{"id":39097,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/myfyrdodau-ar-researched\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"myfyrdodau-ar-researched","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/myfyrdodau-ar-researched\/","title":{"rendered":"Myfyrdodau ar ResearchED"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mudiad dan arweiniad athrawon yw ResearchED, a\u2019i nod yw gwella llythrennedd ymchwil yn y gymuned addysg. Mae Elaine Sharpling a Si\u00e2n Brooks yn trafod eu hymweliad diweddar ag un o&#8217;i gynadleddau&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Wedi&#8217;r anerchiad agoriadol ysbrydolgar gan Tom Bennett, cyfarwyddwr a sylfaenydd ResearchED (sy\u2019n ei ddisgrifio\u2019i hun yn \u201cfudiad llawr gwlad dan arweiniad athrawon\u201d), fe gychwynnodd y gynhadledd.<\/p>\n<p>Gofynnodd Tom i oddeutu 300 o gynadleddwyr, a eisteddai yn adeilad mawreddog y Ganolfan Arholiadau yn Rhydychen, a oedden nhw ar Twitter a chododd bron iawn 300 o ddwylo, cymaint yw cryfder y platfform hwn ar y cyfryngau cymdeithasol o ran uno athrawon-ymchwilwyr.<\/p>\n<p>Gan edrych o gwmpas yr ystafell y teimlad oedd ein bod ni yn ein harddegau yn frwd ar drywydd ein hoff s\u00ear mewn ystafell yn llawn o gyfranwyr YouTube; roedd mawrion byd y Trydarwyr i gyd yno.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, roedd Twitter yn byrlymu drwy&#8217;r dydd gyda chynadleddwyr yn defnyddio #rEDlang i roi sylwadau ar bwyntiau diddorol, a dadleuol ar brydiau, ac roedd y digwyddiad yn trendio ar Twitter am nifer o ddyddiau wedi\u2019r gynhadledd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r drefn yn syml ac yn effeithiol &#8211; talu \u00a320, cyrraedd a chofrestru, bachu amserlen y dydd a dod o hyd i gornel i eistedd a chynllunio\u2019ch ymgyrch.<\/p>\n<p>Mae modd dewis o amrywiaeth eang o bynciau, a phob un yn cael ei gyflwyno mewn sesiwn ar ddull seminar am oddeutu 40 munud. Rydych chi\u2019n cymryd nodiadau, yn gofyn cwestiynau a bant \u00e2 chi i\u2019r sesiwn nesaf.<\/p>\n<p>Penderfynon ni mai \u2018rhannu a rheoli\u2019 oedd y ffordd i fynd er mwyn gallu clywed y prif siaradwyr, ac \u00e2 chynllun gweithredu mewn llaw aethon ni\u2019n dwy i\u2019w ffordd ei hun.<\/p>\n<p>Yn ResearchED does dim angen teimlo\u2019n unig am eich bod chi\u2019n mynd ati i sgwrsio \u00e2 phwy bynnag sy\u2019n eistedd wrth eich ochr, ac wedyn yn dweud \u201cda bo\u201d a symud ymlaen.<\/p>\n<p>Cinio hwylus dros ben yw\u2019r stop nesaf. Cydio mewn cwdyn yn llawn ffrwyth, d\u0175r a myffin, dewis brechdan a chwrdd \u00e2 ffrindiau, wedi\u2019ch calonogi gan ansawdd y siaradwyr, a gyda chynifer o gwestiynau i\u2019w gofyn:<\/p>\n<p><strong>Si\u00e2n<\/strong>: \u201cElaine, sut mae\u2019r digwyddiad heddiw yn cymharu \u00e2 digwyddiadau eraill ResearchED?