{"id":39081,"date":"2021-02-26T16:22:58","date_gmt":"2021-02-26T16:22:58","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/arolwg-or-gweithlu-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-fywyd-mewn-ysgolion\/"},"modified":"2021-02-26T16:22:58","modified_gmt":"2021-02-26T16:22:58","slug":"arolwg-or-gweithlu-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-fywyd-mewn-ysgolion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/arolwg-or-gweithlu-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-fywyd-mewn-ysgolion\/","title":{"rendered":"Arolwg o\u2019r gweithlu yn taflu goleuni newydd ar fywyd mewn ysgolion"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae canlyniadau\u2019r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o\u2019r Gweithlu Addysg wedi\u2019u cyhoeddi ac, yn \u00f4l Gareth Evans, ni ellir eu hanwybyddu&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Yn erbyn cefnlen o gyllidebau\u2019n crebachu, pryderon am atebolrwydd a ffrwd gyson o straeon negyddol yn y wasg, nid yw\u2019n syndod efallai mai cymysg oedd yr ymateb i\u2019r <a href=\"http:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/ymchwil-ac-ystadegau\/arolwg-cenedlaethol-o-r-gweithlu-addysg\">Arolwg Cenedlaethol cyntaf o\u2019r Gweithlu Addysg<\/a>.<\/p>\n<p>Er hynny roedd yn ymarfer pwysig yr oedd angen ei wneud.<\/p>\n<p>Trwy weld sut mae\u2019n chwythu yn y system addysg, gallwn ddeall yn well yr heriau sylfaenol i weithredu polisi\u2019n llwyddiannus.<\/p>\n<p>Yn fyr, gallwn adnabod problemau a chwilio am atebion.<\/p>\n<p>Comisiynwyd yr arolwg gan Lywodraeth Cymru a\u2019i hwyluso gan <a href=\"http:\/\/www.ewc.wales\/site\/index.php\/cy\/\">Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC)<\/a>, a rhoddai gyfle i bob ymarferydd addysg cofrestredig \u2013 rhyw 72,497 ohonynt \u2013 fynegi eu safbwyntiau, eu cwynion a\u2019u hanghenion ar gyfer symud ymlaen o ran addysg.<\/p>\n<p>A gallent wneud hynny\u2019n ddienw, ac yn gwbl ddiduedd.<\/p>\n<p>Am y rheswm hwnnw roeddwn yn siomedig mai 14% yn unig (10,408) o\u2019r rhai oedd yn gymwys i gymryd rhan a wnaeth hynny.<\/p>\n<p>Gwnaeth mwyafrif helaeth yr ymarferwyr cofrestredig wrthod y cyfle i fynegi\u2019u llais \u2013 prawf, os oedd ei angen, bod llawer mwy i\u2019w wneud o ran ymgysylltu\u2019n gadarnhaol \u00e2\u2019r proffesiwn.<\/p>\n<p>Beth bynnag oedd canfyddiadau cyfunol \u00a0yr arolwg, byddai wedi bod yn dipyn anoddach i\u2019w anwybyddu petai nifer mwy arwyddocaol wedi cymryd rhan ynddo.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, nid wyf o\u2019r farn y bydd yr arolwg hwn yn cael ei anghofio\u2019n fuan iawn.<\/p>\n<p>Dyma rai o\u2019r prif ganfyddiadau:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae 33.6% o\u2019r athrawon ysgol yn bwriadu gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf;<\/li>\n<li>Nid yw 45.4% o\u2019r athrawon ysgol yn gyfarwydd iawn neu\u2019n gyfarwydd o gwbl \u00e2\u2019r Fframwaith Cymhwysedd Digidol;<\/li>\n<li>Mae 37.2% o\u2019r athrawon ysgol yn mwynhau rhoi cynnig ar ddulliau addysgu newydd ac arloesol;<\/li>\n<li>Dywedodd 78.1% o\u2019r athrawon ysgol mai\u2019r llwyth gwaith oedd yr agwedd leiaf dymunol\u00a0 o\u2019u swydd;<\/li>\n<li>Roedd 88.3% o\u2019r athrawon ysgol yn anghytuno neu\u2019n