{"id":39094,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/lledaenur-gair-pam-mae-cyfathrebun-allweddol-i-gyflwyno-addysg\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"lledaenur-gair-pam-mae-cyfathrebun-allweddol-i-gyflwyno-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/lledaenur-gair-pam-mae-cyfathrebun-allweddol-i-gyflwyno-addysg\/","title":{"rendered":"Lledaenu\u2019r gair \u2013 pam mae cyfathrebu\u2019n allweddol i gyflwyno addysg"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Dyma Gareth Evans yn ystyried pwysigrwydd cyfathrebu cadarnhaol wrth gyflwyno \u2018cenhadaeth genedlaethol\u2019 Cymru dros addysg&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae\u2019n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll cryn dipyn o newid dros y blynyddoedd diwethaf.<\/p>\n<p>Y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews a roddodd gychwyn ar yr agenda ddiwygio, gan ddadwneud ac ailwampio llawer o drefn y gorffennol.<\/p>\n<p>Gellir ystyried ei alwad arloesol i\u2019r gad yn gynnar yn 2011 \u2013 a\u2019r \u2018cynllun 20 pwynt\u2019 yn sgil hynny \u2013 yn achos o ailgychwyn system addysg Cymru ar \u00f4l datganoli ac mae effeithiau ei ymyrraeth i\u2019w teimlo o hyd heddiw.<\/p>\n<p>Achosodd dadansoddiad digalon y gweinidog a\u2019i alwad heriol ar system \u201chunanfodlon\u201d drafodaeth frwd o fewn y proffesiwn addysg.<br \/>\nOnd ar \u00f4l mynnu dull newydd o weithredu, roedd llawer mwy o gwestiynau nag atebion.<\/p>\n<p>O edrych yn \u00f4l, roedd yn broses hanfodol; roedd Mr Andrews wedi taflu goleuni ar ein diffygion ac roedd angen amser arnom ni i fyfyrio. Roedd asesiad trylwyr o ble roeddem a ble roedd angen i ni fynd nesaf yn hanfodol.<\/p>\n<p>Roedd yn amser i bwyso a mesur; myfyrio ar ein hanes diweddar, ystyried ein harfer cyfredol a chynllunio llwybr newydd ar gyfer ein dyfodol.<\/p>\n<p>Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ac mae\u2019r sgwrs, i amrywiol raddau, wedi parhau am yn agos at ddegawd. Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei gyflawni trwy drafod.<\/p>\n<p>Ar ryw bwynt, mae\u2019n rhaid i\u2019r gwaith caled o weithredu a gwneud polisi addysg ddod i\u2019r amlwg. Os na wnawn ni hynny, rydym mewn perygl o droi mewn cylchoedd yn barhaus.<\/p>\n<p>A bwrw ein bod, yn gyffredinol, yn gyt\u00fbn yngl\u0177n \u00e2\u2019r trywydd presennol \u2013 a byddai\u2019r gefnogaeth eang gan ymarferwyr i gwricwlwm Cymru a diwygio addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn awgrymu ein bod \u2013 mae\u2019n bryd tynnu llinell yn y tywod a dechrau ychwanegu\u2019r manylion.<\/p>\n<p>Gwyddom i ble\u2019r ydym yn mynd, ond rhaid i ni ganolbwyntio ar sut i gyrraedd yno wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, nid bwriad y ddadl arbennig hon yw cyflwyno polisi.<\/p>\n<p>Yn hytrach canolbwyntia ar y modd y mae polisi \u2013 a\u2019r agenda addysg ehangach \u2013 yn cael eu mynegi i\u2019r bobl sydd fwyaf o bwys.<\/p>\n<p>Afraid dweud, er mwyn i bolisi newydd weithio, ei bod yn rhaid cael cefnogaeth helaeth gan y rhai ar flaen y gad ym maes addysg.<\/p>\n<p>Mae cyfathrebu \u00e2 gweithwyr addysg proffesiynol a\u2019r gweithlu ehangach yn hanfodol; mae partneriaethau cadarnhaol yn allwedd i lwyddiant.<\/p>\n<p>Mae meithrin cyfalaf cymdeithasol trwy ddeialog agored ac onest o fudd i bawb a gall hwyluso&#8217;r gweithredu ar y cyd sydd ei angen i esgor ar welliant ar draws systemau.<\/p>\n<p>Ys dywed y gwyddonydd cymdeithasol Robert Putnam (2000): \u201cWhereas physical capital refers to physical objects and human capital refers to the properties of individuals, social capital refers to connections among individuals \u2013 social networks and the norms of reciprocity and trustworthiness that arise from them.