{"id":39095,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/digwyddiad-mentergarwch-yn-edrych-ar-y-darlun-ehangach\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"digwyddiad-mentergarwch-yn-edrych-ar-y-darlun-ehangach","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/digwyddiad-mentergarwch-yn-edrych-ar-y-darlun-ehangach\/","title":{"rendered":"Digwyddiad mentergarwch yn edrych ar y darlun ehangach"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae gwahoddiad i athrawon ledled Cymru gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig, unigryw i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg fenter.<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\">Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/a> sy\u2019n cynnal y digwyddiad &#8211; \u2018Addysg Addas i\u2019r Dyfodol: yr Anghenraid Entrepreneuraidd yng Nghymru\u2019 &#8211; ddydd Gwener 14 Gorffennaf 9.30am-3pm ar Gampws Townhill, Abertawe.<\/p>\n<p>Mae\u2019r digwyddiad wedi\u2019i gynllunio i athrawon ar bob lefel allu rhannu adnoddau, offer ymarferol a\u2019r syniadau diweddaraf ynghylch addysg fenter.<\/p>\n<p>Yn ei adroddiad arloesol ar y cwricwlwm <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">\u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019<\/a>, mae\u2019r Athro Graham Donaldson yn cynnig ei farn bod angen i addysg yng Nghymru baratoi ein dysgwyr i fod yn gyfranogwyr mentrus, creadigol, sy\u2019n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.<\/p>\n<p>Gan gadw hyn mewn cof, bydd y digwyddiad yn ymhelaethu ar \u2018Beth? Pryd? Pam? a Sut?\u2019 y gallwn ni ddatblygu ein haddysgu er mwyn sicrhau ein bod ni\u2019n gweithio tuag at adeiladu cwricwlwm newydd i Gymru sy\u2019n addas i\u2019r 21ain Ganrif a thu hwnt.<\/p>\n<p>Meddai Rheolwr Mentergarwch Y Drindod Dewi Sant, Kathryn Penaluna: \u201cMae adolygiad addysg yr Athro Donaldson yn disgrifio\u2019r meddwl blaengar sydd nid yn unig yn herio\u2019r ffordd y mae dysgu ac addysgu yn digwydd ar hyn o bryd, ond hefyd mae\u2019n cwestiynu nifer o ddulliau tanategol rydym ni\u2019n eu cymryd yn ganiataol.<\/p>\n<p>\u201cGan fod yr <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/iiced\/\">Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol yn Y Drindod Dewi Sant<\/a> wedi dysgu drwy weithio gyda llawer o wledydd eraill ar yr agenda hwn, yn aml mae\u2019n rhaid i ni gamu yn \u00f4l ac edrych ar y darluniau ehangach cyn y gallwn ni wneud cynnydd.<\/p>\n<p>\u201cMae edrych ar beth sydd ar gael ar hyn o bryd a\u2019r rhesymau pam bod rhaid i ni newid, yn ein helpu ni i fod yn fwy brwdfrydig ac yn fwy rhagweithiol am y ffyrdd y gallwn ni sicrhau addysg addas i\u2019r dyfodol.&#8221;<\/p>\n<p>Mae\u2019r diwrnod wedi\u2019i anelu at athrawon o bob disgyblaeth bynciol a bydd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol, cyflwyniadau ar effaith debygol cwricwlwm Donaldson, y Cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd a phrofiadau entrepreneuraidd model r\u00f4l o fenter \u2018Syniadau Mawr Cymru\u2019.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r <a href=\"http:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/iiced\/\">Athrofa Ryngwladol er Datblygiad Entrepreneuraidd Creadigol<\/a> yn rhedeg ochr yn ochr \u00e2\u2019r Athrofa Addysg yn Y Drindod Dewi Sant.<\/p>\n<p>Er mwyn diogelu\u2019ch lle yn y digwyddiad, anfonwch e-bost at Amanda.hughes@uwtsd.ac.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gwahoddiad i athrawon ledled Cymru gymryd rhan mewn digwyddiad arbennig, unigryw i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg fenter. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy\u2019n cynnal y digwyddiad &#8211; \u2018Addysg Addas i\u2019r Dyfodol: yr Anghenraid Entrepreneuraidd yng Nghymru\u2019 &#8211; ddydd Gwener 14 Gorffennaf 9.30am-3pm ar Gampws Townhill, Abertawe. Mae\u2019r digwyddiad wedi\u2019i gynllunio i&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39095","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39095","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39095"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39095\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39095"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39095"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39095"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}