{"id":39088,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/blwyddyn-ym-mywyd-ysgrifennydd-dros-addysg\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"blwyddyn-ym-mywyd-ysgrifennydd-dros-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/blwyddyn-ym-mywyd-ysgrifennydd-dros-addysg\/","title":{"rendered":"Blwyddyn ym mywyd Ysgrifennydd dros Addysg&#8230;"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Wrth i Kirsty Williams agos\u00e1u at garreg filltir bwysig, mae Gareth Evans yn edrych yn \u00f4l ar flwyddyn gyntaf Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei swydd&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn \u00f4l y s\u00f4n.<\/p>\n<p>Os felly, rhaid bod blwyddyn yn teimlo fel oes i Kirsty Williams.<\/p>\n<p>Wrth i Ysgrifennydd Cabinet Cymru dros Addysg nodi diwedd ei blwyddyn gyntaf yn ei swydd yn hwyrach yn y mis, bydd hi\u2019n adfyfyrio ar gyfnod o weithgarwch gwyllt.<\/p>\n<p>A hithau&#8217;n ychwanegiad annisgwyl i brif fwrdd Llywodraeth Cymru, etifeddodd Ms Williams anghenfil o bortffolio y mae ond ychydig, os oes rhai o gwbl, wedi\u2019i feistroli.<\/p>\n<p>Roedd yr her yn sylweddol gyda\u2019i rhagflaenydd, AC blaenorol Merthyr Tudful a Rhymni Huw Lewis, yn gadael digon o blatiau\u2019n dal i droi.<\/p>\n<p>Y mwyaf nodedig o\u2019r rhain efallai oedd <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/03\/04\/gorau-po-leiaf-wrth-ddiwygior-cwricwlwm\/\">\u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 a chynlluniau radical yr Athro Graham Donaldson ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol pwrpasol i Gymru<\/a>.<\/p>\n<p>Bydd yr hyn y mae plant yn ei ddysgu a sut maen nhw\u2019n dysgu yn ystafelloedd dosbarth Cymru yn newid yn ddirfawr yn y blynyddoedd i ddod a rhoddwyd caniat\u00e2d i ysgolion, mewn partneriaeth \u00e2 Llywodraeth Cymru, prifysgolion a chonsortia rhanbarthol, i\u2019n harwain drwy\u2019r trawsnewid hwnnw.<\/p>\n<p>Nid yn aml y gwelwn ddiwygio tebyg i hyn; mae&#8217;i gwmpas yn anferthol a\u2019i ddylanwad yn bellgyrhaeddol.<\/p>\n<p>Ond nid tasg hawdd mo ailwampio cwricwlwm cenedlaethol Cymru ac wrth reswm, cafwyd rhwystrau ar y ffordd.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, gwnaeth Ms Williams ei hymrwymiad i \u2018Donaldson\u2019 yn eglur yn gynnar iawn yn ei chyfnod wrth y llyw a rhoddodd sicrwydd y byddai gwaith a oedd eisoes ar y gweill yn derbyn cefnogaeth, a bu croeso i hyn gan y gymuned addysg.<\/p>\n<p>Bu parhad hefyd yn yr addewid o ailwampio addysg gychwynnol athrawon (AGA) a diweddaru\u2019r Safonau Addysgu Proffesiynol.<\/p>\n<p>Bydd y ddau\u2019n paratoi\u2019r gweithlu addysg yn well ar gyfer gofynion y 21ain ganrif ac felly nid oedd yn syndod na chafodd yr un o\u2019r ddau fater ei ystyried yn rhywbeth nad oedd ei angen bellach.<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd cronfa \u00a336m i leihau maint dosbarthiadau babanod, er gwaethaf y ffaith fod y dystiolaeth i awgrymu bod gwneud hynny\u2019n cael effaith yn amrywiol, ac rydym yn aros am ymgynghoriad ar gynigion i greu un corff cyllido cyffredinol ar gyfer y sectorau coleg a phrifysgol.<\/p>\n<p>Ym maes addysg uwch, ni tharodd mellt ddwywaith i\u2019r Democratiaid Rhyddfrydol, gan fod Ms Williams wedi osgoi dilema a allai fod yn niweidiol ynghylch ffioedd prifysgol.<\/p>\n<p>Talodd ei phlaid yn hallt am dorri addewid ynghylch cost ffioedd dysgu yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ond un, ond bu\u2019r penderfyniad i dderbyn y mwyafrif helaeth o argymhellion yr Athro Syr Ian Diamond yn fodd i ddal y ddysgl yn wastad.<\/p>\n<p>Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, roedd gosod grant cynhaliaeth drwy brawf modd yn lle cymhorthdal hael Llywodraeth Cymru i ffioedd dysgu yn gam gweithredu synhwyrol.<\/p>\n<p>Ond nid oedd popeth yn f\u00eal i gyd, ac nid oedd canlyniadau hir-ddisgwyliedig <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2016\/11\/29\/peidiwch-a-mynd-i-banig-achos-i-fyfyrio-yn-sgil-profion-rhyngwladol\/\">Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA)<\/a> y llynedd yn waith darllen pleserus.