{"id":39093,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/dathlu-diwylliant-cymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"dathlu-diwylliant-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/dathlu-diwylliant-cymru\/","title":{"rendered":"Dathlu diwylliant Cymru"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd gan ein hysgolion r\u00f4l fawr i chwarae wrth anelu at hyn. Aeth myfyrwyr Uwchradd TAR Cymraeg i Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont i weld os oedd disgyblion yn elwa o Gymreictod yr \u0175yl&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wrth arsylwi gwers Gymraeg Ail Iaith mewn ysgol Uwchradd yn ddiweddar, gofynnais i ddisgybl beth oedd yr athrawes yn ei wneud i\u2019w helpu i ddysgu.<\/p>\n<p>Max (nid ei enw iawn): &#8220;Miss is good. She speaks a lorra Welsh.&#8221;<\/p>\n<p>Fi: &#8220;How is that good? Beth sy\u2019n dda am hynny?&#8221;<\/p>\n<p>Max: &#8220;Well, I don\u2019t hear a lorra Welsh. It\u2019s a dead language innit. Like Latin.&#8221;<\/p>\n<p>Dwi\u2019n gwybod mai ymateb un disgybl oedd hwn. Ddylen ni ddim gorddadansoddi sylw un disgybl 12 oed. Ond, roedd y cyfan wedi gwneud i fi feddwl faint o Gymraeg mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru yn ei weld a\u2019i glywed.<\/p>\n<p>Ai r\u00f4l teuluoedd, ysgolion neu\u2019r llywodraeth yw rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw?<\/p>\n<p>Yn \u00f4l cyfrifiad 2011, mae 19% o boblogaeth Cymru dros 3 oed yn gallu siarad Cymraeg, 562,016 o bobl. Mae hynny tua\u2019r un faint \u00e2 holl boblogaeth siroedd Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro\u2026 a thref Castell-nedd.<\/p>\n<p>Mae digon o dystiolaeth yn ein cymunedau ni bod y Gymraeg yn iaith fyw ond mae\u2019n amlwg yn fwy o her i argyhoeddi disgyblion mewn ardaloedd llai \u2018Cymreig\u2019 ein bod ni yn byw mewn gwlad naturiol ddwyieithog.<\/p>\n<p>A yw\u2019r Urdd yn cynnig cyfle da i ddisgyblion weld bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn gymdeithasol?<\/p>\n<p>Sefydlwyd mudiad yr Urdd yn 1922 i sicrhau cyfle, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25) ddatblygu\u2019n unigolion cyflawn. Mae\u2019r Eisteddfod yn \u0175yl flynyddol sy\u2019n rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol gystadlu trwy ganu, dawnsio, actio a llefaru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Eisteddfod yn para am wythnos ac mae nifer o\u2019r ymwelwyr yn elwa o grwydro\u2019r maes, ymweld \u00e2 stondinau neu sgwrsio gyda hen ffrindiau. Roedd stondin PCYDDS yn denu nifer eleni gyda sialens y seiclon yn adloniant i\u2019r rhai oedd yn cymryd rhan a\u2019r rhai oedd yn gwylio!<\/p>\n<p>Profodd darpar athrawon Cymraeg ddiwrnod yn yr Eisteddfod ym Mhen-y-bont eleni. Sut fydden nhw yn ymateb i\u2019r profiad fel darpar athrawon?<\/p>\n<p>Teithiodd Owain Gordon ar y bws gyda disgyblion ei ysgol Uwchradd gan adael cartref am 4:30yb.<\/p>\n<p>&#8220;Er i mi dreulio tua deuddeg awr yno, doedd dim digon o amser i weld hanner y pethau oedd yn mynd ymlaen yno! Roedd y disgyblion wedi cyrraedd y llwyfan yn y g\u00e2n actol, yn falch iawn o ennill y drydedd wobr, ac wrth eu boddau o fod ar y teledu.&#8221;<\/p>\n<p>Sylweddolodd Kameron Harrhy bod yr Eisteddfod: &#8220;Yn rhoi&#8217;r cyfle perffaith i ddisgyblion, athrawon a Chymry o bob cwr o\u2019r wlad, i fwynhau diwylliant Cymru. Roedd hi\u2019n brofiad tra gwahanol eleni o ymweld \u00e2\u2019r Eisteddfod heb gystadlu, a gweld y cyfan o bersbectif athro.