{"id":39096,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/ar-genhadaeth-i-ganada-er-budd-i-gymru\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"ar-genhadaeth-i-ganada-er-budd-i-gymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/ar-genhadaeth-i-ganada-er-budd-i-gymru\/","title":{"rendered":"Ar Genhadaeth i Ganada er budd i Gymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Bu penaethiaid ysgol o dde Cymru yn cymryd rhan mewn ymweliad astudio \u00e2 Chanada i gael cipolwg ar un o systemau addysg fwyaf blaenllaw\u2019r byd.<\/strong><\/p>\n<p>Treuliodd dirprwyaeth dan arweiniad <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Athrofa Addysg<\/a> Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bedwar diwrnod yn Toronto, yn rhan o\u2019i Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang a gyllidir gan y Cyngor Prydeinig.<\/p>\n<p>Cwrddodd yr aelodau ag uwch swyddogion Gweinyddiaeth Addysg Ontario, Coleg Athrawon Ontario a\u2019r Swyddfa Ansawdd ac Atebolrwydd Addysg (EQAO).<\/p>\n<p>Roedd amserlen lawn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion elfennol, canol ac uwchradd, lle rhoddwyd cyfle i\u2019r ymwelwyr sgwrsio \u00e2 phenaethiaid, athrawon a disgyblion.<\/p>\n<p>Meddai Tegwen Ellis, pennaeth Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr: \u00a0\u201cRoedd yn gyfle gwych i ni weld drosom ni\u2019n hunain sut mae system Canada, ac yn benodol Ontario, yn cefnogi ysgolion i ddarparu cwricwlwm deniadol ar gyfer ei disgyblion.<\/p>\n<p>\u201cMae system Ontario yn cefnogi dysgu proffesiynol i lefel uchel, ac mae\u2019n amlwg ei bod yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau addysgu o safon dda sydd, yn ei dro, yn cael effaith ar ddysgu a safonau.<\/p>\n<p>\u201cFodd bynnag, mae rhai o arferion a phrosesau Cymru, er enghraifft gwaith ysgol i ysgol ac arfer rhwydwaith, yn llawer mwy datblygedig.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Rhian Morgan Ellis, pennaeth Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, Porth, Rhondda Cynon Taf: \u00a0\u201cRoedd yn gyfle gwerthfawr tu hwnt i ddysgu sut mae Ontario wedi creu gweledigaeth ac wedi mynd ati i\u2019w gweithredu ar bob lefel &#8211; i ddisgyblion, athrawon, rhieni, arweinwyr systemau a\u2019r rheini sy&#8217;n gyfrifol am addysg ar lefel daleithiol.<\/p>\n<p>\u201cMae cael cyfle i arsylwi, dadansoddi, cymharu ac adfyfyrio wedi bod mor werthfawr. \u00a0Diolch yn fawr iawn.\u201d<\/p>\n<p>Croesawyd y penaethiaid ysgol o ranbarthau\u2019r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA), Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) a Chonsortiwm Canolbarth y De (CCD) gan <a href=\"http:\/\/www.oise.utoronto.ca\/oise\/Home\/index.html\">Athrofa Ontario ar gyfer Astudiaethau mewn Addysg (OISE) ym Mhrifysgol Toronto<\/a>.<\/p>\n<p>Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o Adran Addysg Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Meddai\u2019r Athro Peter Rabbett, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Athrofa Addysg: \u00a0\u201cMae Ontario wedi rhoi min ar ein dealltwriaeth ni o beth sy&#8217;n gwneud system addysg effeithiol. \u00a0Rydym ni wedi\u2019n hysbrydoli gan uchelgais a disgwyliadau cyson uchel pawb rydym ni wedi cyfarfod ag ef yn Toronto.<\/p>\n<p>\u201cEr bod Ontario yn cael ei gwerthfawrogi\u2019n rhyngwladol yn system sy\u2019n perfformio\u2019n dda, mae dealltwriaeth eang o\u2019r angen i wella ymhellach a\u2019r heriau y byddan nhw\u2019n eu hwynebu yn y dyfodol.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Gareth Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi Addysg yr Athrofa Addysg: \u00a0\u201cRhoddwyd cipolwg hynod ddiddorol ar un o systemau addysg fwyaf blaenllaw\u2019r byd i aelodau\u2019r ymweliad astudio.<\/p>\n<p>\u201cRoedd synnwyr o bwrpas cyffredin a rhannu cyfrifoldeb er mwyn gwella cyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd yn treiddio drwy bopeth.<\/p>\n<p>\u201cFodd bynnag tra mae Canada yn rhagori mewn llawer o feysydd, roedd yn amlwg y gall cyfeillion yn Ontario ddysgu oddi wrth Gymru hefyd.\u201d<\/p>\n<p>Cyhoeddir adroddiad llawn ar ymweliad yr Athrofa Addysg \u00e2 Chanada ar-lein.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bu penaethiaid ysgol o dde Cymru yn cymryd rhan mewn ymweliad astudio \u00e2 Chanada i gael cipolwg ar un o systemau addysg fwyaf blaenllaw\u2019r byd. Treuliodd dirprwyaeth dan arweiniad Athrofa Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bedwar diwrnod yn Toronto, yn rhan o\u2019i Rhaglen Arweinyddiaeth Fyd-eang a gyllidir gan y Cyngor Prydeinig. Cwrddodd yr&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39096","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39096","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39096"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39096\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39096"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39096"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39096"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}