{"id":39090,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/bywyd-tu-allan-ir-ystafell-ddosbarth\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"bywyd-tu-allan-ir-ystafell-ddosbarth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/bywyd-tu-allan-ir-ystafell-ddosbarth\/","title":{"rendered":"Bywyd tu allan i\u2019r ystafell ddosbarth"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Taflai arolwg diweddar o staff ysgolion oleuni ar yr heriau lawer sy\u2019n wynebu gweithlu addysg Cymru. Mewn cofnod blog hynod o ddiddorol, esbonia Nerys Defis y realiti beunyddiol i athrawon yng Nghymru ac esbonia pam y newidiodd hi\u2019r ystafell ddosbarth am y brifysgol&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Am bron i ugain mlynedd treuliais fy mywyd proffesiynol fel athrawes. Roedd yn swydd y dechreuais arni bron ar hap ac un y gwnes ei gadael ar hap yn ogystal, wedi i gyfnod secondiad droi yn gynnig am swydd.<\/p>\n<p>Serch hynny, tyfodd yn swydd oedd yn angerddol bwysig i mi ac roeddwn wrth fy modd gyda heriau fel annog fy nisgyblion i ddatblygu eu sgiliau a\u2019u gwybodaeth, cael gafael ar adnoddau (a gwario ffortiwn fach yn y broses!) a cheisio meddwl am ffyrdd gwreiddiol o gynllunio ac addysgu\u2019r cwricwlwm.<\/p>\n<p>Blwyddyn yn ddiweddarach mae yna bron rhyw deimlad o euogrwydd wrth i mi gydnabod fy mod wedi symud ymlaen o fod yn athrawes ddosbarth.\u00a0Pam euogrwydd?<\/p>\n<p>Yn rhannol am fy mod wedi gadael proffesiwn yr oeddwn wedi serchu ynddo, er ei fod wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf i fod yn un oedd bron yn amhosib i\u2019w gydbwyso gyda\u2019m bywyd personol.<\/p>\n<p>Yn rhannol am fy mod yn teimlo \u2019mod i wedi ildio i\u2019r pwysau ac nad wyf bellach ar flaen y gad wrth fod gyda\u2019r plant yn y dosbarth. Ac yn olaf, mae yna deimlad o euogrwydd wrth weld cymaint o athrawon yn straffaglu dan y pwysau ac eto dyma fi yn medru cyfuno\u2019r angerdd a\u2019r wybodaeth sydd gennyf am fyd addysg gydag egni newydd.<\/p>\n<p>Mae newid yn gwneud lles i bawb felly does ryfedd bod newid swydd yn rhoi egni newydd i berson.<\/p>\n<p>Does dim byd yn waeth na mynd i rigol ond, fel athrawes brofiadol ac arweinydd canol nad oedd eisiau dringo\u2019n uwch i fyny\u2019r ysgol tuag at brifathrawiaeth, roeddwn yn teimlo fel petai ymylon rhigol yn codi o\u2019m cwmpas.<\/p>\n<p>Yn flaenorol roeddwn wedi cael nifer o gyfleoedd i ddatblygu\u2019n broffesiynol, yn anffodus roedd rhwystrau ariannol wedi lleihau\u2019r cyfleoedd yn fawr.<\/p>\n<p>Dangosodd fy mhrofiad gyda phrosiectau dyfeisgar dan ofal Coleg King\u2019s Llundain, ac ymchwil gweithredol dan arweinyddiaeth <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Prifysgol Cymru y Drinodod Dewi Sant<\/a>, pa mor bwysig oedd deall y datblygiadau diweddaraf o fewn arfer dosbarth a\u2019r effeithiau cadarnhaol ddeuai yn ei sg\u00eel. Rhwystredigaeth a digalondid oedd sylweddoli bod datblygiad proffesiynol o\u2019r fath fel petai ar ben.<\/p>\n<p>Yn ddiddorol, yn dilyn cyhoeddi <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/01\/26\/athrawon-sydd-ar-allwedd-i-ddatgloi-potensial-addysg-yng-nghymru\/\">Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-2016<\/a>, mae Meilyr Rowlands y Prif Arolygydd yn datgan: \u201cMae ar arweinwyr addysg angen ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel i feithrin addysgu a dysgu hyderus a chreadigol.\u201d<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, mae nifer o athrawon yn teimlo bod yna ddiffyg cyfleoedd i ddatblygu yn broffesiynol \u2013 42% o athrawon Cymru yn \u00f4l arlowg Y Cwestiwn Mawr undeb NASUWT yn 2016.<\/p>\n<p>Neges allweddol arall o adroddiad 2015-2016 Estyn yw\u2019r angen i wella addysgu a dysgu, ac mae datblygiad proffesiynol yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.<\/p>\n<p>Caiff y pwysigrwydd hyn ei adlewyrchu o fewn y fframwaith arolygu newydd ddaw yn weithredol ym mis Medi 2017.<\/p>\n<p>Mae\u2019r naw pwynt ar hugain sydd yn y fframwaith bresennol wedi eu lleihau i bymtheg o fewn y fframwaith newydd, ac o fewn y pwyntiau gwelir pwyslais cliriach ar yr addysgu, y dysgu ac ar ddysgu proffesiynol. Rhywbeth rwy\u2019n siwr caiff ei groesawi gan athrawon ledled Cymru.