{"id":39091,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/","title":{"rendered":"Blaen-arbenigwr ar y cwricwlwm yn ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon"},"content":{"rendered":"<p><strong>Gwahoddwyd un o ffigurau blaenllaw addysg yng Nghymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon.<\/strong><\/p>\n<p>Yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad Llywodraeth Cymru &#8216;Dyfodol Llwyddiannus\u2019 a draddododd y prif anerchiad yng nghynhadledd flynyddol \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">y Drindod Dewi Sant<\/a> ynghylch ei gynigion ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd.<\/p>\n<p>Ym mis Mawrth 2014 comisiynwyd yr Athro Donaldson gan Lywodraeth Cymru i ystyried ac adolygu&#8217;r Cwricwlwm a\u2019r Trefniadau Asesu yng Nghymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019i adroddiad dilynol \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019 yn edrych ar y cwricwlwm cyfredol yng Nghymru ac yn gosod allan nifer o gynigion radical ar gyfer newid.<\/p>\n<p>Rhoddwyd gofal am y dasg o lunio manylion cynigion yr Athro Donaldson i ugeiniau o \u2018Ysgolion Arloesi\u2019 ac mae\u2019r gwaith hwnnw&#8217;n mynd rhagddo.<\/p>\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa Addysg Y Drindod Dewi Sant<\/a> yn manteisio\u2019n helaeth ar waith yr Athro Donaldson i gefnogi datblygiad ei rhaglenni addysg athrawon newydd.<\/p>\n<p>Yn ystod ei anerchiad, esboniodd yr Athro Donaldson yn fanwl sut byddai\u2019r cwricwlwm yn cael ei weithredu a beth oedd y goblygiadau i athrawon cyfredol ac yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Ymunodd myfyrwyr cyfredol a chyn-fyfyrwyr ag ef ar y llwyfan, gan roi cyflwyniadau ar eu cyfnod cynnar yn yr ysgol a\u2019u taith drwy addysg uwch, a disgyblion o Ysgol Gynradd Ynystawe, Abertawe.<\/p>\n<p>Gwahoddwyd ysgolion partner, arbenigwyr addysg a staff yr Athrofa Addysg hefyd.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l y gynhadledd, meddai\u2019r Athro Donaldson: \u201cCynadleddau o\u2019r math yma yw hanfod holl ddatblygiad Dyfodol Llwyddiannus yng Nghymru. Mae\u2019n rhoi cyfle i\u2019r rheini a fydd wrth wraidd gwneud iddo ddigwydd, ddod at ei gilydd i fod yn rhan o\u2019r hyn rydym ni\u2019n ceisio ei wneud ac i atgyfnerthu\u2019i gilydd.<\/p>\n<p>\u201cYr hyn a ddaeth drosodd i mi heddiw oedd ar un lefel brwdfrydedd a phenderfyniad aruthrol, parhaus i fynd \u00e2 hwn yn ei flaen a gwneud iddo weithio i bobl ifanc Cymru, ond hefyd ymddengys i mi fod dod \u00e2\u2019r bobl ifanc o\u2019r ysgol at ei gilydd ar ddechrau\u2019r diwrnod yn hollbwysig mewn digwyddiadau o\u2019r fath, oherwydd er mwyn y plant y mae\u2019r cyfan.\u201d<\/p>\n<p>Trefnir cynhadledd \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 bob blwyddyn gyda\u2019r nod o ddod \u00e2\u2019r holl athrawon dan hyfforddiant ar y rhaglenni BA Addysg Gynradd, TAR Cynradd a TAR Uwchradd at ei gilydd er mwyn rhannu arfer da wrth iddynt baratoi am yrfa yn addysgu.<\/p>\n<p>Meddai trefnydd y digwyddiad Mathew Jones o\u2019r <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa<\/a> Addysg:\u00a0\u201cHoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i\u2019r Athro Donaldson am ei gyfraniad i\u2019r gynhadledd addysg eleni.<\/p>\n<p>\u201cRoedd y gynhadledd hon yn gyfle delfrydol i\u2019n myfyrwyr rannu\u2019r llwyfan \u00e2 rhywun tebyg i\u2019r Athro Donaldson ond hefyd i arddangos eu cyraeddiadau a rhannu arfer da.<\/p>\n<p>\u201cRoedd gwrando ar yr Athro Donaldson yn siarad am yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn gyffrous iawn i\u2019n myfyrwyr a gwn y bydd y profiad hwn yn fuddiol dros ben iddyn nhw wrth edrych ymlaen a chychwyn ar yrfa fel athrawon proffesiynol.<\/p>\n<p>\u201cUnwaith eto roedd yn gynhadledd lwyddiannus dros ben gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn bresennol yn y digwyddiad a 300 pellach yn gwylio ar-lein. Mae\u2019r gynhadledd bellach ar ei phumed flwyddyn ac yn mynd o nerth i nerth.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf gan ein bod ni\u2019n gobeithio adeiladu ar lwyddiant eleni.\u201d<\/p>\n<p><em>Gwylio ein fideos:<\/em><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=26Sy85wJNg0&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Intro Part1<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=FwS5pKkIFDY&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Intro Part2<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Yr5lEi7thow&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres1 KC<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=o5J-l3YcV3Q&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres2 CW<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=CKa-cz3e0JA&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres3 ER<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=1YjPi5xthfY&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres4 JM<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=Um6mpDf_6C4&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Ynystawe<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=D7thWPD3IAA&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Keynote Graham Donaldson<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=C5gQkQhvCts&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Keynote Q&amp;A Graham Donaldson<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=xMM2uqX2bYs&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres5 AP<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=QvfMWwmnO2Y&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres6 RT<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=bZQcNELOl0g&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres7 AF<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=l9Xgbxqwsw0&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres8 SJ<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=0no_2DMOsn4&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Pres9 JT<\/a><br \/>\n<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=FlFViGDgKdQ&amp;feature=youtu.be\">AFE17 Panel Discussion<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwahoddwyd un o ffigurau blaenllaw addysg yng Nghymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i ysbrydoli\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon. Yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad Llywodraeth Cymru &#8216;Dyfodol Llwyddiannus\u2019 a draddododd y prif anerchiad yng nghynhadledd flynyddol \u2018Anelu at Ragoriaeth\u2019 y Drindod Dewi Sant ynghylch ei gynigion ar gyfer cwricwlwm&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39091","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39091","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39091"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39091\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39091"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39091"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39091"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}