{"id":39080,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/y-gymraeg-mewn-addysg-a-bywyd\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"y-gymraeg-mewn-addysg-a-bywyd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/y-gymraeg-mewn-addysg-a-bywyd\/","title":{"rendered":"Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Gyda\u2019r paratoadau ar gyfer cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf Yr Athrofa yn cyrraedd penllanw, \u2018Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu\u2019, mae Mererid Hopwood yn codi clawr adroddiad a gyhoeddwyd 90 mlynedd yn \u00f4l: \u2018Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd\u2019&#8230;<\/em><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\">1927<\/span><\/p>\n<p>Mae\u2019n flwyddyn arwyddocaol. Dyma flwyddyn sefydlu\u2019r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr John Reith, a blwyddyn yr alwad ff\u00f4n gyntaf o Efrog Newydd i Lundain.<\/p>\n<p>Dyma flwyddyn agor yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a\u2019r flwyddyn y pleidleisiodd y Blaid Lafur dros genedlaetholi\u2019r diwydiant glo. Ac roedd digon o angen cynnau t\u00e2n, oherwydd dyma\u2019r flwyddyn y daeth dydd Nadolig \u00e2 storm eira i guddio Caerdydd a thalpiau o Dde Cymru.<\/p>\n<p>Ond hon hefyd oedd y flwyddyn pan aeth llyfryn o wasg yr HMSO yn Llundain ar werth am swllt a chwech dan y\u00a0teitl: Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd.<\/p>\n<p>Hwn oedd adroddiad y pwyllgor\u00a0adranol (sic)\u00a0a benodwyd gan\u00a0lywydd y bwrdd addysg i chwilio i safle yr iaith Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru ac i gynghori sut oreu i&#8217;w hyrwyddo.<\/p>\n<p>Y cyfryw lywydd oedd Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Eustace Percy AS ac roedd aelodau\u2019r pwyllgor yn cynnwys pedwar dyn ar ddeg ac un fenyw.<\/p>\n<p>Mae\u2019n werth nodi eu henwau:<\/p>\n<p>Y Gwir Barchedig Esgob Tyddewi, D.D. (Cadeirydd);<\/p>\n<p>Yr Anrhydeddus W. N Bruce, C.B., Ll.D;<\/p>\n<p>Mr E. T. Davies, M.A;<\/p>\n<p>Mr William Edwards, M.A., Litt.D;<\/p>\n<p>Miss Ellen Evans, M.A;<\/p>\n<p>Yr Athro W. J. Gruffydd, M.A;<\/p>\n<p>Y Parch. Ganon Maurice Jones, D.D;<\/p>\n<p>Syr Stanley Leathes, K.C.B;<\/p>\n<p>Y Parch. Thomas Rees, M.A., Ph.D;<\/p>\n<p>Mr W. O. Roberts;<\/p>\n<p>Mr D. Lleufer Thomas, M.A.,Ll.D;<\/p>\n<p>Mr Philip Thomas;<\/p>\n<p>Mr. R. T. Vaughan, Y.H;<\/p>\n<p>Yr Henadur W. C. Watkins, Y.H;<\/p>\n<p>Mr G. Prys Williams Arolygydd Ysgolion;<\/p>\n<p>A\u2019r ysgrifennydd oedd Mr. P. A. Lewis.<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\">Y Problemau a\u2019r Modd i\u2019w Datrys<\/span><\/p>\n<p>Rhennir yr adroddiad yn dair, o\u2019r \u2018Rhagymadrodd, Hanesyddol a Chyffredinol\u2019, heibio i \u2018Y Sefyllfa Heddiw\u2019 ac ymlaen at \u2018Y Problemau a\u2019r Modd i\u2019w Datrys\u2019.<\/p>\n<p>Does ond angen edrych ar yr is-benawdau wedyn i gael blas ar gwmpawd eang yr astudiaeth. Yn yr adran gyntaf ceir golwg ar \u2018Griffith Jones a\u2019i Ysgolion Teithiol\u2019, \u2018Y Diwygiad Methodistaidd\u2019, \u2018Y Wladwriaeth ac Addysg\u2019, \u2018Y Mudiad Cenedlaethol yn Hanner Olaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg\u2019, \u2018Yr Eisteddfod a\u2019r Iaith Gymraeg\u2019 cyn rhoi adran gyfan i\u2019r Ddrama gan edrych ar y \u2018Miraglau a\u2019r Anterliwitiau\u2019 hyd at \u2018Dyletswydd y Genhedlaeth Bresennol\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ail adran wedyn yn edrych ar faterion am ystadegau, fel cyfartaledd \u2018Y Bobl a Sieryd Gymraeg\u2019 a \u2018Nifer y rhai sy\u2019n siarad Cymraeg ar gyfer pob milltir ysgw\u00e2r\u2019; ystyrir hefyd \u2018Polisi a Rheolau\u2019r Bwrdd Addysg\u2019, \u2018Lle\u2019r Gymraeg yn y Gwaith o Hyfforddi