{"id":39085,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/arweinyddiaeth-systemau-effeithiol-yn-hanfodol-ir-agenda-ddiwygio-yn-ol-cynghrair-arweiniol\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"arweinyddiaeth-systemau-effeithiol-yn-hanfodol-ir-agenda-ddiwygio-yn-ol-cynghrair-arweiniol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/arweinyddiaeth-systemau-effeithiol-yn-hanfodol-ir-agenda-ddiwygio-yn-ol-cynghrair-arweiniol\/","title":{"rendered":"Arweinyddiaeth systemau effeithiol yn hanfodol i\u2019r agenda ddiwygio, yn \u00f4l cynghrair arweiniol"},"content":{"rendered":"<p><strong>Tynnwyd sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth o ran gyrru newid addysgol yng Nghymru yn ei flaen mewn adroddiad newydd gan gynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.<\/strong><\/p>\n<p>Bu ail gyfarfod <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/comisiwn-addysg-cymru\/\">Comisiwn Addysg Cymru<\/a> yn ystyried yr effaith fawr y mae arweinyddiaeth yn ei chael ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar beth mae rhai o\u2019r systemau addysg sy\u2019n perfformio orau yn y byd wedi&#8217;i wneud i gefnogi arweinwyr ysgol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n dilyn ymrwymiad Kirsty Williams, Ysgrifennydd dros Addysg, i gryfhau arweinyddiaeth ysgol drwy Academi Genedlaethol newydd a fydd yn sicrhau y gall pob arweinydd yn system addysg Cymru fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn yn dod \u00e2 meddylwyr addysg o bob cwr o\u2019r byd at ei gilydd, ac ymatebodd i agenda arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru drwy gyflwyno nifer o sylwadau i brocio\u2019r meddwl ynghylch arfer gorau ar draws y byd.<\/p>\n<p>Edrychodd ar strategaethau arweinyddiaeth llwyddiannus yng Nghanada, UDA a\u2019r Alban a chafodd gipolwg unigryw ar ysgogi penaethiaid ysgol yn ystod rhaglen nodedig \u2018Her Llundain\u2019.<\/p>\n<p>Yn ei ail adroddiad i\u2019r gymuned addysg, roedd y Comisiwn o&#8217;r farn bod yr ymgais am arweinyddiaeth systemau effeithiol ar bob lefel o fewn system addysg Cymru \u201co\u2019r pwysigrwydd mwyaf\u201d.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cPwysleisiodd yr aelodau\u2019r angen i greu diwylliant ar gyfer newid, gan gydnabod bod Cymru wedi cychwyn ar ddiwygio\u2019r system yn gyfan gwbl. \u00a0Bydd hyn yn gofyn am symudiad o ran meddylfryd ac ymddygiad ar draws yr holl broffesiwn addysg.<\/p>\n<p>\u201cFelly, mae\u2019r her i arweinwyr ar bob lefel yn fawr a byddan nhw\u2019n hollbwysig er mwyn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru yn llwyddiannus. \u00a0Mae arweinyddiaeth wasgaredig yn strategaeth allweddol o ran rhannu\u2019r cyfrifoldeb hwn.<\/p>\n<p>\u201cNododd y Comisiwn fod elfen o angen gweithredu\u2019n ddiymdroi\u2019n gysylltiedig \u00e2 gwella perfformiad yng Nghymru &#8211; ond na allai hyn ddigwydd ar draul datblygu&#8217;r gweithlu ehangach a byddai angen ewyllys wleidyddol gref i ddal ati tan y diwedd a chaniat\u00e1u i bolisi newydd ymsefydlu.<\/p>\n<p>\u201cAnogodd Lywodraeth Cymru i fod yn eglur ynghylch sut y bydd llwyddiant ei blaenoriaethau\u2019n cael ei fesur ac i geisio cyfleu\u2019r neges honno i\u2019r holl randdeiliaid.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn yn cwrdd deirgwaith y flwyddyn gan ystyried addysg ymhob cyfnod, ac mae\u2019n un o brif linynnau <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa Addysg newydd<\/a> Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Pwrpas deuol y gr\u0175p yw helpu i arwain gwaith yr Athrofa a\u2019i <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/partneriaeth-dysgu-proffesiynol\/\">Phartneriaeth Dysgu Proffesiynol<\/a> o ysgolion a staff prifysgol, ar yr un pryd \u00e2 chyfrannu\u2019n weithredol i\u2019r drafodaeth ehangach ynghylch addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr yr Athrofa ac Ysgrifennydd i&#8217;r Comisiwn, y byddai dysgu gan bartneriaid o bob cwr o\u2019r byd o fudd enfawr i Gymru.