{"id":39098,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/torri-tir-newydd-ym-maes-diwygio-addysg\/","title":{"rendered":"Torri tir newydd ym maes diwygio addysg"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae\u2019r Athro Graham Donaldson yn adfyfyrio ar y gwaith o ddatblygu\u2019r cwricwlwm hyd yn hyn ac yn esbonio pam bod athrawon yng Nghymru wrth wraidd diwygio addysg&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Un o&#8217;r agweddau mwyaf boddhaol ar fy ngwaith yng Nghymru yw\u2019r cyfle y mae\u2019n ei roi i mi gwrdd \u00e2 phobl ifanc, <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2017\/05\/18\/blaen-arbenigwr-ar-y-cwricwlwm-yn-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf-o-athrawon\/\">myfyrwyr ac athrawon a gweld arfer rhagorol drosof fy hun<\/a>.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r brwdfrydedd tuag at ddiwygio\u2019r cwricwlwm yng Nghymru yn amlwg ac mae\u2019n glir i mi fod llawer y gellir adeiladu arno o ran beth sy\u2019n digwydd eisoes mewn ystafelloedd dosbarth ar draws y wlad.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cwricwlwm newydd yn dechrau datblygu. Eisoes mae gennym Fframwaith Cymhwysedd Digidol sy\u2019n arwain y byd a gafodd groeso gan athrawon.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffordd y cafodd y Fframwaith ei ddatblygu ac y mae bellach yn ymwreiddio mewn ysgolion, yn cyflwyno model gweithredol o ddulliau yng Nghymru ar waith. Trwy gyfuno arbenigedd sy\u2019n deillio o ymchwil ac arfer \u00e2 manteisio ar y syniadaeth gyfredol orau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae Cymru yn torri tir newydd ym maes diwygio addysg.<\/p>\n<p>Ar sail y cyfeiriad eang a osodwyd yn y ddogfen \u2018<a href=\"http:\/\/gov.wales\/newsroom\/educationandskills\/2015\/10323651\/?skip=1&amp;lang=cy\">Dyfodol Llwyddiannus<\/a>\u2019, mae athrawon mewn ysgolion arloesi a\u2019u cydweithwyr yn fwy eang yn mynd i\u2019r afael \u00e2 nifer o faterion anodd iawn wrth iddynt ddatblygu\u2019r Meysydd Dysgu a Phrofiad. Hyd yn hyn mae\u2019r cynnydd yn galonogol.<\/p>\n<p>Bydd llwyddiant yn y pen draw yn dibynnu ar beth sy\u2019n digwydd ymhob ystafell ddosbarth a phob ysgol ar draws Cymru. A bydd hynny\u2019n dibynnu ar y graddau y bydd athrawon ac ymarferwyr addysg yn fwy cyffredinol yn credu ym mhwysigrwydd y cwricwlwm newydd ac yn teimlo\u2019n hyderus ac yn fedrus ynghylch eu gallu i\u2019w wireddu ar gyfer y bobl ifanc dan eu gofal.<\/p>\n<p>Dyna pam nad diwygio&#8217;r cwricwlwm a\u2019r asesu\u2019n unig mo Cymru. Un o\u2019r gwersi cryfaf sy\u2019n deillio o ymchwil ynghylch diwygio addysg yw\u2019r angen i ddynodi a gosod yn eu lle\u2019r amodau sydd eu hangen er mwyn llwyddo.<\/p>\n<p>Mae hynny\u2019n golygu dynodi goblygiadau i ddysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yn ogystal \u00e2 sicrhau bod systemau atebolrwydd yn helpu ac nid yn rhwystro gwireddu\u2019r cyfleoedd a gynigir gan y cwricwlwm newydd. Mae Cymru efallai yn unigryw yn y ffordd drwyadl a chynhwysfawr y mae&#8217;n gwneud hynny\u2019n union.<\/p>\n<p>Mae\u2019r dull arloesi\u2019n gwreiddio\u2019r gwaith o ddatblygu\u2019r cwricwlwm newydd yn yr ysgolion eu hunain. Trwy wneud hynny, bydd yn helpu i greu perchnogaeth go iawn ar y diwygio ymhlith y rheini a fydd yn gwneud iddo ddigwydd.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, nid yr ysgolion arloesi\u2019n unig sy\u2019n ymwneud \u00e2 diwygio. Mae modd i ysgolion ac athrawon ar draws Cymru gyfrannu i\u2019r gwaith datblygu a dylent wneud hynny.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/cwricwlwmigymru.llyw.cymru\/2017\/07\/04\/cymrun-arwain-y-ffordd-o-ran-diwygio\/\">Mewn llawer o ffyrdd, athrawon newydd sy\u2019n dod i mewn i\u2019r proffesiwn yn y blynyddoedd i ddod fydd ar flaen y gad gyda\u2019r diwygio<\/a>. Dyna pam mae gwaith ein prifysgolion mewn addysg athrawon mor bwysig.<\/p>\n<p>Mae fy nghyfarfodydd \u00e2 myfyrwyr dros y flwyddyn ddiwethaf yn awgrymu bod brwdfrydedd tuag at y diwygio ynghyd \u00e2 dealltwriaeth dda o\u2019r hyn y gallai ei olygu i\u2019w gwaith nhw yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae llawer o benaethiaid wedi rhoi sylwadau cadarnhaol ynghylch agweddau cadarnhaol athrawon newydd gymhwyso. Rhaid i ni ddefnyddio\u2019r brwdfrydedd hwnnw a pheidio \u00e2\u2019i golli.<\/p>\n<ul>\n<li><em><strong>Mae\u2019r Athro Graham Donaldson yn uwch gynghorydd i Lywodraeth Cymru ac ef yw awdur \u2018Dyfodol Llwyddiannus\u2019, y glasbrint ar gyfer cwricwlwm cenedlaethol newydd Cymru<\/strong><\/em><\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r Athro Graham Donaldson yn adfyfyrio ar y gwaith o ddatblygu\u2019r cwricwlwm hyd yn hyn ac yn esbonio pam bod athrawon yng Nghymru wrth wraidd diwygio addysg&#8230; &nbsp; Un o&#8217;r agweddau mwyaf boddhaol ar fy ngwaith yng Nghymru yw\u2019r cyfle y mae\u2019n ei roi i mi gwrdd \u00e2 phobl ifanc, myfyrwyr ac athrawon a gweld&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39098","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39098","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39098"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39098\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39098"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39098"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39098"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}