{"id":39089,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/llythrennedd-corfforol-goroesi-storm-anferthol\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"llythrennedd-corfforol-goroesi-storm-anferthol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/llythrennedd-corfforol-goroesi-storm-anferthol\/","title":{"rendered":"Llythrennedd Corfforol &#8211; goroesi \u2018Storm Anferthol\u2019"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae\u2019r cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd wedi\u2019i gofnodi\u2019n helaeth. Ond mae newidiadau yn ein cymdeithas wedi dod \u00e2 heriau newydd yn eu sgil, yn \u00f4l Dr Nalda Wainwright&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Rydym ni\u2019n wynebu problemau nad ydym ni erioed wedi dod ar eu traws o\u2019r blaen yn ein cymdeithas. Yn sgil lefelau uwch o anweithgarwch ymhlith plant, rhagwelwyd y gallan nhw farw bum mlynedd ynghynt na\u2019u rhieni er gwaethaf gwelliannau mewn meddygaeth fodern.<\/p>\n<p>Amcangyfrifir mai \u00a330 biliwn fydd y bil i\u2019r Gwasanaeth Iechyd Gwladol am drin cyflyrau\u2019n gysylltiedig ag anweithgarwch, sy\u2019n un o\u2019r ffactorau risg pennaf ar gyfer marwolaeth ar draws y byd.<\/p>\n<p>Mae newidiadau yn y gymdeithas wedi creu \u2018storm anferthol\u2019 yng nghyswllt ymddygiad eisteddog. Mae technoleg fodern, diffyg mannau gwyrdd, ofn dieithriaid, yr arferiad o yrru, dyfeisiau i fabanod, diwylliant y siop goffi ac amser ar y sgrin oll wedi erydu amser y byddem ni wedi\u2019i dreulio\u2019n symud.<\/p>\n<p>Mae hyn yn amharu fwyaf ac yn fwyaf pellgyrhaeddol yn achos ein plant ifanc iawn.\u00a0Mae mwy na 30 mlynedd o ymchwil i ddatblygiad echddygol yn dangos i ni fod angen i ni ddatblygu sylfeini symud yn ystod plentyndod cynnar er mwyn i ni allu manteisio ar weithgarwch corfforol am weddill ein hoes.<\/p>\n<p>Mae\u2019r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol, cymhwysedd echddygol a hunanganfyddiad yn gymhleth, ond yn ei hanfod golyga fod ar blant bach angen gallu manteisio ar chwarae o safon uchel a hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y lefelau o feistrolaeth sydd eu hangen er mwyn gwneud dewisiadau byw\u2019n iach.<\/p>\n<p>Yn ychwanegol at hyn y mae&#8217;r cysylltiadau cryf rhwng cymhwysedd corfforol a pherfformiad academaidd.\u00a0Er mwyn i\u2019r ymennydd ddatblygu\u2019r llwybrau niwral cymhleth ar gyfer sgiliau meddwl lefel uwch, mae angen cael chwech i wyth mlynedd o symud da a mewnbwn amlsynhwyraidd.<\/p>\n<p>Yn sgil yr anweithgarwch cynyddol yn y gymdeithas mae ein babanod a\u2019n plant bach yn treulio oriau ar eu heistedd ac yn derbyn adloniant drwy sgriniau, sy\u2019n arwain at niferoedd mawr o blant yn dechrau yn yr ysgol \u00e2 datblygiad echddygol gwael iawn, problemau o ran cyfathrebu a namau ar y synhwyrau.\u00a0Mae datblygiad corfforol hefyd yn cael effaith fawr ar iechyd meddwl.<\/p>\n<p>Dengys ymchwil i weithredu\u2019r Cyfnod Sylfaen fod gennym ni yng Nghymru ateb i hyn gyda chwricwlwm plentyndod cynnar yn seiliedig ar chwarae sy\u2019n arwain y byd.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid yw\u2019r potensial hwn wedi\u2019i wireddu oherwydd nad oes gan athrawon ac oedolion cefnogol yr wybodaeth angenrheidiol i sicrhau bod plant yn cael profiadau priodol er mwyn datblygu\u2019r sylfeini symud pwysig ar gyfer datblygiad da yn yr ymennydd a gweithgarwch corfforol gydol oes.<\/p>\n<p>Mae Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio i fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn. Gan fanteisio ar ymchwil a nododd y bwlch yng ngwybodaeth athrawon, gweithredwyd rhaglen o hyfforddiant a chefnogaeth mewn ysgolion targed.