\u201d<\/p>\n<p><strong>Elaine<\/strong>: \u201cMae hwn yn lleoliad bendigedig ond dwi ddim yn meddwl y gallwch chi gymharu digwyddiadau. Mae cynadleddau ResearchED bob tro\u2019n gynulliad bywiog ac egn\u00efol o athrawon, addysgwyr athrawon a\u2019r rheini sy\u2019n frwd iawn dros beth sy&#8217;n gweithio mewn addysg. Er bod ffocws ar addysgu uwchradd, mae&#8217;r cynadleddau\u2019n dod \u00e2 theori ac arfer addysg at ei gilydd drwy arddangos sut mae athrawon wedi defnyddio ymchwil i wneud gwahaniaeth yn eu hystafelloedd dosbarth. Yn aml mae\u2019r ysbrydoliaeth i ddefnyddio ymchwil wedi deillio o weithio gyda thiwtor prifysgol, neu o ddilyn proffwydi addysg ar Twitter neu ddarllen cofnodion blog a darnau barn. Rwy\u2019n hoffi\u2019r ffaith nad oes unrhyw un diffiniad neu ffynhonnell i ymchwil. Straeon go iawn sydd yma, o ystafelloedd dosbarth go iawn lle mae athrawon go iawn yn trafod sut maen nhw wedi gofyn cwestiynau iddyn nhw\u2019u hunain, i\u2019w dysgwyr ac i\u2019w hysgolion.\u201d<\/p>\n<p><strong>Si\u00e2n<\/strong>: \u201cPa siaradwr oedd yn sefyll allan i ti?\u201d<\/p>\n<p><strong>Elaine<\/strong>: \u201cPenderfyniad anodd\u00a0&#8211;\u00a0rwy\u2019n mynd am ddau. Yn gyntaf, rhoddodd Dr Arlene Holmes-Henderson gyflwyniad ar effaith dysgu Lladin ar ddatblygiad gwybyddol plant.\u00a0Mae\u2019r canlyniadau interim yn drawiadol a dangosodd Arlene sut mae plant yn gallu dechrau archwilio patrymau gwreiddeiriau, rhagddodiaid ac \u00f4l-ddodiaid yn y Saesneg.\u00a0Roedd e&#8217;n gafael ynot ti.\u00a0Efallai yr awn ni ymlaen \u00e2 hyn gydag ysgolion ac athrawon dan hyfforddiant a byddwn ni\u2019n sicr yn edrych ar y wefan ddefnyddiol yma:\u00a0<a href=\"https:\/\/classicsincommunities.org\/\">https:\/\/classicsincommunities.org\/<\/a><\/p>\n<p>\u201cFy newis arall i yw Carl Hendrick &#8211; siaradwr atyniadol iawn a roddai ystyriaeth i\u2019r mathau o ymchwil a ddylai fod gan athrawon Saesneg ar flaenau eu bysedd.\u00a0Cododd nifer o bwyntiau diddorol ynghylch a ydy ein system addysg yn ffafrio pobl allblyg, ac oferedd gwaith gr\u0175p pan nad yw\u2019r dysgwyr yn sicr yn eu gwybodaeth bynciol.\u00a0Roeddwn i\u2019n falch i ddarganfod bod Carl yn un o gefnogwyr Daniel Willingham (<a href=\"http:\/\/www.danielwillingham.com\/daniel-willingham-science-and-education-blog\">http:\/\/www.danielwillingham.com\/daniel-willingham-science-and-education-blog<\/a>).<\/p>\n<p>\u201cBeth amdanat ti?\u201d<\/p>\n<p><strong>Si\u00e2n<\/strong>: \u201cRoeddwn i\u2019n llawn cyffro i weld y gwrw Ieithoedd Tramor Modern Dr Gianfranco Conti ac roedd ei sesiwn ar \u2018Breaking the sound barrier: teaching listening skills bottom-up\u2019 yn ddiddorol dros ben, gyda llawer o syniadau ymarferol roeddwn i\u2019n gallu eu rhoi ar waith ar unwaith. Yn yr un modd, roedd sesiwn yr Athro Victoria Murphy ar \u2018Why English literacy teachers should care about MFL learning\u2019 yn arbennig o ddiddorol o ran y newidiadau yn y cwricwlwm yng Nghymru a fy niddordebau ymchwil fy hun. Fodd bynnag, yr uchafbwynt i mi oedd sesiwn Gillian Campbell-Thow, \u20181+2 languages: Joining the dots and weaving some multilingual magic\u2019. Roedd brwdfrydedd Gillian dros wella dulliau addysgu ieithoedd yn f&#8217;ysbrydoli i gymaint nes fy mod i eisiau symud i Glasgow yn y fan a\u2019r lle!<\/p>\n<p>\u201cYr unig sesiwn yr aeth y ddwy ohonon ni iddi gyda\u2019n gilydd oedd yr un gan athro o Ysgol Michaela. Mae&#8217;r ysgol yma\u2019n cael ei hystyried yn &#8220;ysgol fwyaf llym Lloegr\u201d ac mae&#8217;n defnyddio Twitter yn helaeth. Ces i fy nghyfareddu ond yn teimlo i mi gael fy nghynhyrfu i\u2019r un graddau. Gyda\u2019r awgrym o ddim PowerPoint, dim amcanion, dim lluniau\u00a0a bron iawn dim marcio, meddyliais i am yr adborth i\u2019r gwrthwyneb roeddwn i wedi\u2019i roi i fy myfyrwyr TAR fy hun yr wythnos flaenorol.