{"id":39099,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/cynghrair-newydd-gydar-big-learning-company\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"cynghrair-newydd-gydar-big-learning-company","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/cynghrair-newydd-gydar-big-learning-company\/","title":{"rendered":"Cynghrair newydd gyda\u2019r Big Learning Company"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi llofnodi partneriaeth strategol gydag un o brif sefydliadau dysgu digidol y DU.<\/strong><\/p>\n<p>Bydd y <a href=\"https:\/\/biglearningcompany.com\/\">Big Learning Company (BLC)<\/a> yn cynorthwyo cynlluniau&#8217;r Athrofa ar gyfer addysg athrawon ac yn cyfoethogi ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion partner a staff <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">Yr Athrofa<\/a>.<\/p>\n<p>Rhagwelir y bydd Athrofa\u2019r brifysgol yn gweithio gyda BLC i ddarparu cynnwys addysgol digidol newydd, rhaglenni datblygu athrawon a thechnoleg addysg o\u2019r radd flaenaf.<\/p>\n<p>Bydd y bartneriaeth hefyd yn gweld Yr Athrofa: Caerdydd yn cael ei chreu, canolfan ategol ar gyfer gwaith yr Athrofa ym mhrifddinas Cymru.<\/p>\n<p>Lleolir Yr Athrofa: Caerdydd ym mhencadlys BLC yn Tramshed Tech, yn agos at orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.<\/p>\n<p>Mae BLC a\u2019r Brifysgol eisoes wedi cyhoeddi partneriaeth mewn perthynas \u00e2\u2019r Egin, clwstwr cyfryngau creadigol a digidol y Brifysgol a leolir ar gampws Caerfyrddin.<\/p>\n<p>Mae BLC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ehangu nifer y \u2018Clybiau Codau\u2019 yng Nghymru ac wedi denu clod uchel oddi wrth y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.<\/p>\n<p>Croesawodd Yr Athro Dylan Jones, Cyfarwyddwr Yr Athrofa, y bartneriaeth a\u2019r posibiliadau lu sydd yn dod yn ei sgil.<\/p>\n<p>Meddai: \u201cMae BLC wedi datblygu enw cryf fel arweinydd ym maes dysgu digidol a thechnoleg ac rydym wrth ein boddau i weithio mor agos gyda nhw.<\/p>\n<p>\u201cBydd eu harbenigedd yn amhrisiadwy wrth i ni edrych ar ddatblygu ymhellach ein <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/professional-learning-partnership\/\">Partneriaeth Dysgu Proffesiynol<\/a> mewn ysgolion ar draws Cymru ac rydym yn archwilio nifer o brosiectau cyffrous i gefnogi&#8217;n darpariaeth addysg athrawon newydd.<\/p>\n<p>\u201cBydd safle parhaol i\u2019r Athrofa yng Nghaerdydd yn agor drysau newydd i ni ym mhrifddinas Cymru fel rwy\u2019n si\u0175r y bydd cydweithwyr yng Nghaerfyrddin yn elwa drwy gael presenoldeb BLC yno.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r rhain yn amserau cyffrous i&#8217;r Athrofa ac mae llofnodi\u2019r cytundeb hwn yn dystiolaeth bellach o\u2019n huchelgais aruthrol ar gyfer addysg athrawon yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Meddai Louise Harris, Prif Weithredwr BLC: \u201cRydym wrth ein boddau i gael y cyfle hwn i gryfhau\u2019n perthynas sefydlog gyda PCYDDS \u2013 un o brif sefydliadau addysg uwch Cymru ym maes addysg a hyfforddiant \u2013 i ddatblygu addysg athrawon a\u2019r sector technoleg addysg yn gyffredinol yng Nghymru.<\/p>\n<p>\u201cDrwy weithio ar y cyd gydag Athrofa\u2019r brifysgol ar wasanaethau digidol arloesol, cynhyrchion technoleg a chynnyrch digidol lefel uchel\u00a0 ar draws y sector addysg cyfan, bydd y bartneriaeth strategol hon yn creu ystod o bosibiliadau cyffrous i\u2019r ddwy ochr: drwy greu Athrofa: Caerdydd ym mhencadlys BLC yng nghanol prifddinas Cymru yn Tramshed Tech; a thrwy weithio\u2019n agos gydag Athrofa yng Nghaerfyrddin i gyflwyno gwasanaethau hyfforddiant ac addysg digidol.<\/p>\n<p>\u201cMae amserau cyffrous ar y ffordd i addysg Cymru!\u201d<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi llofnodi partneriaeth strategol gydag un o brif sefydliadau dysgu digidol y DU. Bydd y Big Learning Company (BLC) yn cynorthwyo cynlluniau&#8217;r Athrofa ar gyfer addysg athrawon ac yn cyfoethogi ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion partner a staff Yr Athrofa. Rhagwelir y bydd Athrofa\u2019r brifysgol&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39099","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39099","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39099"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39099\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39099"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39099"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39099"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}