<\/p>\n<p>Trwy weithio gyda&#8217;r Athro Jackie Goodway o Brifysgol Daleithiol Ohio a chymrawd ymchwil anrhydeddus yn yr Athrofa, mae SKIP (Hyfforddiant Cinesthetig Llwyddiannus i Blant dan oed Ysgol) yn hyfforddi athrawon, cynorthwywyr addysgu a rhieni ynghylch pwysigrwydd symud cynnar i ddatblygiad plant.<\/p>\n<p>Dengys yr hyfforddiant sut mae plant yn dysgu symud drwy gamau datblygiadol, sut i newid tasgau a\u2019r amgylchedd er mwyn symud plant drwy\u2019r camau hyn, ac o\u2019r pwys mwyaf, er mwyn iddynt gael meistrolaeth ar y sgiliau hyn sy\u2019n angenrheidiol ar gyfer gweithgarwch corfforol gydol oes.<\/p>\n<p>Mae rhan o\u2019r prosiect hwn yn cynnwys cynnal sesiynau ennyn diddordeb rhieni ac wedyn rhieni\u2019n mynd \u00e2 chwdyn o offer adre i chwarae gyda\u2019u plant. Mae\u2019r sesiynau wedi bod yn llwyddiannus iawn a\u2019r rhieni \u00e2 chymhelliant uchel, ac mewn rhai achosion yn mynd ati i fod yn gyfrifol am gynnal y sesiynau.<\/p>\n<p>Y newyddion da yw bod ymchwil a gynhaliwyd i raglen SKIP yng Nghymru i asesu\u2019i heffaith ar ddeilliannau disgyblion yn dangos bod effaith sylweddol ar sgiliau echddygol mewn cyn lleied ag wyth wythnos.<\/p>\n<p>Mae athrawon hefyd yn adrodd yn \u00f4l am welliannau enfawr yng ngallu\u2019r plant i ganolbwyntio, ffocysu a chymryd rhan yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dulliau rydym ni wedi\u2019u defnyddio ar gyfer y rhaglen hon yn gost-effeithiol a chynaliadwy iawn, gan feithrin gallu yn y rhanbarth a defnyddio ysgolion yn ganolbwynt yn y gymuned lle mae staff datblygu chwaraeon, clybiau lleol a gwasanaethau hamdden hefyd yn cael eu hyfforddi, gan eu galluogi hwythau i weithio gydag ysgolion.<\/p>\n<p>Yn wir, mae datblygu arbenigedd sy\u2019n gallu cefnogi datblygiadau yn y cwricwlwm wrth wraidd ein gwaith ni ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Cofiwn fod yr Ysgrifennydd dros Addysg yn Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at yr angen i \u2018wneud yn si\u0175r bod y gweithlu yn ganolog i\u2019r datblygiadau hyn ac yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gallu cyflawni potensial y cwricwlwm newydd yn eu hysgolion a\u2019u lleoliadau\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r hyfforddiant hwn a dealltwriaeth ynghylch pwysigrwydd symud o ran datblygiad, a hynny mewn amgylchedd dysgu holistaidd dilys, yn angenrheidiol os ydyn ni\u2019n mynd i gael gweithlu sy\u2019n gallu gweithredu\u2019r cwricwlwm newydd, creu unigolion iach, hyderus a gosod y sylfeini ar gyfer Cymru iach a ffyniannus.<\/p>\n<ul>\n<li><strong><em>Dr Nalda Wainwright yw Cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dyma ddarn o\u2019i hanerchiad yn y drydedd Gynhadledd Llythrennedd Corfforol Ryngwladol (IPLC), yn Toronto yn ddiweddar.<\/em><\/strong><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd wedi\u2019i gofnodi\u2019n helaeth. Ond mae newidiadau yn ein cymdeithas wedi dod \u00e2 heriau newydd yn eu sgil, yn \u00f4l Dr Nalda Wainwright&#8230; &nbsp; Rydym ni\u2019n wynebu problemau nad ydym ni erioed wedi dod ar eu traws o\u2019r blaen yn ein cymdeithas. Yn sgil lefelau uwch o anweithgarwch&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39089","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39089","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39089"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39089\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39089"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39089"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39089"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}