{"id":39092,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/brodorion-digidol-neu-farbariaid-cymdeithasol\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"brodorion-digidol-neu-farbariaid-cymdeithasol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/brodorion-digidol-neu-farbariaid-cymdeithasol\/","title":{"rendered":"Brodorion digidol neu farbariaid cymdeithasol?"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae datblygiadau ym maes technoleg yn newid y byd sydd ohoni. Ond ar ba gost? Carys Jennings sy\u2019n ymchwilio&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Bellach mae plant er yn fach yn boddi o dan f\u00f4r o synau a delweddau sy\u2019n symud yn gyflym ac sydd wedi eu creu gan ddyfeisiau.<\/p>\n<p>Mewn bwytai, canolfannau siopa, caffis a chartrefi caiff ein rhai bach eu tawelu trwy gymorth dymis digidol \u2013 (fi biau\u2019r term).<\/p>\n<p>Pryder mawr yw\u2019r posibilrwydd bod gogoneddu technoleg yn dad-wneud y sgiliau cynnar hynny sy\u2019n gosod y seiliau hanfodol ar gyfer dysgu yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae \u2018dysgug a gyfoethogir gan dechnoleg\u2019, \u2018yn gallu defnyddio cyfrifiadur\u2019 ac \u2018yn deall y feddalwedd\u2019 yn ymadroddion cyffredin oddi mewn i&#8217;r proffesiwn addysgu.<\/p>\n<p>Caiff plant heddiw eu labelu\u2019n \u2018frodorion digidol\u2019 am eu bod nhw wedi tyfu gyda\u2019r datblygiadau technolegol heb brofiad o unrhyw beth arall.<\/p>\n<p>O ystyried yr amser a dreulia\u2019r genhedlaeth bresennol yn ymwneud \u00e2 gweithgareddau sgrin, rhaid holi: \u201cOes cysylltiad rhwng y dirywiad ymddangosiadol o ran safonau llythrennedd a\u2019r cynnydd o ran defnyddio cyfrifiaduron mewn ystafelloedd dosbarth a gweithgareddau hamdden?\u201d<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/09\/blwyddyn-ym-mywyd-ysgrifennydd-dros-addysg\/\">Mae polis\u00efau addysg a chwricwla<\/a> yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys technolegau\u2019n rheolaidd mewn gwersi. O ystyried hyn, efallai fod gorddibyniaeth ar weithgareddau ar y sgrin o\u2019u cymharu \u00e2 thasgau cymdeithasol sy\u2019n sicrhau blociau adeiladu llythrennedd a chyfathrebu cynnar.<\/p>\n<p>Mae sicrhau datblygiad iaith o ansawdd yn ystod plentyndod cynnar yn hanfodol; mae plannu\u2019r gair llafar a geirfa eang yn creu llwybrau niwronau yn yr ymennydd, gan gynhyrchu cysylltiadau newydd ar sail y profiadau mae\u2019r unigolyn wedi cymryd rhan ynddyn nhw.<\/p>\n<p>Datblyga llefaredd a chymdeithasoli trwy wrando, ailadrodd a chofio i ddechrau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cyfnewid rhwng oedolyn a phlentyn trwy \u2018addysgeg fwriadol\u2019 (term a fathwyd gan Iram Siraj) yn ymestyn y siarad o\u2019r disgrifiadol i feddyliau cyffredin a gynhelir gan wneud y dysgu\u2019n glywadwy, am bwnc, digwyddiad neu wrthrych diddorol.<\/p>\n<p>Os bydd plant yn ymwneud yn gyson \u00e2 gweithgareddau sgrin, ychydig yw\u2019r rhyngweithiadau hyn; <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/12\/llythrennedd-corfforol-goroesi-storm-anferthol\/\">mae arsylwi plant wrth chwarae neu archwilio yn creu pob math o ryngweithio ieithyddol, ac yn ei dro, yn cynyddu lles y plentyn<\/a>.<\/p>\n<p>Mae gwybod pryd a sut i ymuno yn sgil unigryw i gyfarfyddiadau cymdeithasol na ellir eu hail-greu i\u2019r un graddau gan y dechnoleg.<\/p>\n<p>Mae ymwybyddiaeth ofalgar, sef techneg sy\u2019n annog meddwl a chanolbwyntio ar lefel ddyfnach, gan lifo o\u2019r diriaethol i\u2019r haniaethol, yn wrthi\u2019n ennill ei phlwyf mewn cylchoedd academaidd ac addysgol.