{"id":39082,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cyfle-i-rannu-arbenigedd-ym-maes-ieithoedd-mewn-cynhadledd-ryngwladol\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"cyfle-i-rannu-arbenigedd-ym-maes-ieithoedd-mewn-cynhadledd-ryngwladol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cyfle-i-rannu-arbenigedd-ym-maes-ieithoedd-mewn-cynhadledd-ryngwladol\/","title":{"rendered":"Cyfle i rannu arbenigedd ym maes ieithoedd mewn cynhadledd ryngwladol"},"content":{"rendered":"<p><strong>Tyrrodd cant a mwy o bobl o Gymru a thu hwnt i gynhadledd bwysig ar un o gonglfeini cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru.<\/strong><\/p>\n<p>Trefnodd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa&#8217;r<\/a> Drindod Dewi Sant gynhadledd arbennig ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar ei champws yng Nghaerfyrddin Ebrill 6-7.<\/p>\n<p>Dyma gynulliad <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/canolfannau-ymchwil-ac-arloesi\/\">Ymchwil<\/a> mewn Addysg cyntaf yr Athrofa, a rhoddodd sylw blaenllaw i un o chwech \u2018Maes Dysgu a Phrofiad\u2019 yr Athro Graham Donaldson, gan drin a thrafod addysgeg, asesu ac agweddau at amlieithrwydd.<\/p>\n<p>Un o\u2019r cyfranwyr mwyaf ysbrydoledig oedd Yr Athro Piet Van de Craen, newro-ieithydd o Brifysgol Vrije ym Mrwsel a ddatgelodd yn glir fanteision gwybyddol dwy ac aml-ieithrwydd.<\/p>\n<p>Dangosodd Inma Mu\u00f1oa, o Brosiect Ikastola Donostia\/San Sebastian, mewn ffordd ymarferol sut y mae cenhedlaeth newydd o ddisgyblion tair-ieithog yn codi yng Ngwlad y Basg wedi iddynt fabwysiadu dull addysgu a adwaenir fel \u2018CLIL\u2019 (Content and Language Integrated Learning) yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull hwn, sydd wedi arwain at lwyddiant ysgubol mewn ardaloedd y tu hwnt i wledydd Ynysoedd Prydain yn caniat\u00e1u i\u2019r ail a\u2019r drydedd iaith \u2018ddianc\u2019 tu hwnt i ffiniau\u2019r gwersi iaith traddodiadol a dod yn gyfrwng dysgu agweddau eraill ar y cwricwlwm.<\/p>\n<p>Roedd y gynhadledd yn gyfnewidfa-syniadau fuddiol, nid yn unig rhwng staff prifysgol ac athrawon o wledydd gwahanol, ond hefyd o ardaloedd gwahanol o Gymru.<\/p>\n<p>Cafwyd ymdriniaeth egn\u00efol o waith Canolfan Iaith Gwynedd gan yr arbenigwraig, Carys Lake, a esboniodd ddull y Ganolfan o drochi newydd-ddyfodiaid yn y Gymraeg.<\/p>\n<p>Datgelodd Ashley Beard, cyn-fyfyrwraig PhD YDDS, am y tro cyntaf ffrwyth ei hymchwil pwysig i ddulliau addysgu \u2018Cymraeg Ail Iaith\u2019 yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg.<\/p>\n<p>Yn seiliedig ar ymchwil manwl dros dair blynedd, cafodd ei hargymhellion groeso eiddgar gan y cynadleddwyr.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l pob un o\u2019r pedwar cyfraniad ar ddeg cafwyd trafodaeth frwd rhwng athrawon ysgol, darlithwyr prifysgol, cynrychiolwyr awdurdodau lleol, y llywodraeth a sefydliadau iaith, ynghyd ag unigolion eraill.<\/p>\n<p>Yna, yn wledd i\u2019r cynadleddwyr cafwyd eitem gerddorol mewn Sbaeneg, Cymraeg a Saesneg dros\u00a0gyswllt fideo byw i Ysgol Llangennech, lle mae disgyblion wedi bod yn rhan o brosiect tair-ieithog Cerdd-Iaith ac wedi eu hysbrydoli gan arweinydd iaith ERW, Anna Vivian Jones.<\/p>\n<p>Prosiect yw hwn sy\u2019n bartneriaeth flaengar rhwng YDDS, ERW, Cerddorfa BBC Cymru a\u2019r <a href=\"https:\/\/wales.britishcouncil.org\/\">Cyngor Prydeinig yng Nghymru<\/a> dan nawdd Sefydliad Paul Hamlyn.<\/p>\n<p>I ategu hyn, rhoddodd pedwarawd talentog o Ysgol Bro Myrddin dan arweiniad eu hathrawes gerdd, Meinir Richards, ddatganiad godidog yn ystod swper y gynhadledd. Roedd y cynadleddwyr wedi eu swyno\u2019n llwyr gan eu harmon\u00efau agos.<\/p>\n<p>Un o siaradwyr gwadd y swper oedd y gohebydd nodedig, Ashok Amir, o asiantaeth gyfathrebu ddwyieithog, Mela Media. Tynnodd ar ei brofiad personol o fod yn siaradwr sawl iaith\u00a0&#8211;\u00a0o Punjabi i Gymraeg &#8211; er mwyn pwysleisio manteision aml-ieithrwydd.<\/p>\n<p>Yn gwmni iddo roedd ei dad yng nghyfraith, Dr Gareth Edwards, cyn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau, Prifysgol Aberystwyth, a daflodd oleuni ar ddyddiau cynnar datblygu methodoleg addysgu dwyieithog gan siarad am ei brofiad o weithio yn yr un adran ag arloeswyr fel yr Athro Jac L Williams.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Mererid Hopwood o\u2019r Athrofa: \u201cMae\u2019n braf iawn croesawu arbenigwyr o amrywiol ddisgyblaethau i ddod at ei gilydd i drafod iaith yng nghyd-destun cwricwlwm ysgol, ac i fwrw goleuni ar bosibiliadau dysgu ieithoedd i ddisgyblion yng Nghymru a thu hwnt.\u201d<\/p>\n<p>Cynhaliwyd y gynhadledd mewn cydweithrediad \u00e2 Chymdeithas Addysg Ewrop Y Rhanbarthau (CAER), sydd dan gadeiryddiaeth Dr Hywel Lewis o YDDS.<\/p>\n<p>Noddwyd y gynhadledd gan <a href=\"http:\/\/www.colegcymraeg.ac.uk\/cy\/\">Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Tyrrodd cant a mwy o bobl o Gymru a thu hwnt i gynhadledd bwysig ar un o gonglfeini cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru. Trefnodd Athrofa&#8217;r Drindod Dewi Sant gynhadledd arbennig ar Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu ar ei champws yng Nghaerfyrddin Ebrill 6-7. Dyma gynulliad Ymchwil mewn Addysg cyntaf yr Athrofa, a rhoddodd sylw blaenllaw i un&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39082","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39082","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39082"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39082\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39082"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39082"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39082"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}