{"id":39084,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ymchwil-mewn-addysg-yn-bwnc-trafod-gwerthfawr\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"ymchwil-mewn-addysg-yn-bwnc-trafod-gwerthfawr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ymchwil-mewn-addysg-yn-bwnc-trafod-gwerthfawr\/","title":{"rendered":"Ymchwil mewn addysg yn bwnc trafod gwerthfawr"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Canolbwynt gweithdy diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad\u00a0 a Datblygiad Economaidd (OECD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd cryfhau ymchwil mewn addysg athrawon. Dyma Elaine Sharpling yn adfyfyrio ar gyfarfod cynhyrchiol rhwng pobl o\u2019r un bryd\u2026<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Roedd y <a href=\"http:\/\/gov.wales\/newsroom\/educationandskills\/2017\/new-teacher-training-changes-to-attract-the-best-to-the-profession--kirsty-williams\/?skip=1&amp;lang=cy\">gweithdy OECD diweddar yng Nghaerdydd<\/a> yn sicr yn brofiad buddiol. Bu cyd addysgwyr athrawon o\u2019r gymuned ryngwladol yn arwain cyfres o weithdai a chwiliai am ffordd ymlaen i ddatblygu ymchwil addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Bydd yn rhaid aros am flog arall \u00a0i glywed am gynnwys a chanlyniad y gweithdai hyn oherwydd yn gyntaf hoffwn rannu\u2019r gwersi a ddysgwyd o un o\u2019r ffyrdd o weithio.<\/p>\n<p>Ar yr ail ddiwrnod o dri, a gynhaliwyd yn y storfa rawn llawn awyrgylch yng nghrombil Castell Caerdydd, fe\u2019n rhannwyd yn grwpiau a rhoddwyd amrywiol destunau i ni eu trafod.<\/p>\n<p>Roeddwn i\u2019n ffodus i gael fy newis cyntaf o destun sef \u2018Cysylltu Theori ag Arfer\u2019. Wedi i aelodau\u2019r gr\u0175p gael eu rhyddhau o dywyllwch y storfa rawn i oleuni Ystafell Dumfries, gosodwyd tasg iddynt i ddod o hyd i ffordd o ddod \u00e2\u2019r ddau begwn, theori ac arfer, sydd yn aml yn ddigyswllt, yn agosach at ei gilydd fel eu bod hyd yn oed yn bwydo i\u2019w gilydd.<\/p>\n<p>Dechreuodd y dasg mewn ffordd eithaf traddodiadol wrth i ni gael ein rhannu\u2019n barau a gofynnwyd i ni roi gwybod ychydig o ffeithiau amdanom ni ein hunain a\u2019r rhesymau pam yr oeddem yn mynychu\u2019r gynhadledd.<\/p>\n<p>Fel sy\u2019n nodweddiadol yn sesiynau\u2019r OECD, cafwyd tro yng nghynffon y gweithgarwch hwn wrth i ni orfod cyflwyno ein gilydd, a oedd yn fesur o ba mor dda yr oeddem yn gwrando yn ogystal \u00e2 gallu siarad \u2013 gwelwyd maes o law bod hyn yn dipyn o thema a dof yn \u00f4l at hynny\u2019n ddiweddarach.<\/p>\n<p>Yna rhoddwyd papur, pennau ysgrifennu a phapur nodiadau gludiog i ni a gofynnwyd i ni ddod o hyd i resymau pam nad oedd theori ac arfer addysgol yn cyd-dynnu\u2019n dda iawn. A ninnau bellach wedi torri\u2019r garw\u2019n llwyddiannus, gweithiodd pob p\u00e2r yn dda gyda chymorth hwyluswyr yr OECD.<\/p>\n<p>I gadw\u2019r meddwl creadigol i fynd, fe wnaethom ni gyfnewid partneriaid, ychwanegu at nodiadau a thrafodaethau ein gilydd, gan weithio ar y diwedd\u00a0 mewn grwpiau\u00a0o dri. Nodweddion arferol gwaith gr\u0175p, felly.<\/p>\n<p>Yna daeth y newid rhyfedd ond effeithiol i\u2019n ffordd o ddysgu. Gludwyd taflenni anodedig y papur siart troi i\u2019r wal a gofynnwyd i ni ystyried y syniadau a nodwyd gan y parau gwahanol.<\/p>\n<p>Y cyfarwyddiadau a roddwyd i ni oedd ychwanegu rhagor o nodiadau, saethau neu ddiagramau ar draws y tri darn o bapur. Fodd bynnag roedd yn rhaid gwneud hyn mewn tawelwch.<\/p>\n<p>Felly, yn dilyn sgwrs ddwys fel gr\u0175p am ryw 20 munud, roeddem nawr yn wynebu cyfnod dwys o adfyfyrio. Yn araf ac yn bwrpasol, aeth aelodau\u2019r gr\u0175p ati yn eu tro i ychwanegu haen ychwanegol o feddwl i\u2019r syniadau cychwynnol.