{"id":39078,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/prosiect-cerddoriaeth-teirieithog-yn-taror-nodau-cywir\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"prosiect-cerddoriaeth-teirieithog-yn-taror-nodau-cywir","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/prosiect-cerddoriaeth-teirieithog-yn-taror-nodau-cywir\/","title":{"rendered":"Prosiect cerddoriaeth teirieithog yn taro\u2019r nodau cywir"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae prosiect peilot sy\u2019n defnyddio cerddoriaeth i annog plant i ddysgu iaith yn cael ei gyflwyno ar draws ysgolion cynradd yn ne a gorllewin Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019r prosiect cerddoriaeth teirieithog, Cerdd Iaith, yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cwymp yn y niferoedd sy\u2019n dysgu ieithoedd yng Nghymru.<\/p>\n<p>O dan arweiniad <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a>, Cerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, British Council Cymru ac ERW (Addysg trwy Weithio Rhanbarthol), mae cerddorion o\u2019r gerddorfa\u2019n gweithio ar y cyd ag arbenigwyr iaith sy\u2019n gweithio gydag athrawon mewn ysgolion ar draws Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion er mwyn datblygu dulliau creadigol o ddysgu Cymraeg, Sbaeneg a Saesneg.<\/p>\n<p>Ystyria\u2019r prosiect, a ariennir gan Sefydliad Paul Hamlyn, sut y gall elfennau cerddorol iaith\u00a0 \u2013 megis rhythm, ailadrodd ac odl \u2013 helpu gyda\u2019r dysgu.<\/p>\n<p>Mae gweithdai\u2019n annog disgyblion i wrando ar synau iaith er mwyn gwella\u2019r broses o ddatblygu a deall geirfa newydd.<\/p>\n<p>Nododd yr adroddiad Language Trends Wales (2016), i <a href=\"https:\/\/wales.britishcouncil.org\/\">British Council Cymru<\/a>, a\u2019r adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (2015), gan yr Athro Graham Donaldson i Lywodraeth Cymru, fod dysgu ieithoedd yn cael anawsterau yng Nghymru.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Pennaeth Addysg yn British Council Wales, Chris Lewis: \u201cBu\u2019r niferoedd sy\u2019n dewis astudio ieithoedd modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru\u2019n crebachu\u2019n sylweddol ers dros ddegawd.<\/p>\n<p>\u201cLlynedd gwnaeth ein hadroddiad Language Trends Wales, sef yr ail arolwg cenedlaethol ar dueddiadau addysgu ieithoedd modern yng Nghymru, ganfod bod ysgolion yn ei chael hi\u2019n anodd cynyddu nifer y disgyblion a oedd yn cofrestru ar gyfer TGAU mewn ieithoedd modern, a\u2019r niferoedd isaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.<\/p>\n<p>\u201cYn rhan o\u2019r strategaeth i atal y cwymp hwn, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i blant ddechrau dysgu ieithoedd yn gynt a nod y prosiect hwn yw cefnogi\u2019r uchelgais hon trwy weithio\u2019n uniongyrchol gydag athrawon i ddatblygu dulliau newydd a chyffrous sy\u2019n seiliedig ar y celfyddydau, er mwyn dysgu ac addysgu ieithoedd mewn lleoliad cynradd.\u201d<\/p>\n<p>Yn ogystal, anela Cerdd Iaith at ddatblygu a chryfhau&#8217;r berthynas rhwng Cymru a Phatagonia, yn dilyn y dathliadau 150 mlynedd.<\/p>\n<p>Ar y cyd \u00e2 datblygu sgiliau iaith, mae\u2019r disgyblion yn dysgu trwy gerddoriaeth am hanes y wladfa Gymreig ym Mhatagonia.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ddau dymor dysgu cyntaf wedi ystyried datblygu dulliau addysgu newydd, gan ddefnyddio megis caneuon teirieithog a ddefnyddiwyd gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.<\/p>\n<p>Bydd y trydydd tymor yn helpu athrawon i archwilio sut y gellir rhoi\u2019r dulliau newydd hyn ar waith.<\/p>\n<p>Meddai Odette Nicholas, dirprwy bennaeth yn Ysgol Gynradd Porth Tywyn, yn Sir G\u00e2r: \u201cMae Cerdd Iaith yn gyfle gwefreiddiol i weithio mewn cydweithrediad ag athrawon a phartneriaid creadigol i gymell a datblygu dysgwyr adfyfyriol, dychmygus.\u201d<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Mererid Hopwood o\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa<\/a> ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: \u201cBu\u2019n gyfle ardderchog i archwilio gydag athrawon ysgolion cynradd sut mae disgyblion yn ymateb i synau geiriau.<\/p>\n<p>\u201cYmddengys fod y dull yn datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd gwrando\u2019n ddwfn a\u2019r angen i greu&#8217;r amgylchedd cywir ar gyfer annog pobl i gymryd risgiau wrth i ni ddysgu ieithoedd newydd.\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae prosiect peilot sy\u2019n defnyddio cerddoriaeth i annog plant i ddysgu iaith yn cael ei gyflwyno ar draws ysgolion cynradd yn ne a gorllewin Cymru. Mae\u2019r prosiect cerddoriaeth teirieithog, Cerdd Iaith, yn ceisio mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cwymp yn y niferoedd sy\u2019n dysgu ieithoedd yng Nghymru. O dan arweiniad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39078","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39078","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39078"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39078\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39078"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39078"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39078"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}