{"id":39087,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/celfyddyd-y-gymraeg-ac-addysg\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"celfyddyd-y-gymraeg-ac-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/celfyddyd-y-gymraeg-ac-addysg\/","title":{"rendered":"Celfyddyd y Gymraeg ac Addysg"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wedi\u2019i hysbrydoli gan gynhadledd ddiweddar, mae Mererid Hopwood yn ystyried y gwersi y gallwn eu dysgu oddi wrth ein cyndeidiau wrth addysgu iaith&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bellach mae holl gynadleddwyr ein cyfarfod <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/04\/19\/cyfle-i-rannu-arbenigedd-ym-maes-ieithoedd-mewn-cynhadledd-ryngwladol\/\">\u2018Ymchwil mewn Addysg\u2019<\/a> cyntaf wedi dychwelyd adref; pawb wedi cael cyfle i roi eu llwy ym mhair mawr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac wedi, gobeithio, cael blas ar y gymysgedd.<\/p>\n<p>Yn anochel cododd y nod o gyrraedd y miliwn o siaradwyr Cymraeg ei ben sawl gwaith, ac un peth sy\u2019n dod yn gynyddol amlwg yw y bydd rhaid sicrhau bod athrawon, a darpar- athrawon yn benodol, yn cael arweiniad clir ar ddulliau effeithiol addysgu iaith.<\/p>\n<p>Yn wyneb hyn, dyma fwrw golwg arall yn \u00f4l ar adroddiad 1927 \u2013 <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/04\/05\/y-gymraeg-mewn-addysg-a-bywyd\/\">&#8216;Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd&#8217;<\/a> \u2013 a gweld sut oedd ar arbenigwyr yn ei gweld hi dros 90 mlynedd yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Mae lliwiau\u2019r adroddiad yn benderfynol &#8211; obeithiol wrth iddo agor ar gynfas eang sy\u2019n ymestyn yn \u00f4l at ddechreuadau\u2019r iaith. Erbyn yr ail dudalen mae\u2019n atgoffa\u2019r darllenydd sy\u2019n digalonni wrth feddwl am y \u2018Welsh Note\u2019 (neu\u2019r \u2018Welsh Not\u2019) y bu arfer tebyg yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg.<\/p>\n<p>Bryd hynny penodwyd Custodes neu Asini i bob dosbarth i roi\u2019r wialen i unrhyw ddisgybl a fyddai\u2019n siarad Saesneg yn lle Lladin. Ac aiff yn ei flaen i ddweud mai\u2019r ffordd i ennill y llysenw \u2018custos\u2019 (sef \u2018penbwl\u2019 y dosbarth) yn Ysgol Eton oedd dal ati i siarad Saesneg.<\/p>\n<p>Yr awgrym wrth gwrs yw bod modd troi ffasiwn ac arferion ieithyddol, ac er bod yr awduron yn cydnabod nad oes modd cymharu anawsterau diwygwyr Cymru yn yr ugeinfed ganrif gyda\u2019r rhai a wynebai\u2019r Saeson bedair canrif yn flaenorol, mae newid arferion yn sicr yn bosib.<\/p>\n<p>Os oes 68 o argymhellion yn Dyfodol Llwyddiannus (sydd \u00e2\u2019i ffocws ar y cwricwlwm yn gyffredinol) a 10 ohonynt yn benodol yn ymwneud \u00e2\u2019r iaith Gymraeg, mae 72 o argymhellion yn adroddiad swmpus 1927 (sydd \u00e2\u2019i ffocws ar y Gymraeg yn gyffredinol), a 60 ohonynt yn ymwneud ag addysg.<\/p>\n<p>Mae 6 wedi eu hanelu at \u2018Y Bwrdd Addysg\u2019; 13 at \u2018Y Brifysgol a Cholegau\u2019r Brifysgol\u2019; 7 at y \u2018Colegau Hyfforddi a\u2019r Adrannau Hyfforddi\u2019; 17 at yr \u2018Awdurdodau Addysg Lleol\u2019; 6 at \u2018Bwrdd Canol Cymru\u2019 ac 11 at \u2018Yr Athrawon\u2019.<\/p>\n<p>A Chymru\u2019n edrych o\u2019r newydd ar faes Addysgu Athrawon, o\u2019r 7 sy\u2019n benodol yn ymwneud \u00e2 Cholegau Hyfforddi Athrawon, mae 4 yn arbennig yn werth eu nodi. Yn y rhain argymhellir:<\/p>\n<ul>\n<li>\u2018fod pob Coleg Hyfforddi neu Adran Hyfforddi yng Nghymru yn darparu cyrsiau wedi eu safoni\u2019n briodol ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg;<\/li>\n<li>fod pob myfyriwr sydd mewn Coleg Hyfforddi neu Adran Hyfforddi yng Nghymru yn dilyn cwrs ar iaith a llenyddiaeth Gymraeg;<\/li>\n<li>fod y Colegau Hyfforddi yn rhoddi hyfforddiant yn y dulliau gorau o ddysgu iaith, a\u2019u cymhwyso at ddysgu\u2019r Gymraeg;<\/li>\n<li>y dylid hyfforddi athrawon yn y dulliau o ddysgu\u2019r plentyn unigol fel y gallont gymhwyso\u2019r dulliau hynny at ddysgu Cymraeg.\u2019<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nodir bod \u2018llawer iawn o dystion\u2019 wedi dweud y gellid dysgu\u2019r Gymraeg yn \u2018llawer mwy effeithiol\u2019 petai mwy o\u2019r athrawon wedi \u2018eu cymhwyso\u2019n briodol at y gwaith\u2019.<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019r gwaith cymhwyso hwn, nodir ymhellach bod rhaid talu sylw i \u2018amgylchfyd\u2019 y coleg yn ogystal \u00e2\u2019r \u2018pwnc\u2019, gyda\u2019r Gymraeg yn cael \u2018lle anrhydeddus ym mhob adran o fywyd y Coleg\u2019 er mwyn cynhyrchu athrawon brwdfrydig.<\/p>\n<p>Rhagwelir y byddai\u2019n rhaid manteisio ar Ysgolion Haf, Ysgolion Nos, a dosbarthiadau ar fore Sadwrn er mwyn cefnogi\u2019r myfyrwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg, cyn pwysleisio bod angen, ar ben \u2018brwdfrydedd a s\u00eal a gwybodaeth\u2019, hefyd \u2018y gelfyddyd o gyflwyno\u2019r pethau hyn i\u2019r plant\u2019.<\/p>\n<p>Yn y trafodaethau aml diweddar am wyddoreg trosglwyddo iaith, clywir llawer s\u00f4n am ddull a chyrchddull, method a thechneg, addysgeg a phedagogeg, ond tybed a fydden ni ar ein hennill pe bydden ni\u2019n cyfeirio at y gamp fel \u2018celfyddyd\u2019?<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Mererid Hopwood yn aelod o staff Yr Athrofa, Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wedi\u2019i hysbrydoli gan gynhadledd ddiweddar, mae Mererid Hopwood yn ystyried y gwersi y gallwn eu dysgu oddi wrth ein cyndeidiau wrth addysgu iaith&#8230; &nbsp; Bellach mae holl gynadleddwyr ein cyfarfod \u2018Ymchwil mewn Addysg\u2019 cyntaf wedi dychwelyd adref; pawb wedi cael cyfle i roi eu llwy ym mhair mawr Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ac wedi, gobeithio,&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39087","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39087","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39087"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39087\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39087"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39087"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39087"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}