<\/p>\n<p>Wedi perfformiad gwael mewn tair set ddilynol o brofion PISA, methodd Cymru \u00e2 gwneud unrhyw gamau sylweddol i fyny&#8217;r tabl cynghrair dylanwadol, gan aros ar waelod pentwr y Deyrnas Gyfunol.<\/p>\n<p>Wrth ymateb, caeodd Ms Williams yr hatsys yn sownd gan gymryd ymagwedd galonogol o ddiffwdan a phwyllog.<\/p>\n<p>Diystyrodd y math o ymateb cyflym, difeddwl oedd wedi bod yn gysylltiedig \u00e2 pherfformiad gwael yn y profion PISA, gan ymwrthod \u00e2\u2019r temtasiwn i rwygo popeth yn ddarnau a dechrau eto.<\/p>\n<p>Wedi\u2019r cwbl, mae ein safle simsan yn hanner gwaelod tabl cynghrair y byd ar gyfer addysg yn ganlyniad i\u2019r sefyllfa dros lawer o flynyddoedd, a byddai wedi bod yn hollol anymarferol disgwyl newid ar raddfa eang yn y cyfnod byr o amser ers yr asesiad diwethaf.<\/p>\n<p>Roedd y modd yr oedd Ms Williams wedi sadio\u2019r llong yn union beth yr oedd ei angen; byddai newid cwrs i gyfeiriad arall wedi dadsefydlogi\u2019r cwbl.<\/p>\n<p>Roedd ail-ddatganiad yr OECD wedi hynny ei bod yn werth parhau ag agenda diwygio arfaethedig Cymru yn arwydd o hyder oedd i\u2019w groesawu, a chyfiawnhaodd benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ddal at yr un cyfeiriad.<\/p>\n<p>Felly, i ryw raddau, trowyd y perygl heibio &#8211; ond byddai materion dyrys eraill ar y gorwel.<\/p>\n<p>Yn erbyn cefnlen o gyllidebau&#8217;n crebachu, pryderon ynghylch atebolrwydd a llif gyson o newyddion negyddol, efallai nad oedd yn syndod bod canlyniadau\u2019r Arolwg Cenedlaethol cyntaf o\u2019r Gweithlu Addysg yng Nghymru yn dipyn o gymysgedd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/04\/11\/36598\/\">Yn \u00f4l yr arolwg o fwy na 10,000 o ymarferwyr cofrestredig<\/a>, mae traean o athrawon ysgol yn cynllunio i adael y proffesiwn o fewn tair blynedd a 38.6% ohonynt ddim yn gyfarwydd iawn neu ddim yn gyfarwydd o gwbl \u00e2 Dyfodol Llwyddiannus.<\/p>\n<p>Cyfeiriodd Ms Williams at fynediad athrawon i ddysgu proffesiynol a\u2019u hyder yn y dulliau o gyflwyno TGCh a\u2019r defnydd ohoni fel materion cadarnhaol a ddeilliai o\u2019r arolwg, ond briwsion prin yn unig oedd y rheini.<\/p>\n<p>Roedd y proffesiwn wedi llefaru ac, ar y cyfan, nid dyna fyddai Ysgrifennydd y Cabinet wedi dymuno\u2019i glywed.<\/p>\n<p>Wedi dweud hynny, nid oes byth amser da i fwrw golwg mor llym dros y sefyllfa ac roedd gwir angen cynnal arfarniad gonest ac agored o realiti gweithio o fewn system ysgolion Cymru.<\/p>\n<p>Ychwanegiad arall at y dirwedd addysg yng Nghymru oedd creu\u2019r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol newydd &#8211; ymrwymiad o faniffesto&#8217;r Democratiaid Rhyddfrydol sydd \u00e2\u2019r potensial i lenwi bwlch sylweddol yn y ddarpariaeth.<\/p>\n<p>I ddechrau mae\u2019r academi\u2019n cael ei chadeirio gan y cyn-Brif Arolygydd Ysgolion Ann Keane, a bydd yn gyfrifol am dynnu rhaglenni arweinyddiaeth cyfredol at ei gilydd dan fframwaith cyffredinol a luniwyd er mwyn cynnal ansawdd a rheoleiddio.<\/p>\n<p>Er mai gwaith sy\u2019n mynd rhagddo yw\u2019r academi, mae trafodaethau gydag ysgolion, prifysgolion a chonsortia addysg rhanbarthol wedi hen ddechrau ac mae\u2019r darlun yn dod yn gliriach.<\/p>\n<p>Drwy gyd-ddigwyddiad, ymddengys fod dyfodol y pedwar corff rhanbarthol sy\u2019n gyfrifol am wella ysgolion yng Nghymru yn sicr, gan fod y bygythiad iddynt wedi\u2019i atal yn gyhoeddus.<\/p>\n<p>Er gwaethaf addewid ei phlaid i\u2019w taflu ar y domen cyn etholiad y Cynulliad y llynedd, ers hynny mae Ms Williams wedi talu teyrnged i&#8217;r \u201ccyfraniad cryf i ddeilliannau gwell\u201d gan y consortia a mwy o gydweithio ganddynt \u00e2 swyddogion.<\/p>\n<p>A dweud y gwir mae cydweithio wedi bod yn rhywfaint o arwyddair yn ystod blwyddyn gyntaf Ms Williams yn ei swydd ac mae hi wedi cymryd gofal i chwalu rhwystrau canfyddedig rhwng ei hadran a\u2019r gweithlu addysg ehangach.