anghytuno\u2019r gryf eu bod yn gallu rheoli eu llwyth gwaith cyfredol yn effeithiol;<\/li>\n<li>Dywedodd 68.7% o\u2019r athrawon ysgol mai cost oedd un o\u2019r prif rwystrau i ddatblygiad proffesiynol;<\/li>\n<li>Nid yw 38.6% o\u2019r athrawon ysgol yn gyfarwydd iawn neu\u2019n gyfarwydd o gwbl \u00e2 chynnwys ac argymhellion adroddiad yr Athro Graham Donaldson, \u00a0\u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019;<\/li>\n<li>Dywedodd yr athrawon ysgol llawn amser eu bod yn gweithio 50.7 o oriau ar gyfartaledd yn ystod wythnos waith arferol;<\/li>\n<li>Nid oedd 57.9% o\u2019r athrawon ysgol wedi defnyddio\u2019r safonau \u2018Athrawon wrth eu Gwaith\u2019 cyfredol neu safonau arweinyddiaeth wrth osod amcanion, cynllunio datblygiad neu adolygu perfformiad yn ystod y 12 mis diwethaf;<\/li>\n<li>Roedd 84.9% o\u2019r athrawon ysgol yn eithaf hyderus neu\u2019n hyderus iawn yn y defnydd o TGCh yn eu gwaith;<\/li>\n<li>Roedd 93.5% o\u2019r athrawon ysgol o\u2019r farn mai addysgu a gweld dysgwyr yn datblygu oedd yr agwedd fwyaf dymunol o\u2019u swydd;<\/li>\n<li>Mae 47.3% o\u2019r athrawon ysgol yn bwriadu parhau i ddatblygu eu hymarfer dros y tair blynedd nesaf;<\/li>\n<li>Dywedodd 20.2% o\u2019r athrawon ysgol nad oedd y datblygiad proffesiynol perthnasol ar gael neu nad oedd o ansawdd digonol;<\/li>\n<li>Dywedodd 77.4% o\u2019r athrawon ysgol mai gwaith gweinyddu a gwaith papur oedd yn effeithio fwyaf ar eu gallu i reoli eu llwyth gwaith yn effeithiol;<\/li>\n<li>Dywedodd 52.2% o\u2019r athrawon ysgol y byddent yn dymuno cael rhagor o amser i allu trafod gwaith gyda dysgwyr a dywedodd 51.8% eu bod yn dymuno cael\u00a0 rhagor o amser i gynllunio a pharatoi gwersi;<\/li>\n<li>Dywedodd 17.8% o\u2019r athrawon ysgol eu bod yn addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu yn bennaf, tra bod 76.6% yn addysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn unig neu yn bennaf.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn \u00f4l yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, roedd mynediad at ddysgu proffesiynol a hyder wrth gyflwyno a defnyddio TGCh yn elfennau cadarnhaol a ddeilliai o\u2019r arolwg.<\/p>\n<p>Ond, heb os nac oni bai, bydd pryderon ynghylch llwyth gwaith athrawon a\u2019r ffaith nad ydynt yn gyfarwydd \u00e2\u2019r diwygiadau i\u2019r cwricwlwm a\u2019r Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffaith bod traean o\u2019r athrawon yn bwriadu cefnu ar y proffesiynol yn ystod y tair blynedd nesaf yn rhybudd i ni i gyd.<\/p>\n<p>Mewn rhai ffyrdd ni allai cyhoeddi\u2019r arolwg fod wedi digwydd ar adeg waeth.<\/p>\n<p>Yn ddiweddar lansiwyd ymgyrch genedlaethol newydd dan arweinyddiaeth pedwar consortiwm addysg rhanbarthol Cymru yn galw ar weithwyr proffesiynol i \u2018Ddarganfod Addysgu\u2019, ac nid ystadegau\u2019r wythnos diwethaf yw\u2019r hysbyseb orau i weithio mewn ysgolion.<\/p>\n<p>Ond nid oes byth amser da i orfod wynebu\u2019r gwir \u2013 ac roedd angen trafod arfarniad onest a phlaen o realiti gweithio yn y byd addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Am y rheswm hwnnw mae Ms Williams a\u2019i swyddogion yn haeddu cryn dipyn o glod.<\/p>\n<p>Byddai elfennau o\u2019r arolwg yn ddarllen anodd unrhyw bryd.