddai pensetiau rhithrealiti, felly, yn ail-greu taith dramor ac yn rhoi blas i&#8217;r disgyblion o Baris?<\/p>\n<p>Gyda\u2019r cwestiwn hwn mewn golwg, ac i baratoi ar gyfer y Diwrnod Digidol, gwisgodd myfyrwyr TAR Uwchradd Ieithoedd Tramor Modern bensetiau Google Cardboard i roi prawf ar Google Expeditions.<\/p>\n<p>Trwy\u2019r ap Google Expeditions ar ddyfais llechen, daw\u2019r athro\u2019n \u2018dywysydd\u2019 a gall arwain disgyblion o amgylch ystod eang o alldeithiau 360\u2070 a 3D.<\/p>\n<p>Mae\u2019r disgyblion yn cymryd rhan yn y daith trwy ffonau clyfar a roddir yn y syllwyr Google Cardboard. Mae angen rhoi\u2019r pensetiau cardbord, sydd wedi\u2019u torri\u2019n barod, at ei gilydd ac yna rhoddir ff\u00f4n clyfar yng nghefn y syllwr, a\u2019i sicrhau\u2019n ddiogel yn ei le.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ap yn rhannu\u2019r sgrin yn ddau fel bod delwedd ar gyfer pob llygad. Pan fyddwch yn edrych trwy lensys y syllwr, gallwch weld y delweddau ar y ff\u00f4n clyfar.<\/p>\n<p>Mae\u2019n teimlo braidd yn anesmwyth i ddechrau, fel sbectol 3D sinema, ond yr hyn sy\u2019n ei wneud mor ddiddorol yw\u2019r rhyddid i symud o gwmpas (darperir strap) i ddarganfod y byd.<\/p>\n<p>Yn ein sesiwn yn y brifysgol, rhoddwyd y r\u00f4l o fod yn \u2018dywysydd\u2019 y daith i Justine Le Maire, un o\u2019r myfyrwyr TAR Ieithoedd Tramor Modern.<\/p>\n<p>Defnyddiodd nodiadau\u2019r tywysydd ar yr ap yn gelfydd \u00a0iawn a\u2019n harwain yn rhithwir o amgylch Dinas y Goleuadau.<\/p>\n<p>Eglurodd y broses fel hyn: \u201cFel tywysydd, fe wnes i fwynhau rhannu golygfeydd o Baris gyda\u2019r disgyblion a gweld cymaint y cipiwyd eu\u00a0 diddordeb gan y realiti mae\u2019r ap yn ei gynnig. Mae mor hawdd i\u2019w ddefnyddio ac yn cynnig cymaint o bosibiliadau.\u201d<\/p>\n<p>Disgrifiodd Maria Luggeri, myfyrwraig TAR, ei phrofiad fel \u2018teithiwr\u2019: \u201cFel disgybl yn gwisgo\u2019r penset, roeddwn i\u2019n teimlo fel pe bawn i ym Mharis. Roedd yn wych i edrych o gwmpas a gweld pethau fel pe bawn i yno.<\/p>\n<p>\u201cFe wnes i ymgolli\u2019n llwyr yn y profiad, a oedd yn llawn pethau i\u2019w disgrifio a\u2019u hegluro i\u2019r bobl o\u2019m cwmpas nad oedd yn gallu gweld yr hyn a welwn i.\u201d<\/p>\n<p>A minnau bellach yn teimlo\u2019n hyderus i gyflwyno\u2019r ap hwn yn y Diwrnod Digidol, fe wnes i gynnwys arddangosiad ac yn sicr cefais adborth cadarnhaol tu hwnt gan athrawon a allai weld y potensial.<\/p>\n<p>Hyd yn oed heb y pensetiau, roedd y delweddau 360\u2070 ar ddyfais llechen yn gyffrous i\u2019w gweld. Mae hyn yn ddefnyddiol nid yn unig i athrawon ieithoedd tramor modern, mae hefyd yn berthnasol i nifer o bynciau eraill a gall helpu gwneud cysyniadau haniaethol iawn yn real.<\/p>\n<p>Gellir mynd \u00e2 disgyblion ar deithiau i wahanol leoliadau, o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf i\u2019r Barriff Mawr; o deithiau i orielau celf, i deithiau yn y corff dynol hyd yn oed.<\/p>\n<p>Gallai hyd yn oed helpu disgyblion ar y sbectrwm awtistig i \u2018ymarfer\u2019 taith ymlaen llaw. Byddwn yn argymell yr ap hwn i\u2019r holl fyfyrwyr TAR roi cynnig arno gan ei fod yn ffordd effeithiol o ddefnyddio technoleg i gyfoethogi dysgu.<\/p>\n<p>Fel un a fu\u2019n gwylio\u2019r daith dywysedig o Baris yn fy ystafell addysgu TAR, y peth mwyaf diddorol i\u2019w nodi oedd y modd y gwnaeth y myfyrwyr a oedd yn gwisgo\u2019r pensetiau edrych i fyny yn yr un modd i amgyffred maint T\u0175r Eiffel, yn union fel\u00a0 pe baent yn ddisgyblion yn sefyll ar y palmant y tu allan.<\/p>\n<p>Roedd yn foment gyffrous i ddod \u00e2 Pharis i mewn i\u2019r ystafell ddosbarth. Rwy\u2019n awyddus i roi\u2019r daith i Baris mewn cynllun gwers i weld sut y bydd yn gweithio, ond mae gen i ddiddordeb hefyd i weld os gellid defnyddio\u2019r cyd-destunau cyffrous y mae\u2019r ap yn eu cynnig yn yr ystafell ddosbarth ieithoedd tramor modern: a allai athrawon ieithoedd tramor modern ddefnyddio\u2019r daith \u2018Underwater Caribbean\u2019 i addysgu lliwiau, er enghraifft?<\/p>\n<p>Er na fydd dim byth yn gallu cymryd lle\u2019r cyffro o deithio i Ffrainc, mae\u2019n hawdd gweld pam mai rhithrealiti yw un o\u2019r tueddiadau EdTech mwyaf yn 2017: gall athrawon rannu profiadau ysgogol a diwylliannol sy\u2019n hollol gynhwysol ac ymdrochol, ac a allai fod yn drawsffurfiol, heb adael yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Mae Si\u00e2n Brooks yn diwtor TAR Ieithoedd Tramor Modern ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yma mae\u2019r tiwtor iaith Si\u00e2n Brooks yn mynd \u00e2 ni ar daith ddarganfod gan ddefnyddio rhithrealiti&#8230; &nbsp; Mae gweld llun o D\u0175r Eiffel dipyn yn wahanol i sefyll gyferbyn T\u0175r Eiffel ei hun. Pan fyddwch chi ym Mharis ar drip ysgol, mae\u2019r pleser pur o weld disgyblion yn edrych i fyny ar y t\u0175r o\u2019u&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39077","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39077","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39077"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39077\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39077"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39077"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39077"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}