<\/p>\n<p>Mae Lazar, Broderick a Metz a Hollenbeck ymhlith eraill yn pwysleisio\u2019r manteision posibl\u00a0 trwy ddefnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull asesu \u2013 mae\u2019r rhain yn cynnwys hunan-effeithiolrwydd uwch, cynnydd o ran sgiliau personol a rhyngbersonol a gwell cof ymarferol a pherfformiad.<\/p>\n<p>Mewn byd hynod ddigidol yn llawn delweddau llachar, sy\u2019n symud yn gyflym, mae angen i blant gael rhywfaint o lonyddwch a thawelwch, amser i ystyried ac adfyfyrio.<\/p>\n<p>Yn aml mae ystafelloedd dosbarth yn boddi o dan symbyliad \u2018s\u0175n gweledol\u2019 sydd i fod i ategu\u2019r dysgu ond mewn gwirionedd, sydd yn aml yn amharu ar eu prosesau meddwl.<\/p>\n<p>Ymchwiliodd Schonert-Reichl a Lowler (2010) i effeithiau posibl ymwybyddiaeth ofalgar ar les plant a\u2019u cymhwysedd cymdeithasol ac emosiynol, tra defnyddiodd Houston, Turner a Page (2007) waith \u2018dysgu gofalgar\u2019 Langer i ymchwilio i ddysgu a hyfforddi ail iaith.<\/p>\n<p>Canfu\u2019r astudiaethau fod rhyngweithio cymdeithasol yn ffactor hanfodol ar gyfer llwyddiant llawer o agweddau ar y datblygiad, ac un o\u2019r rhain oedd iaith a chyfathrebu.<\/p>\n<p>Mae datblygu iaith plant yn galw am ryngweithio, yn \u00f4l ac ymlaen ar lafar a chreu amgylcheddau sy\u2019n cefnogi ac sy\u2019n symbylu cyfathrebu mewn modd priodol o safbwynt datblygiadol, gan ddefnyddio dulliau ar gyfer canolbwyntio a dyfnhau meddyliau gan alluogi plant i blannu eu sgiliau neu eu geirfa newydd \u2013 gan roi ystyr iddyn nhw.<\/p>\n<p>Ond mae llythrennedd yn fwy na geiriau a dysgu rheolau iaith; mae ymddwyn a mynegi teimladau a meddyliau mewn modd cymdeithasol dderbyniol yn datblygu wrth i fodelu r\u00f4l weithredu\u2019r\u00a0 hyn a ddwedan nhw.<\/p>\n<p>Bydd plant yn datblygu sensitifrwydd i\u2019r gair llafar, priodoldeb a phrosesu trwy arsylwi\u2019r ciwiau a\u2019r cliwiau a fodelir gan &#8216;eraill mwy abl&#8217; neu oedolion o\u2019u cwmpas nhw.<\/p>\n<p>Gall sgriniau cyfrifiadur ddangos clipiau o gymeriadau sy\u2019n dangos ystumiau neu sy\u2019n adlewyrchu amrywiol ymddygiadau, fodd bynnag nid yw manion trafodaeth yn bresennol.<\/p>\n<p>Yn aml, mae\u2019r signalau a anfonir trwy fynegiant ac ystum, canolbwyntio llygad ac acen llais yn chwarae rhan hollbwysig yn nealltwriaeth plant a\u2019r broses o ddysgu iaith.<\/p>\n<p>Gall cyfathrebu heb eiriau ddwys\u00e1u\u2019r profiad y tu hwnt i s\u0175n neu\u2019r gair printiedig er mwyn ychwanegu cynnwys emosiynol.<\/p>\n<p>Mae seicolegwyr gwybyddol a damcaniaethau seico-ieithyddiaeth yn pwysleisio cymhlethdodau dysgu cyfathrebu a siarad yn rhugl; mae gan ddamcaniaethau dynwared (Pavlov), ceisio a methu a diweddaredd (Thorndike), cyfodiad (Chomsky) a damcaniaethau gwybyddol Piaget\u00a0 amrywiol syniadau ynghylch y modd y dysgir iaith.<\/p>\n<p>Y gwir amdani yw nad ydym yn sicr, gan fod y broses yn un gymhleth ac nid ydym ond megis yn dechrau datgloi a datblygu ein dealltwriaeth trwy ddelweddau ymennydd PET neu MRI.<\/p>\n<p>Trwy leihau\u2019r defnydd ar weithgareddau sy\u2019n seiliedig ar y sgrin a chofleidio model rhyngweithiol cymdeithasol a gynigiwyd gan Vygotsky, Laevers ac yn ddiweddarach Siraj, rydym yn sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau posibl i ddatblygu darllen ac ysgrifennu cynnar.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, rhaid gofalu rhag rhuthro i\u2019r agweddau hyn cyn i\u2019r plentyn gael ei baratoi a\u2019i fod yn barod gyda seiliau cadarn ar gyfer siarad a chyfathrebu; oherwydd os na fydd hyn yn digwydd yn gynnar, gall fod goblygiadau o ran mwynhad unigolion o lythrennedd, a\u2019u hyder yn hyn o beth, maes o law.