<\/p>\n<p>Gofid arall gennyf fi o weithio o fewn yr ystafell ddosbarth oedd y bri cynyddol a roddwyd ar ddata a phrofion. Mae athrawon yn gwybod cystal \u00e2 neb am yr angen i godi safonau, ond roeddwn yn dechrau credu bod yr angen am atebolrwydd yn gwneud i\u2019n system addysg ni anghofio am y plentyn fel unigolyn, yn hytrach na fel rhif.<\/p>\n<p>Safonau academaidd sydd yn cael eu mesur gan brofion \u2013 dim ond un rhan o addysg yw hyn. Mae cymaint o dalentau a sgiliau hollbwysig eraill sydd angen cofio eu datblygu, gan gynnwys creadigrwydd, iechyd a lles, ffitrwydd a dinasyddiaeth.<\/p>\n<p>Tybed a yw\u2019r nod o gyrraedd y cwartel uchaf neu band gwyrdd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn dallu arweinwyr byd addysg?<\/p>\n<p>Wedi\u2019r cyfan mae tystiolaeth ymchwil gan arbenigwyr megis yr Athro Jo Boaler, yn dangos yn glir nad yw grwpio a setio plant yn \u00f4l cyrhaeddiad yn codi safonau, a\u2019r gwledydd sydd yn setio a phrofi lleiaf sydd yn gwneud orau mewn profion rhyngwladol megis PISA.<\/p>\n<p>Nid penderfyniad unigryw oedd fy newis i roi\u2019r gorau i fod yn athrawes, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/04\/11\/36598\/\">yn wir mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn awgrymu ei bod yn broblem gynyddol<\/a>.<\/p>\n<p>Byddai\u2019n ddiddorol petai\u2019r llywodraeth yn gwneud arolwg o\u2019r gweithlu addysg, gan gynnwys athrawon sydd ar fin neu newydd adael y proffesiwn.<\/p>\n<p>Gallai holi barn yr aelodau hollbwysig hyn o\u2019r gweithlu addysg roi syniadau diddorol a gwerthfawr am sut i lywio polisiau a chodi safonau.<\/p>\n<p>Heb os, bydd athrawon yn chwarae rhan allweddol dros y blynyddoedd nesaf wrth i\u2019r newidiadau ddaw yn sg\u00eel adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson ddod i rym, felly beth am holi eu barn?<\/p>\n<p>O fod wedi cyfnewid ystafell ddosbarth yr ysgol am ystafell ddosbarth mewn prifysgol mae\u2019r rhigol roeddwn ynddi wedi ei chwalu. Lle\u2019r oeddwn gynt yn teimlo\u2019n gyfyng o fewn pedair wal y dosbarth mae fy ngorwelion wedi ymestyn yn rhyfeddol. Yn ogystal mae\u2019r swydd wedi rhoi cyfle o\u2019r newydd i mi ddatblygu\u2019n broffesiynol.<\/p>\n<p>Wrth hyfforddi\u2019r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd fel athrawon y dyfodol mae cyfle i blethu theori ac arfer a gweld sut y gall ymchwil academaidd, megis gwaith Jo Boaler, fod o fudd i\u2019n plant ni yng Nghymru.<\/p>\n<p>Yn ogystal, mae cael cyfle i ddarllen am y byd addysg yn ehangach wedi rhoi cymaint gwell dealltwriaeth i mi o\u2019r rhesymau tu \u00f4l i ambell un o bolis\u00efau\u2019r llywodraeth a deall pam mae rhai strategaethau addysgu yn cael eu ffafrio dros rai eraill.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn braf gweld bod pwyslais pendant ar brofiadau ymarferol o fewn y brifysgol gyda\u2019r myfyrwyr yn cael defnyddio a gwerthuso ystod o adnoddau a strategaethau, cymryd rhan mewn gwaith ymchwil gweithredol a chyd-weithio i gynllunio ac addysgu gwersi.<\/p>\n<p>Mae\u2019n amser cyffrous i fod yn rhan o\u2019r system addysg yng Nghymru. Heb os, nid yw\u2019r system bresennol yn gwbwl effeithiol, ac o\u2019m mhrofiad i mae ysgolion Cymru yn barod i newid ac yn barod i ymroi i godi safonau a rhoi gwell dyfodol i\u2019n plant. Mae gwir botensial yng Nghymru ar gyfer newid pethau er gwell.<\/p>\n<p>Am y tro, rhyw wylio\u2019r datblygiadau o hirbell fyddaf i ond pwy wyr, pan fydd hi\u2019n amser am newid bach arall, efallai y gwelaf fy hun yn camu\u2019n \u00f4l i\u2019r ystafell ddosbarth\u2026<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Nerys Defis yn ddarlithydd AGA yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Taflai arolwg diweddar o staff ysgolion oleuni ar yr heriau lawer sy\u2019n wynebu gweithlu addysg Cymru. Mewn cofnod blog hynod o ddiddorol, esbonia Nerys Defis y realiti beunyddiol i athrawon yng Nghymru ac esbonia pam y newidiodd hi\u2019r ystafell ddosbarth am y brifysgol&#8230; &nbsp; Am bron i ugain mlynedd treuliais fy mywyd proffesiynol fel athrawes.&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39090","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39090","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39090"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39090\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39090"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39090"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39090"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}