\u201d<\/p>\n<p>Egwyddor ganolog cyfalaf cymdeithasol yw bod gwerth i rwydweithiau cymdeithasol, ac ni ddylid, yn fy marn i, ddiystyru eu gwerth.<\/p>\n<p>Fel cyn-newyddiadurwr addysg, mae wedi bod yn drawiadol i mi dros y chwe mis diwethaf faint o\u2019r gweithlu addysg sydd heb ymwybyddiaeth o agenda ddiwygio Llywodraeth Cymru ac sydd, mewn nifer o achosion, wedi troi cefn yn llwyr ar yr agenda honno.<\/p>\n<p>Gwelais fy mod wedi camgymryd yn fawr wrth ddisgwyl y byddai\u2019r rhan helaeth o randdeiliaid yn gyfarwydd \u00e2\u2019r rhaglen gyfredol o ddiwygio.<\/p>\n<p>Rwyf wedi cwrdd \u00e2 phenaethiaid nad ydynt yn ymwybodol o&#8217;r cynllun i ailwampio AGA yng Nghymru a nifer o rai eraill sydd \u00e2 fawr ddim gwybodaeth am gynlluniau&#8217;r Athro Graham Donaldson ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd.<\/p>\n<p>Gallai\u2019r diffyg dealltwriaeth hwn o\u2019r prif bolis\u00efau sydd ar waith fod ag oblygiadau difrifol ac mae\u2019n annhebygol y byddwn yn esgor ar newid i\u2019r system gyda niferoedd helaeth o\u2019r proffesiwn ar yr ymylon.<\/p>\n<p>Fel y dywedodd George Bernard Shaw unwaith: \u201cThe single biggest problem in communication is the illusion that it has taken place.\u201d<\/p>\n<p>Yn amlwg wnewch chi ddim perswadio pawb bod yr hyn rydych yn ei wneud yn iawn ac fe fydd rhai\u2019n mynd ati\u2019n fwriadol i wrthsefyll ymdrechion i\u2019w hysbysu a\u2019u diweddaru.<\/p>\n<p>Ond gallwn wneud yn well o lawer wrth fynegi ein \u2018cenhadaeth genedlaethol\u2019 gyffredin o blaid diwygio addysg a mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r diffyg cytundeb rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ar bob lefel.<\/p>\n<p>Mae\u2019r amrywioldeb mawr yn yr hyn mae pobl yn ei wybod a\u2019i ddeall yn wrthgynhyrchiol \u2013 ac mae gan y gymuned addysg gyfan ran bwysig i\u2019w chwarae wrth lunio neges gadarnhaol.<\/p>\n<p>Mae\u2019n ddyletswydd ar bob un ohonom i rannu\u2019r feddylfryd ddiweddaraf gyda chydweithwyr, rhieni a myfyrwyr.<\/p>\n<p>Ond dim ond hyn a hyn y gallwn ei gyflawni drwy hynny a byddwn i\u2019n cefnogi strategaeth gyfathrebu genedlaethol i\u2019n helpu ar ein ffordd.<\/p>\n<p>Mae angen rhywbeth hollgynhwysol y gellir ei ddefnyddio i estyn allan ac ymgysylltu \u00e2 phawb sydd \u00e2 rhan yn ein system addysg; cynllun wedi\u2019i dargedu\u2019n benodol at gryfhau perthnasau a chodi momentwm.<\/p>\n<p>Felly pa gamau ymarferol allai Llywodraeth Cymru eu hystyried?<\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Yn gyntaf, mae angen iddi fod \u00e2 neges glir a naratif cydlynol i gyd-fynd \u00e2\u2019i hagenda wella gyfan.<\/strong> Byddai cyfyngu ar y blaenoriaethau a chael nifer bach o gamau allweddol yn haws o lawer i\u2019w drosglwyddo i bawb dan sylw.<\/em><\/p>\n<p><em>\u2022<strong> Sicrhau cymorth hyrwyddwyr oddi mewn i\u2019r proffesiwn ac o amgylch.<\/strong> Bydd athrawon yn fwy tebygol o wrando ar ac ymddiried mewn cydweithwyr sydd \u00e2 phrofiad uniongyrchol o fywyd yn y dosbarth. Dros y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi secondio nifer o arweinwyr ysgol i\u2019r ochr weinyddol a hynny\u2019n effeithiol.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Cynnwys athrawon yn y broses benderfynu.<\/strong> Mae angen i athrawon gredu yn y polis\u00efau maent yn gyfrifol am eu gweithredu a bod \u00e2 pherchnogaeth ohonynt. Mae Llywodraeth Cymru\u2019n gweithio\u2019n galed i oresgyn rhwystrau a meithrin perthnasau, ond mae\u2019n ddyddiau cynnar o hyd a gellir gwneud mwy.