<\/p>\n<p>Dadleua Alexander (2006) o blaid \u2018siarad ystafell ddosbarth\u2019, sy\u2019n cynnwys trafodaeth a dialog, wrth ddatblygu llefaredd.<\/p>\n<p>Mae rhai sgiliau\u2019n parhau sy\u2019n cefnogi darllen cynnar plant pan fydd yn barod, sef \u2018dechrau clywed llefaru, gwahaniaethu rhwng synau a dweud.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o weithgareddau ar gyfrifiaduron sy\u2019n caniat\u00e1u i blant ymroi i siarad a thrafodaeth soffistigedig gan eu bod nhw\u2019n weithgareddau eisteddol a thawel.<\/p>\n<p>Gall technoleg gefnogi, ac mae\u2019n cefnogi, rhai ffurfiau ar ddysgu, a dylid cyflwyno plant i ddatblygiadau \u2013 ond ar ba gost?<\/p>\n<p>Cyfoethogi, nid disodli, a wna\u2019r rhain, a dengys llawer o waith ymchwil na all dim ail-greu\u2019r rhyngweithio o ansawdd ymarferwyr medrus iawn a\u2019u heffaith ar safonau, datblygiad plant a\u2019u hawydd i ddysgu.<\/p>\n<p>Caiff llefaredd gwael effaith uniongyrchol ar allu plant i ddarllen ac ysgrifennu, ac mae gwybod y ffaith hon yn sicr yn symbyliad i sicrhau y caiff plant ddigon o gyfle i sgwrsio, siarad, trafod, dadlau, cwestiynu a disgrifio yn hytrach na deiet wedi ei orlwytho o chwilio, llusgo a gollwng, gweithredu, tagio a dolenni.<\/p>\n<p>Beth am osgoi\u2019r mudydd a phwyso ar y botwm ail-osod er mwyn sicrhau deiet cytbwys o\u2019r digidol a deialog?<\/p>\n<p><span style=\"text-decoration: underline;\">Pum ffordd o osgoi \u2018syndrom llygaid sgw\u00e2r\u2019 \u2013 byddwch yn greadigol!<\/span><\/p>\n<ol>\n<li>Peidiwch \u00e2 Googlo, meddyliwch \u2013 anogwch y plant i ddefnyddio eu dychymyg neu i rannu&#8217;r hyn a wyddant mewn ffyrdd arloesol, e.e. \u00a0Lluniwch boster;<\/li>\n<li>Ble mae\u2019r lle gorau?\u2013 ceisiwch beidio \u00e2 defnyddio\u2019r adran garpedau a\u2019r bwrdd gwyn rhyngweithiol ar gyfer y cyflwyniad\/ sesiwn lawn \u2013 ewch allan, yn y neuadd, o dan blanced\u2026 gwnewch bethau\u2019n gyffrous!<\/li>\n<li>Oes gwell ffordd? \u2013 byddwch yn fwriadol yn hytrach na diog, defnyddiwch dechnoleg i gyfoethogi yn hytrach nag o ran arfer;<\/li>\n<li>Chwaraewch gerddoriaeth heb animeiddiadau na lluniau \u2013 yn symbyliad neu\u2019n ddull meddwl mae\u2019n canolbwyntio ac yn tawelu neu\u2019n annog, yn dibynnu ar yr arddull;<\/li>\n<li>Mae gennym bum synnwyr \u2013 ceisiwch ddarganfod symbyliadau eraill i&#8217;w harchwilio ac ymchwilio iddynt e.e. \u00a0Sut deimlad yw\u2019r Nadolig? (hapus\/ cyffrous); Pa liw yw\u2019r Nadolig? (coch\/ aur); Pa fath o linellau sy\u2019n cynrychioli\u2019r Nadolig? (tonnog\/ pigog); Cr\u00ebwch baentiad mewn p\u00e2r sy\u2019n cynrychioli\u2019r Nadolig.<\/li>\n<\/ol>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Carys Jennings yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae datblygiadau ym maes technoleg yn newid y byd sydd ohoni. Ond ar ba gost? Carys Jennings sy\u2019n ymchwilio&#8230; &nbsp; Bellach mae plant er yn fach yn boddi o dan f\u00f4r o synau a delweddau sy\u2019n symud yn gyflym ac sydd wedi eu creu gan ddyfeisiau. Mewn bwytai, canolfannau siopa, caffis a chartrefi caiff ein&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39092","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39092","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39092"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39092\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39092"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39092"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39092"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}