<\/p>\n<p>Tynnwyd saethau i gysylltu syniadau oedd gynt yn ddigyswllt, ysgrifennwyd geiriau ychwanegol i gyfoethogi ymadroddion a defnyddiwyd tanlinellu i amlygu pwysigrwydd.<\/p>\n<p>Yn ystod y cyfnod hwn o dawelwch, yr hyn a\u2019m tarodd i oedd nid yn unig ansawdd y meddwl ond y ddealltwriaeth gymdeithasol sydd ei hangen ar gyfer y math hwn o weithgarwch.<\/p>\n<p>Mae cymryd tro yn rhywbeth yr ydym yn ei addysgu\u2019n aml i blant ifanc gan fod ein cymdeithas yn rhoi gwerth ar haelioni, tegwch ac ysbryd cyd-dynnu.<\/p>\n<p>Mae\u2019n sgil bywyd sy\u2019n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant cymdeithasol mewn nifer o amgylcheddau gwahanol.\u00a0Roeddem yn cymryd ein tro mewn modd mor soffistigedig nes bod pob person, hyd yn oed mewn tawelwch, yn cael cyfle i gyfrannu ac ni wnaeth pennau marcio neb daro yn erbyn ei gilydd wrth iddynt frysio i ysgrifennu!<\/p>\n<p>Tybed pa ymddygiadau cymdeithasol eraill sydd wedi ymwreiddio cymaint fel nad ydym bellach yn cydnabod eu bod yn cael eu dysgu. Efallai y byddai\u2019n ddiddorol i athrawon ystyried sut a pham mae cydymffurfio cymdeithasol yn nodwedd o fywyd ysgol.<\/p>\n<p>Yn dilyn cyfnod sylweddol o dawelwch, newidiodd ein harbenigwr o\u2019r OECD yr arddull dysgu eto gan gymryd y pen ysgrifennu a\u2019r awenau. Gyda chryn ddirnadaeth, grwpiodd y cymysgwch o syniadau yn dri thestun rhesymegol a oedd yn gwneud synnwyr perffaith. Gwych.<\/p>\n<p>Canlyniad y dasg gr\u0175p oedd, er bod \u2018theori\u2019 yn gysylltiedig yn draddodiadol \u00e2 maes y brifysgol ac \u2018arfer\u2019 \u00e2 maes yr ysgol, roedd angen adeiladu pontydd fel y gallai\u2019r ddau fwydo i\u2019w gilydd. Enghraifft o hyn oedd y syniad o gael y ddau faes arbenigedd i ddatblygu ymchwil agos-at-arfer .<\/p>\n<p>Afraid dweud, cyfoethogwyd y gwaith gr\u0175p gan bresenoldeb <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/03\/04\/gorau-po-leiaf-wrth-ddiwygior-cwricwlwm\/\">yr Athro Graham Donaldson<\/a>, a soniodd am yr angen am iaith a geirfa gyffredin rhwng yr arbenigwyr theori ac arfer. Yn hyn o beth, a allai\u2019r safonau proffesiynol newydd fod yn fan cychwyn?<\/p>\n<p>I gloi, cafodd taith ddysgu, a allai fod wedi bod yn un eithaf cyffredin o ran gweithrediad, ei gwneud \u00a0yn un eithaf arbennig trwy wrando gofalus, trafodaeth amrywiol a chyfnod gwerthfawr o dawelwch.<\/p>\n<p>Beth am roi cynnig arni?\u2026<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Elaine Sharpling yn Gyfarwyddwr Gweithredol Addysg Gychwynnol Athrawon yn yr Athrofa, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canolbwynt gweithdy diweddar gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad\u00a0 a Datblygiad Economaidd (OECD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, oedd cryfhau ymchwil mewn addysg athrawon. Dyma Elaine Sharpling yn adfyfyrio ar gyfarfod cynhyrchiol rhwng pobl o\u2019r un bryd\u2026 &nbsp; Roedd y gweithdy OECD diweddar yng Nghaerdydd yn sicr yn brofiad buddiol. Bu cyd addysgwyr athrawon o\u2019r&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39084","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39084","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39084"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39084\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39084"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39084"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39084"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}