{"id":39100,"date":"2021-02-26T16:23:01","date_gmt":"2021-02-26T16:23:01","guid":{"rendered":"https:\/\/athrofa.cymru\/2021\/02\/26\/symposiwm-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-addysg-yng-nghanada\/"},"modified":"2021-02-26T16:23:01","modified_gmt":"2021-02-26T16:23:01","slug":"symposiwm-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-addysg-yng-nghanada","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/2021\/02\/26\/symposiwm-yn-taflu-goleuni-newydd-ar-addysg-yng-nghanada\/","title":{"rendered":"Symposiwm yn taflu goleuni newydd ar addysg yng Nghanada"},"content":{"rendered":"<p><strong>Un o systemau addysg blaenllaw\u2019r byd yw ffocws symposiwm arbennig a gaiff ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod yr hydref.<\/strong><\/p>\n<p>Gwnaiff yr Athrofa, yn ei digwyddiad \u2018Tales from Toronto\u2019 a gynhelir ddydd Iau, Medi 28ain, gyflwyno mewnwelediad unigryw i fyd addysg Ontario, Canada.<\/p>\n<p>Mae\u2019r symposiwm, a gaiff ei gynnal yn <a href=\"http:\/\/tramshedtech.net\/cy\/home-page-cy\/\">Tramshed Tech<\/a>, gerllaw Gorsaf Reilffordd Caerdydd Canolog, yn cynnwys\u00a0cyfraniadau gan gynrychiolyddion yr Athrofa a wnaeth ymweld \u00e2 Toronto ym mis Mehefin.<\/p>\n<p>Gwnaeth ymweliad astudio a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig gynnwys cyfarfodydd gydag uwch swyddogion Gweinyddiaeth Addysg Ontario, Coleg Athrawon Ontario a\u2019r Swyddfa Ansawdd Addysg ac Atebolrwydd (SAAA).<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r rhain, ymwelwyd ag ysgolion elfennol, canol ac uwchysgolion, lle cafodd y cynrychiolyddion gyfle i rannu syniadau gyda phenaethiaid, athrawon a disgyblion.<\/p>\n<p>Croesawyd staff yr Athrofa, uwch gynrychiolwyr Adran Addysg Llywodraeth Cymru a phenaethiaid ysgolion ardaloedd GCA, ERW a Chonsortiwm Canolbarth y De gan\u00a0y mawreddog Ontario Institute for Studies in Education (OISE), sydd yn rhan o Brifysgol Toronto.<\/p>\n<p>Dywedodd yr Athro Peter Rabbett, Dirprwy Ddeon <a href=\"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/\">yr Athrofa<\/a> ac arweinydd y cynrychiolyddion \u201cRhoddwyd i aelodau\u2019r ymweliad astudio mewnwelediad diddorol iawn i un o systemau addysg blaenllaw\u2019r byd.<\/p>\n<p>\u201cGwnaiff Tales from Toronto roi i\u2019r sawl a oedd yn bresennol ar y daith y cyfle i rannu\u2019r hyn y gwnaethant ei ddysgu, y da yn ogystal \u00e2\u2019r gwael, gyda chydweithwyr. Ni ddylid colli\u2019r cyfle i glywed eu hadfyfyriadau ar yr esiampl flaenllaw ryngwladol hon o arferion da!\u201d<\/p>\n<p>Mae Tales from Toronto yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy\u2019n agored i ysgolion partner a chyfeillion yr Athrofa.<\/p>\n<p>Gofynnir i westeion gyrraedd o 6pm ymlaen, er mwyn cychwyn am 6.30pm.<\/p>\n<p>Bydd cop\u00efau o adroddiad yr Athrofa ar system addysg Ontario ar gael ar y noswaith.<\/p>\n<p>Am ragor o wybodaeth, ac i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch \u00e2 Lesley Morgan gan ddefnyddio\u2019r cyfeiriad e-bost lesley.morgan@uwtsd.ac.uk<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Un o systemau addysg blaenllaw\u2019r byd yw ffocws symposiwm arbennig a gaiff ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod yr hydref. Gwnaiff yr Athrofa, yn ei digwyddiad \u2018Tales from Toronto\u2019 a gynhelir ddydd Iau, Medi 28ain, gyflwyno mewnwelediad unigryw i fyd addysg Ontario, Canada. Mae\u2019r symposiwm, a gaiff ei gynnal yn Tramshed Tech, gerllaw Gorsaf Reilffordd&hellip;<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-39100","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","description-off"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39100","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=39100"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/39100\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=39100"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=39100"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/athrofa.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=39100"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}