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae\u2019r doreth o arbenigedd rhyngwladol rydym wedi dod ag ef i Gymru yn caniat\u00e1u i ni adfyfyrio\u2019n feirniadol, mewn modd arloesol, ynghylch beth yw\u2019r datblygiadau priodol ar gyfer ein system addysg.<\/p>\n<p>\u201cBoddhad mawr i mi yw\u2019r cymorth y bydd y gr\u0175p nodedig hwn o unigolion yn ei ddarparu. Mae pob un ohonyn nhw wedi ennill parch aruthrol am y cyfraniad y mae wedi\u2019i wneud i wella addysg drwy\u2019i waith ei hun.<\/p>\n<p>\u201cMae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar agenda ddiwygio uchelgeisiol a gobeithio y bydd y ddealltwriaeth ehangach a ddarperir gan Gomisiwn Addysg Cymru yn helpu i lyfnhau unrhyw dwmpathau posibl yn y ffordd.<\/p>\n<p>\u201cMae hwn yn gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru ac nid yw\u2019r diwylliant o gydweithio sy\u2019n cael ei feithrin gan Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy amlwg yn unman nag yn ein cynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol.\u201d<\/p>\n<p>Yn ystod ei drafodaeth, clywodd y Comisiwn dystiolaeth gan Gillian Hamilton, Prif Weithredwr Coleg yr Alban ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a sefydlwyd yn 2014 i gefnogi dysgu proffesiynol mewn arweinyddiaeth gan athrawon ar bob lefel ar draws ysgolion yr Alban.<\/p>\n<p>Mae gan bob aelod o\u2019r Comisiwn ei record ei hun o lwyddiant rhagorol yn ei faes penodol, a gofynnwyd iddynt wedyn roi sylwadau ar bolisi addysg cyfredol a chynnig awgrymiadau yn seiliedig ar eu profiad rhyngwladol a\u2019u harbenigedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Comisiwn yn cynnwys Dr Carol Campbell, Athro Cysylltiol mewn Arweinyddiaeth a Newid Addysgol ym Mhrifysgol Toronto; yr Athro Trevor Gale, Pennaeth yr Ysgol Addysg, Prifysgol Glasgow; Laura Perille, Prif Weithredwr EdVestors, Boston; Mick Waters, Athro mewn Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton; a David Woods, Athro mewn Addysg ym mhrifysgolion Warwick a Llundain.<\/p>\n<p>Cynhaliwyd ail gyfarfod y Comisiwn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe a gellir gweld ei adroddiad dilynol yn llawn, ynghyd ag argymhellion i Gymru a Llywodraeth Cymru, <a href=\"http:\/\/athrofa.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/04\/Second-Commission-Report-Welsh_FE.pdf\">yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Tynnwyd sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth o ran gyrru newid addysgol yng Nghymru yn ei flaen mewn adroddiad newydd gan gynghrair arweiniol o arbenigwyr rhyngwladol. Bu ail gyfarfod Comisiwn Addysg Cymru yn ystyried yr effaith fawr y mae arweinyddiaeth yn ei chael ar safonau ysgolion, gan adfyfyrio ar beth mae rhai o\u2019r systemau addysg sy\u2019n perfformio&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39085","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39085","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39085"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39085\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39085"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39085"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39085"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}