<\/p>\n<p>Mae ar Ysgrifennydd y Cabinet eisiau i bob rhanddeiliad rannu arbenigedd a dysgu o arfer gorau, ac ar yr un pryd cymryd perchenogaeth ar ei daith wella ei hun.<\/p>\n<p>Mae diwylliant newydd o gydweithio yn gyffredin ar draws pob agwedd ar ddatblygu polisi ac mae\u2019r dulliau cydweithredol yng nghyswllt diwygio\u2019r cwricwlwm, safonau proffesiynol newydd a hyfforddi athrawon yn brawf bod Llywodraeth Cymru yn fodlon gwrando.<\/p>\n<p>Sail agwedd golegol Ms Williams yw\u2019r safbwynt ein bod oll yn bartneriaid yn y \u201cgenhadaeth genedlaethol\u201d i godi safonau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfarwyddo wedi\u2019i liniaru ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn llawer mwy tebygol o symbylu na sarhau.<\/p>\n<p>Ond law yn llaw \u00e2 chyd-adeiladu daw mwy o gyfrifoldeb; mae\u2019r pwysau i wella ar gymaryddion domestig a rhyngwladol (18 mis yn unig sydd tan y profion PISA nesaf) yn cael ei rannu.<\/p>\n<p>Pwysleisiodd Ms Williams y pwynt yn ystod cynhadledd i benaethiaid uwchradd ym mis Mawrth, pryd meddai: \u00a0\u201cDim ond hyn a hyn o weithiau y gallaf i godi yn y siambr a dweud y bydd jam yfory.\u201d<\/p>\n<p>Waeth pa mor barod y mae i dderbyn syniadau newydd na pha mor gydgordiol y mae\u2019n cyflwyno\u2019i neges yn gyhoeddus, mae llawer yn y fantol ac ni fydd PISA yn diflannu.<\/p>\n<p>Yn y tymor byrrach, bydd yn ddiddorol gweld beth ddaw o adolygiad arfaethedig o system atebolrwydd Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r pwyslais a osodir ar hyn o bryd ar ddangosydd perfformiad Lefel 2+ TGAU (pum gradd A*-C yn cynnwys Cymraeg neu Saesneg a mathemateg) yn cael ei ystyried yn brif rwystr a rhaid chwilio am gydbwysedd gofalus.<\/p>\n<p>Bydd ffordd effeithiol o dracio cynnydd disgyblion a\u2019r gwerth a ychwanegir gan ysgolion yn haws ei ddweud na\u2019i wneud.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, mae datganoli cyflog ac amodau athrawon yn dod yn nes ac mae cael yr un parch \u00e2 chydweithwyr dros y ffin yn hanfodol.<\/p>\n<p>\u2018Draen dawn\u2019 o\u2019n hathrawon gorau a mwyaf disglair i Loegr yw\u2019r peth olaf sydd ei angen arnom wrth i ni gychwyn ar yr hyn sy\u2019n sicr o fod yn gyfnod diffiniol yn hanes addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Felly gall Ms Williams adfyfyrio ar flwyddyn gyntaf yn llawn digwyddiadau wrth y llyw; cyflawnwyd llawer gan feithrin consensws eang.<\/p>\n<p>Ond hi fyddai\u2019r gyntaf i gyfaddef bod llawer o waith yn aros i\u2019w wneud.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, mae\u2019n bwysig cofio bod Cymru yn mynd i\u2019r afael \u00e2 mwy nag un ffrynt i gyd ar yr un pryd ac ni fydd newid yn digwydd dros nos.<\/p>\n<p>Felly wrth yrru ein hagenda yn ei flaen, rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ofalus i beidio \u00e2 llithro\u2019n \u00f4l i arferion y gorffennol. Byddai gorlwytho\u2019r system a disgwyl gormod yn rhy fuan yn cael effaith wanhaol ac yn peryglu llawer o\u2019r hyn y mae Ms Williams wedi ceisio\u2019i gyflawni.<\/p>\n<p>Mae atgyfnerthu\u2019n hollbwysig dros y 12 mis nesaf, er bod tipyn o droi a throelli&#8217;n si\u0175r o ddigwydd ar y ffordd.<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i Kirsty Williams agos\u00e1u at garreg filltir bwysig, mae Gareth Evans yn edrych yn \u00f4l ar flwyddyn gyntaf Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ei swydd&#8230; &nbsp; Mae diwrnod yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn \u00f4l y s\u00f4n. Os felly, rhaid bod blwyddyn yn teimlo fel oes i Kirsty Williams. Wrth i Ysgrifennydd Cabinet&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39088","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39088","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39088"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39088\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39088"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39088"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39088"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}