<\/em><\/p>\n<p><em>\u2022 <strong>Targedu\u2019r genhedlaeth nesaf o athrawon.<\/strong> Mae blaengynllunio\u2019n hanfodol a byddai ymgysylltu \u00e2 darpar athrawon yn ystod eu hyfforddiant yn helpu chwalu mythau ac ennill cefnogaeth gynnar. Gellir defnyddio athrawon newydd gymhwyso fel cyfrwng i uwchsgilio a rhoi egni newydd i\u2019r proffesiwn ehangach.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Ystyried y cyfryngau yn rhan o\u2019r ateb, ac nid yn rhan o\u2019r broblem.<\/strong> Mae cyflwr gwybyddus cyfryngau Cymru yn her i ni i gyd, ond er hynny mae newyddiadurwyr yn chwarae rhan bwysig. Mae angen sefydlu perthnasau cadarnhaol ac archwilio\u2019r posibilrwydd o ymgyrchoedd ar y cyd.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Bod yn ddigon dewr i gyfleu newyddion drwg mewn modd mor effeithiol \u00e2 newyddion da.<\/strong> Bydd cau llygaid ar ddiffygion ac anwybyddu methiant yn esgor ar sgeptigaeth. Trwy onestrwydd yn unig y gellir meithrin ymddiriedaeth.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Peidio \u00e2 thybio bod pobl yn gwybod am beth rydych chi\u2019n s\u00f4n.<\/strong> Darparu cyd-destun ac egluro beth mae polisi\u2019n ei olygu\u2019n ymarferol. Byddai diweddariad ar y broses ddiwygio \u2013 yn cwmpasu pob llinyn allweddol o\u2019r gwaith \u2013 yn ddefnyddiol.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Siarad mewn iaith gyffredin, ddi-jargon.<\/strong> Adnabod eich cynulleidfa ac ysgrifennu mewn arddull a fydd yn sicrhau\u2019r derbyniad mwyaf.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Defnyddio Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg fel arweinydd mewn enw.<\/strong> Yn gam neu\u2019n gymwys, nid oes i wleidyddion yr enw gorau. Gallai neges gan Kirsty Williams helpu gwrthsefyll stereoteipiau negyddol. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried llythyr neu e-bost personol i bob athro yng Nghymru, yn amlinellu ei blaenoriaethau ac yn atgyfnerthu rhan hanfodol y proffesiwn wrth wella ysgolion.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Kirsty\u2019n Cysylltu?<\/strong> Yn yr un modd, gallai Ysgrifennydd y Cabinet ystyried sioe deithiol genedlaethol o ddigwyddiadau ymgysylltu, lle mae\u2019n meithrin cysylltiadau\u2019n uniongyrchol \u00e2\u2019r cyhoedd. Dwy awr gyda\u2019r nos; gwahoddiad agored a chyfle i athrawon, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion ddweud eu barn yn uniongyrchol wrth Ms Williams. Byddai cyfres o sesiynau holi ac ateb, ddim yn annhebyg i\u2019r rhai a gynhaliwyd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gymorth i godi pontydd.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/strong> <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/30\/brodorion-digidol-neu-farbariaid-cymdeithasol\/\">Mae\u2019r rhyngrwyd yn arf arbennig o bwerus ac wedi\u2019i sefydlu\u2019n gadarn yn brif ffynhonnell gwybodaeth<\/a> \u2013 felly mae\u2019n ddyletswydd arnom i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o\u2019i ddefnyddio. Roedd digwyddiad diweddar Ms Williams ar Twitter, \u2018Ask Kirsty\u2019 yn ddatblygiad i\u2019w groesawu \u2013 ond mae llawer mwy o bosibiliadau i ryngweithio. Gall y cyfryngau cymdeithasol helpu Llywodraeth Cymru i ymgysylltu \u00e2 grwpiau oedran sy\u2019n anos eu cyrraedd, yn enwedig rhieni a disgyblion iau.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Gwefan hawdd ei defnyddio.<\/strong> Mae gwefan gyfredol Llywodraeth Cymru braidd yn ffurfiol, sydd yn ddealladwy i raddau. Mae potensial ar gyfer is-wefan gysylltiedig sydd wedi\u2019i hanelu\u2019n fwy at rieni a disgyblion \u2013 a\u2019r materion sydd o\u2019r diddordeb mwyaf iddyn nhw. Gellir ei defnyddio i gynnwys adnoddau a chasglu adborth ar faterion byw.