{"id":39083,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/canfyddiadau-athrawon-yn-effeithio-ar-wersi-tgch\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"canfyddiadau-athrawon-yn-effeithio-ar-wersi-tgch","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/canfyddiadau-athrawon-yn-effeithio-ar-wersi-tgch\/","title":{"rendered":"Canfyddiadau athrawon yn effeithio ar wersi TGCh"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae gan athrawon yng Nghymru ganfyddiadau cyferbyniol yngl\u0177n \u00e2 thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) sy\u2019n effeithio ar y ffordd mae\u2019r pwnc yn cael ei addysgu mewn ysgolion, yn \u00f4l adroddiad newydd.<\/strong><\/p>\n<p>Cynhaliodd ymchwilwyr o <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a> a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd astudiaethau achos gydag athrawon mewn tair ysgol wahanol a gwelwyd bod amrywiad yn y canfyddiad o allu mewn TGCh ac arfer addysgegol.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr ymchwilwyr mae\u2019r amrywiad rhwng ysgolion yn awgrymu y gallai canfyddiad athrawon o allu mewn TGCh amrywio o gontinwwm o is-sgiliau neu is-dechnegau yn bennaf, i uwch-sgiliau yn bennaf yn cynnwys metawybyddiaeth.<\/p>\n<p>Gwelwyd continwwm tebyg mewn perthynas \u00e2 strategaeth addysgegol, yn amrywio o ddull athro-ganolog, mecanistig i ddull datrys problemau disgybl-ganolog.<\/p>\n<p>Nododd yr adroddiad y gallai continwwm o ganfyddiad ynghylch gallu mewn TGCh ac arfer wrth addysgu TGCh fod \u00e2 goblygiadau i ddilyniant dysgwyr yn y pwnc.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae\u2019r amrywiad mewn canfyddiad rhwng gallu technegol a metawybyddol mewn TGCh yn awgrymu bod dysgwyr ar draws Cymru yn debygol o brofi ffocysau gwahanol o fewn gwersi TGCh.<\/p>\n<p>\u201cDangosodd yr astudiaethau achos fod athrawon a dybiai fod gallu mewn TGCh yn rhywbeth sy\u2019n seiliedig ar offer yn defnyddio dull mwy mecanistig i\u2019w haddysgu, tra bod y rhai a dybiai fod gallu mewn TGCh yn gofyn am ddefnyddio sgiliau metawybyddol yn tueddu addysgu gan ddefnyddio dull datrys problemau sy\u2019n caniat\u00e1u datblygu\u2019r sgiliau hynny.<\/p>\n<p>\u201cO safbwynt addysgu, gallai hyn olygu y bydd rhai disgyblion yn parhau i ddisgwyl cyfarwyddyd uniongyrchol\u00a0 a chael eu \u2018bwydo\u2019 fel oedd yn amlwg yn y dull mecanistig, oherwydd dyma\u2019r ffordd maen nhw\u2019n gyfarwydd \u00e2 chael eu haddysgu yn y pwnc.<\/p>\n<p>\u201cYmhellach, mae disgyblion a addysgir yn y modd yma\u2019n debygol o ystyried TGCh yn syml fel offeryn. Mewn cyferbyniad, mae disgyblion eraill sydd wedi cael profiad o ddull datrys problemau o ddatblygu gallu\u00a0 mewn TGCh yn fwy tebygol o allu\u2019i ddefnyddio fel modd o ddatrys problemau a chreu datrysiadau yn y gweithle.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd yr astudiaeth &#8211; <em>Investigating Teacher Perceptions of Teaching ICT in Wales \u00a0<\/em>&#8211; gan Dr Jan Barnes, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">o\u2019r Athrofa<\/a>, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Dr Steve Kennewell, o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.<\/p>\n<p>Nododd fod disgyblion 11 i 14 oed yng Nghymru yn profi \u201camrywiad eang yn y wybodaeth a\u2019r sgiliau fel sylfaen ar gyfer datblygiad pellach o fewn cyrsiau arholiad\u201d, sydd \u00e2 \u201cgoblygiadau ar gyfer cyflogadwyedd a chreu gweithlu \u00e2 gallu digonol mewn TGCh\u201d.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l yr adroddiad, un o\u2019r prif ddadleuon sy\u2019n cefnogi\u2019r angen am newid yn y cwricwlwm yw \u201cnad yw\u2019r ddarpariaeth bresennol yn creu digon o sgiliau datrys problemau a metawybyddiaeth ar ddiwedd eu haddysg i adeiladu gweithlu economaidd sydd \u00e2\u2019r gallu i gynorthwyo Cymru i gystadlu mewn byd digidol&#8221;.<\/p>\n<p>Mae casgliadau\u2019r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd ym mhob ysgol dros gyfnod o naw mis.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd cyfweliad cychwynnol gydag athro ym mhob ysgol , arsylwyd arno ef\/hi\u2019n addysgu gwers a chafwyd deialog adfyfyriol. \u00a0Yna cafwyd cyfnod arsylwi ac adfyfyrio arall gyda chyfweliad arall i gloi.<\/p>\n<ul>\n<li>Gellir gweld yr astudiaeth yn llawn yma: <a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/04\/Investigating_Teacher_Perceptionsof_teaching-ICT_in_Wales.pdf\">Investigating_Teacher_Perceptions+of_teaching-ICT_in_Wales<\/a><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gan athrawon yng Nghymru ganfyddiadau cyferbyniol yngl\u0177n \u00e2 thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) sy\u2019n effeithio ar y ffordd mae\u2019r pwnc yn cael ei addysgu mewn ysgolion, yn \u00f4l adroddiad newydd. Cynhaliodd ymchwilwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd astudiaethau achos gydag athrawon mewn tair ysgol wahanol a gwelwyd bod&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39083","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39083","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39083"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39083\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39083"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39083"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39083"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}