\u00a0Beth oedd dy deimladau di?\u201d<\/p>\n<p><strong>Elaine<\/strong>: \u201cYmdrechais i\u2019n galed i beidio ag adweithio na chael fy ngwylltu gan sylwadau megis \u2018dim gwaith gr\u0175p\u2019 a \u2018dim gweithgareddau\u2019 er mai geiriau megis \u2018cydweithio\u2019, \u2018siarad deialogaidd\u2019 a \u2018dysgu drwy ddarganfod\u2019 oedd ar flaen fy meddyliau i! Roeddwn i&#8217;n hoffi\u2019r syniad o roi ergyd i\u2019r status quo a chreu trafodaeth danbaid. Roedd y ffocws ar addysgu gwybodaeth a gwerth yr athro\/athrawes fel y prif adnodd yn bwyntiau diddorol ac roeddwn i\u2019n gallu gwerthfawrogi\u2019r safbwynt yma. Fodd bynnag, fy nheimlad pennaf i oedd \u2018Gobeithio bydd y plant yn iawn\u2019.\u201d<\/p>\n<p><strong>Si\u00e2n<\/strong>: \u201cRoedd y syniad o ddod ag ymchwilwyr Saesneg ac Ieithoedd Tramor Modern at ei gilydd yn ddiddorol iawn yng ngoleuni <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">cwricwlwm Donaldson<\/a>, fodd bynnag, rwy wedi teimlo fel petawn i\u2019r unig un o Gymru yn yr ystafell yn y rhan fwyaf o sesiynau.\u00a0Oeddet ti\u2019n teimlo bod cynrychiolaeth dda o Gymru?\u201d<\/p>\n<p><strong>Elaine<\/strong>: \u201cNa, ddim o gwbl &#8211; chwrddais i \u00e2 neb arall o Gymru. Dyma ein her ni ac mae\u2019n un y mae\u2019n rhaid i ni fynd ymlaen \u00e2 hi gyda th\u00eem Tom Bennett!\u201d<\/p>\n<p>Hyd yn oed cyn i\u2019r gynhadledd ddod i ben, roedd cyflwynwyr wedi rhannu eu cyflwyniadau\u2019n hael iawn ar Twitter.<\/p>\n<p>Ar y tr\u00ean ar y ffordd adre roedden ni wedi s\u00f4n am @tombennett71 mewn trydariad i ddiolch iddo am drefnu diwrnod mor gyffrous.<\/p>\n<p>Atebodd yntau ar unwaith gan ddymuno\u2019n dda i ni. Yn bendant mae\u2019r gymuned hon o athrawon-ymchwilwyr yn un groesawgar.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Elaine Sharpling yw Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg Gychwynnol Athrawon a Si\u00e2n Brooks yw tiwtor TAR Ieithoedd Tramor Modern yn yr Athrofa Addysg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mudiad dan arweiniad athrawon yw ResearchED, a\u2019i nod yw gwella llythrennedd ymchwil yn y gymuned addysg. Mae Elaine Sharpling a Si\u00e2n Brooks yn trafod eu hymweliad diweddar ag un o&#8217;i gynadleddau&#8230; &nbsp; Wedi&#8217;r anerchiad agoriadol ysbrydolgar gan Tom Bennett, cyfarwyddwr a sylfaenydd ResearchED (sy\u2019n ei ddisgrifio\u2019i hun yn \u201cfudiad llawr gwlad dan arweiniad athrawon\u201d), fe&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39097","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39097","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39097"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39097\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39097"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39097"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39097"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}