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Dathlu arfer da.<\/strong> Yn sicr mae rhywfaint o wirionedd yng nghred yr OECD nad yw Cymru\u2019n ddigon da o ran dathlu&#8217;r hyn y mae\u2019n ei wneud yn dda. Mae cyflwyno gwobrau addysgu cenedlaethol newydd yn ddechrau da, ond mae cyfle i hyrwyddo\u2019n well y gwaith sector-arweiniol sy\u2019n digwydd yn ysgolion Cymru. Gellir defnyddio hyrwyddwyr lleol i ledaenu negeseuon allweddol.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Datblygu rhwydwaith.<\/strong> Sefydlu cysylltiadau a datblygu cynghreiriau gyda\u2019r rhai a all eich cefnogi yn eich ymdrechion. Ymhlith cynghreiriaid posibl y \u2018genhadaeth genedlaethol\u2019 yn y gymuned mae sefydliadau anllywodraethol, sefydliadau\u2019r bobl, grwpiau hunangymorth a swyddogion gweithredol llywodraeth leol. Gall y rhwydweithiau hyn ganiat\u00e1u i gymunedau fanteisio i\u2019r eithaf ar adnoddau cyfyngedig at lefel lle bydd eu mewnbwn yn cael llawer mwy o effaith. Mae partneriaethau o fewn ac ar draws llywodraeth yr un mor bwysig.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Ymgyrch farchnata genedlaethol.<\/strong> Byrddau poster, slotiau ar y radio, taflenni, hysbysebion teledu; ni fyddai ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus (PR) ar draws Cymru\u2019n rhad, ond gallai ennyn diddordeb a helpu codi momentwm.<\/em><\/p>\n<p><em><strong>\u2022 Cofio\u2019r gynulleidfa fewnol.<\/strong> Gwneud yn si\u0175r fod pawb o fewn yr Adran Addysg, a thu hwnt lle bo angen, yn gyfarwydd \u00e2\u2019r datblygiadau diweddaraf. Byddai fforymau neu newyddlenni staff yn lle da i ddechrau.<\/em><\/p>\n<p>Er clod iddi, mae Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf wedi cymryd camau cadarnhaol i wella\u2019r wybodaeth mae\u2019n ei rhyddhau ac mae eisoes yn gweithredu ar nifer o\u2019r camau uchod.<\/p>\n<p>Ond mae\u2019n mynd i gymryd llawer o amser ac egni i chwalu\u2019r rhwystrau sefydledig rhwng gwneuthurwyr polisi a\u2019r bobl maent yn eu gwasanaethu. Nid tasg hawdd mo newid barn pobl ac mae angen newid diwylliant yn ogystal \u00e2 strwythurau.<\/p>\n<p>Bydd angen ffordd newydd o weithio i sicrhau ymgysylltu cadarnhaol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn i addysg yng Nghymru.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/09\/blwyddyn-ym-mywyd-ysgrifennydd-dros-addysg\/\">rwy\u2019n hyderus bod gennym yn Ms Williams Ysgrifennydd Cabinet sy\u2019n barod i fynd yn groes i\u2019r graen<\/a>.<\/p>\n<p>Bydd y manteision yn sicr yn werth yr ymdrech os llwyddir i gael pawb yn gyt\u00fbn.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Gareth Evans yw Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma Gareth Evans yn ystyried pwysigrwydd cyfathrebu cadarnhaol wrth gyflwyno \u2018cenhadaeth genedlaethol\u2019 Cymru dros addysg&#8230; &nbsp; Mae\u2019n deg dweud bod system addysg Cymru wedi gwrthsefyll cryn dipyn o newid dros y blynyddoedd diwethaf. Y cyn Weinidog Addysg, Leighton Andrews a roddodd gychwyn ar yr agenda ddiwygio, gan ddadwneud ac ailwampio llawer o drefn y gorffennol.&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39094","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39094","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39094"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39094\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39094"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39094"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39094"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}