&#8221;<\/p>\n<p>Yn \u00f4l Jade Stone: &#8220;Roedd yn gyfle gwych i gael ein trochi yn yr iaith Gymraeg. Roedd hi mor braf i weld disgyblion yn cofleidio iaith a threftadaeth Cymru. Roedd teimlad cryf o falchder yn y Gymraeg.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Ffion Williams wedi cystadlu yn gyson mewn Eisteddfodau ers yn blentyn ifanc: &#8220;Mae\u2019r profiad o fynychu Eisteddfod yr Urdd yn un emosiynol flinedig. Mae&#8217;r profiad wedi agor fy llygaid i gymaint o waith mae athrawon yn ei wneud i gefnogi disgyblion i lwyddo.&#8221;<\/p>\n<p>Eleni oedd y tro cyntaf i Rebecca Morgan fynd i Eisteddfod yr Urdd. Yn ddisgybl ysgol, astudiodd y Gymraeg fel ail iaith. Erbyn hyn mae\u2019n hyfforddi i fod yn athrawes Gymraeg Ail Iaith.<\/p>\n<p>&#8220;Fel siaradwr ail iaith, roedd hi\u2019n rhyfeddol faint o gyfleoedd oedd i siarad Cymraeg o gwmpas y &#8216;maes&#8217;, o brynu tocynnau i archebu bwyd. Hoffwn i annog fy nisgyblion i fynychu Eisteddfod yr Urdd, am sawl rheswm.<\/p>\n<p>&#8220;Mae\u2019n gyfle ardderchog i gystadlu a datblygu mewn nifer o feysydd, fel canu, dawnsio a llefaru. Hefyd, dylai plant brofi sefyllfaoedd lle maen nhw\u2019n gallu ymarfer siarad Cymraeg, ac yn fy marn i, y \u2018maes\u2019 yw\u2019r lle perffaith.&#8221;<\/p>\n<p>Darpar athrawes Gymraeg Ail Iaith yw Shauna Dummett hefyd. Fel Rebecca, profiad o\u2019r Gymraeg fel ail iaith sydd ganddi.<\/p>\n<p>&#8220;Byddai&#8217;n werthfawr iawn i\u2019r disgyblion weld y cyfleoedd sydd ar gael trwy&#8217;r Gymraeg, a hefyd gweld pa mor bwysig yw dathlu ein diwylliant a&#8217;n hunaniaeth fel Cymry, gan fwynhau ar yr un pryd wrth gwrs!<\/p>\n<p>&#8220;Byddai o fudd mawr i ddisgyblion ail iaith weld sut mae pobl go iawn yn byw trwy&#8217;r Gymraeg ac rwy&#8217;n credu byddai hyn wir yn eu hannog i ddysgu a defnyddio&#8217;n hiaith.&#8221;<\/p>\n<p>Gal ymwelwyr cyson \u00e2\u2019r Eisteddfod dreulio\u2019r dydd yn cymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu. Mae\u2019n her croesi\u2019r maes heb stopio am sgyrsiau niferus. Mae\u2019n awyrgylch cymdeithasol lle mae plant ac oedolion yn mwynhau. Mae\u2019n wyl lle mae\u2019r Cymry Cymraeg yn y mwyafrif.<\/p>\n<p>Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn ymfalch\u00efo yn yr ethos Gymraeg. Cymraeg yn unig sydd i\u2019w glywed ar y llwyfan, mae\u2019r stondinau fwy neu lai yn uniaith Gymraeg.<\/p>\n<p>Gall dysgwyr elwa\u2019n fawr o weld a chlywed y Gymraeg yn cael ei dathlu gyda chymaint o hyder. Mae athrawon y dyfodol o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.<\/p>\n<p>Byddwn i wrth fy modd yn mynd \u00e2 Max am ddiwrnod i\u2019r Urdd&#8230;<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae Aled Williams yn hyfforddi athrawon Cymraeg Uwchradd yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd gan ein hysgolion r\u00f4l fawr i chwarae wrth anelu at hyn. Aeth myfyrwyr Uwchradd TAR Cymraeg i Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont i weld os oedd disgyblion yn elwa o Gymreictod yr \u0175yl&#8230; &nbsp; Wrth arsylwi gwers Gymraeg Ail Iaith&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39093","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39093","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39093"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39093\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39093"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39093"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39093"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}