<\/p>\n<p>Heb os, byddai ambell sgerbwd yn y cwpwrdd a thrwy agor y drws i ddadansoddiad beirniadol, mae Llywodraeth\u00a0 Cymru wedi taflu goleuni ar nifer o ddiffygion pwysig.<\/p>\n<p>Mae digon i gnoi cil arno a dylid canmol Ms Williams am fentro gwneud rhywbeth na welodd ei rhagflaenwyr yn dda i\u2019w wneud.<\/p>\n<p>Ond mae nifer o\u2019r canfyddiadau wedi\u2019u nodi o\u2019r blaen, fel y gwnaeth Prif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg, Hayden Llewellyn yn glir ar y diwrnod y rhyddhawyd yr adroddiad.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae\u2019r canlyniadau hyn yn codi\u2019r llen ar nifer o\u2019r heriau proffesiynol mae ein staff mewn ysgolion ac AB yn eu hwynebu ac yn cynnig data cadarn i ategu rhai o\u2019r straeon a glywn yn aml.\u201d<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, cydnabu Ms Williams yr wythnos diwethaf yn ystod cyfarfod o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i\u2019r ateb i \u201cbroblem barhaus y llwyth gwaith\u201d a\u2019i bod yn \u201cagored i awgrymiadau\u201d.<\/p>\n<p>Ond mae ei dadleniad bod \u2018Prosiect Biwrocratiaeth\u2019 \u00a0ar waith \u2013 \u201cprofi ein hunain i wneud yn si\u0175r nad ydym ni\u2019n mynnu gan y proffesiwn bethau nad ydynt wir yn ychwanegu gwerth at addysgu a dysgu\u201d \u2013 yn rhywbeth calonogol ac yn brawf bod gwneuthurwyr polisi yn barod i addasu.<\/p>\n<p>Eto i gyd mae llawer mwy o waith i\u2019w wneud ac mae\u2019n hanfodol fod Ms Williams yn ceisio cywiro\u2019r hyn sydd, ym marn ein gweithlu addysg, yn mynd o chwith.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.iwa.wales\/click\/2017\/03\/culture-collaboration-reliant-results\/\">Mae\u2019r diwylliant o gydweithio<\/a> y mae Ms Williams wedi ceisio\u2019n ddewr i\u2019w feithrin ers ei phenodiad fis Mai diwethaf i\u2019w weld yn eang ar draws holl agweddau datblygu polisi.<\/p>\n<p>Ac mae\u2019n seiliedig ar y cynsail ein bod ni i gyd yn bartneriaid yn y \u201cgenhadaeth genedlaethol\u201d i godi safonau.<\/p>\n<p>Bellach mae ganddi ar flaen ei bysedd sylfaen dystiolaeth i adeiladu ei hagenda diwygio.<\/p>\n<p>Nid oes budd mewn cuddio rhag ystadegau ac mae\u2019n rhaid i safbwyntiau\u2019r gweithlu fod yn flaenllaw a chanolog wrth i ni barhau \u00e2\u2019n taith i sicrhau gwelliant.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn Yr Athrofa, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae canlyniadau\u2019r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o\u2019r Gweithlu Addysg wedi\u2019u cyhoeddi ac, yn \u00f4l Gareth Evans, ni ellir eu hanwybyddu&#8230; &nbsp; Yn erbyn cefnlen o gyllidebau\u2019n crebachu, pryderon am atebolrwydd a ffrwd gyson o straeon negyddol yn y wasg, nid yw\u2019n syndod efallai mai cymysg oedd yr ymateb i\u2019r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o\u2019r Gweithlu Addysg. Er&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39081","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39081","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39081"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39081\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39081"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39081"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39081"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}