Athrawon\u2019,\u00a0mater \u2018Athrawon yn Symud i Loegr\u2019, y Gymraeg yn \u2018Y Brifysgol\u2019, \u00a0\u2018Llyfrau Addysg\u2019, yn yr \u2018Eglwys a\u2019r Ysgol Sul\u2019, heb anghofio am y Gymraeg \u2018Deddfwriaeth a Llysoedd Barn\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r drydedd ran, sef y rhan sy\u2019n amcanu esbonio beth yw\u2019r broblem a sut i\u2019w datrys, yn agor gyda darn sy\u2019n edrych ar sut y mae\u2019r genedl wedi \u2018cadw ei hunaniaeth yn y gorffennol er gwaethaf dylanwadau estron\u2019, cyn symud ymlaen i edrych ar bethau fel\u00a0 yr \u2018Ysgolion Elfennol\u2019, y \u2018Ffordd o\u2019r Ysgol Elfennol i\u2019r Ysgol Ganol\u2019, \u2018Dylanwad yr Arholiadau\u2019, y \u2018Method\u2019,\u00a0 y \u2018Brifysgol\u2019, \u2018Llyfrgelloedd\u2019, \u2018Cymdeithasau\u2019, \u2018Cerddoriaeth\u2019, \u2018Amaethyddiaeth\u2019 a \u2018Masnach\u2019.<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\">Lle\u2019r Gymraeg yn y Gwaith o Hyfforddi Athrawon<\/span><\/p>\n<p><em>&#8220;O mynnir hyrwyddo astudiaeth o\u2019r Gymraeg yn yr ysgolion, rhaid wrth gyflenwad digonol o athrawon a gafodd eu hyffordi\u2019n briodol i ddysgu\u2019r iaith\u2026&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Gyda\u2019r gosodiad plwmp a phlaen hwn, mae\u2019r adroddiad yn mynd rhagddo i geisio canfod beth yw\u2019r drefn o ran dysgu\u2019r Gymraeg yn y chwech o golegau hyfforddi a oedd yng Nghymru bryd hynny.<\/p>\n<p>O Goleg yr Eglwys i\u2019r Normal ym Mangor, o\u2019r Barri i Gaerfyrddin, o Gaerlleon i Abertawe gwelir mai amrywiol yw\u2019r ddarpariaeth.<\/p>\n<p>Nodir ei bod hi, oddi ar 1921, yn bosib dewis y Gymraeg fel pwnc arbenigol yn y papur \u2018Egwyddorion Hyfforddi\u2019 lle byddai\u2019n rhaid i\u2019r darpar-athrawon ddangos prawf o astudiaeth fanwl o\u2019r ffordd i ddysgu\u2019r Gymraeg i blant.<\/p>\n<p>Yna, ceir cyfeiriad at wellaint a ddaeth i rym yn 1926 sef caniatau (sylwer \u2013 \u2018caniatau\u2019!) i\u2019r Colegau Hyfforddi \u2018ddarparu cwrs ychwanegol mewn Addysg Ddwyieithog, er rhoddi i\u2019r myfyrwyr gyfarwyddyd sut i ddysgu Iaith a Llenyddaeith Gymraeg (1) mewn ardaloedd Cymreig, (2) mewn ardaloedd Seisnig, (3) mewn ardaloedd dwyieithog.\u2019<\/p>\n<p>Ar drothwy cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf yr Athrofa, a ninnau\u2019n edrych ymlaen at groesawu i Gaerfyrddin arbenigwyr ym maes Iaith mewn Addysg, a chael cyfle i drin a thrafod asesu, addysgeg, amlieithrwydd ac agweddau at iaith, mae\u2019n werth weithiau bwrw golwg yn \u00f4l.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Mererid Hopwood yn aelod o staff Yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant. Dros yr wythnosau nesaf bydd Mererid yn edrych yn agosach ar yr adroddiad hwn, ynghyd \u00e2 chyfres o lythyrau Dan Isaac Davies \u2018Tair Miliwn o Gymry Dwy-Ieithawg Mewn Can Mlynedd\u2019 (1885)<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gyda\u2019r paratoadau ar gyfer cynhadledd Ymchwil Addysg gyntaf Yr Athrofa yn cyrraedd penllanw, \u2018Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu\u2019, mae Mererid Hopwood yn codi clawr adroddiad a gyhoeddwyd 90 mlynedd yn \u00f4l: \u2018Y Gymraeg Mewn Addysg a Bywyd\u2019&#8230; &nbsp; 1927 Mae\u2019n flwyddyn arwyddocaol. Dyma flwyddyn sefydlu\u2019r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Syr John Reith,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39080","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39080","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39080"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39080\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39080"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39080"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}